Dick Richardson
Paffiwr pwysau trwm o Gymru oedd Richard Alexander Richardson (1 Mehefin 1934 – 15 Gorffennaf 1999). Daliodd y teitl pwysau trwm Ewropeaidd rhwng Mawrth 1960 a Mehefin 1962. Enillodd 31 allan o'i 47 gornest broffesiynol, gan golli 14, gyda dwy gêm gyfartal. Roedd yn un o bedwarawd o baffwyr bwysau trwm Prydain a fyddai'n bosib herio am bencampwriaeth teitl trwm y byd yn y 1950au a'r 1960au cynnar, ynghyd â Henry Cooper, Joe Erskine a Brian London.
Dick Richardson | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mehefin 1934 Casnewydd |
Bu farw | 15 Gorffennaf 1999 o canser |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | paffiwr |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Trechodd Richardson nifer o brif baffwyr bwysau trwm yn ei yrfa, gan gynnwys; Karl Mildenberger, Bob Baker, Brian London a Hans Kalbfell.
Gyrfa
golyguGaned ef yn Richard Alexander Richardson ond roedd yn cael ei adnabod fel Dick. Fe'i magwyd yn ardal Maesglas, Casnewydd. Roedd yn 6 troedfedd 3 modfeddi (191 cm) o daldra ac yn pwyso tua 14 stone 4 pound (200 lb; 91 kg). Cafodd rai gornestau amatur cyn cael ei alw i'w wasanaeth cenedlaethol yn 1953. Gwasanaethodd yng Nghorfflu Gwasanaeth Brenhinol y Fyddin lle daeth yn bencampwr bocsio. Fodd bynnag cafodd ei guro yn y pencampwriaethau bocsio rhyng-wasanaeth gan Brian London, a fyddai'n dod yn yn bencampwr bocsio pwysau trwm Prydain yn ddiweddarach, gyn ymladd dan ei enw iawn, Harper.
Trodd Richardson yn broffesiynol yn 1954, dan reolaeth Wally Lesley ac fe'i hyfforddwyd gan Johnny Lewis mewn campfa yn Blackfriars, Llundain. Ym mis Medi 1954, collodd ei ornest broffesiynol gyntaf ar bwyntiau yn erbyn gefeill Henry Cooper, George, yn ymladd dan yr enw Jim Cooper. Fe ddialodd y golled hon ym mis Mawrth 1955 gyda ergyd loriol dechnegol yn yr ail rownd.
Esgyn
golyguDechreuodd Richardson greu rhestr drawiadol o fuddugoliaethau, llawer ohonynt "o fewn y pellter". Ym mis Mai 1956 ymladdodd ei cyd-Gymro, y paffiwr pwysau trwm, Joe Erskine, yn Stadiwm Maendy, Caerdydd, o flaen 35,000 o gefnogwyr. Er iddo lorio Erskine yn rownd pump, collodd Richardson ar bwyntiau. Parhaodd Richardson i chwilio am wrthwynebwyr o safon uwch ac ym mis Hydref 1956, ymladdodd y cyn-bencampwr byd Ezzard Charles mewn gornest a ddaeth yn ffars pan gafodd yr Americanwr ei ddiarddel yn rownd dau am ddaliad parhaus. Ymladdodd nesaf yn erbyn y Ciwban o'r radd flaenaf, Nino Valdes ym mis Rhagfyr 1956, ond fe'i gorfodwyd i ymddeol yn yr wythfed rownd.
Gornest teitl gyntaf Richardson oedd am deitl Pwysau Trwm y Gymanwlad (Ymerodraeth Brydeinig) yn erbyn y deiliad, y Jamaican, Joe Bygraves, yng Nghaerdydd ym mis Mai 1957. Gêm gyfartal oedd yr ornest, dros bymtheg rownd a llwyddodd Bygraves i gadw ei deitl.
Ym mis Hydref 1957, collodd Richardson mewn gornest yn erbyn Willie Pastrano, paffiwr a fyddai'n mynd ymlaen i fod yn bencampwr <a href="./Pwysau_ysgafn-trwm" rel="mw:WikiLink" data-linkid="132" data-cx="{"adapted":false,"sourceTitle":{"title":"Light heavyweight","description":"Weight class used in boxing, kickboxing, and mixed martial arts","pageprops":{"wikibase_item":"Q1004748"},"pagelanguage":"en"},"targetFrom":"mt"}" class="mw-redirect cx-link" id="mwMQ" title="Pwysau ysgafn-trwm">pwysau ysgafn-trwm</a> y byd. Roedd yn ymddangos bod ei yrfa yn pallu pan gafodd ei guro gan Henry Cooper ym mis Medi 1958, ar ergyd dechnegol yn y bumed rownd, a chollodd hefyd i Joe Erskine ar bwyntiau ym mis Mehefin 1959.
Teitl Ewropeaidd
golyguFodd bynnag, ym mis Mawrth 1960, cafodd ei baru yn erbyn y bocsiwr Almaenig Hans Kalbfell, am y teitl Ewropeaidd pwysau trwm gwag. Yr oedd eisoes wedi curo Kalbfell mewn pedair rownd, ym Mhorthcawl, ac enillodd y ornest hon, a gynhaliwyd yn Dortmund, yr Almaen, trwy ergyd dechnegol yn y drydedd rownd ar ddeg. Arweiniodd orchfygiad Kalbfell at gythrwfl ymhlith cefnogwyr yr Almaen, ac roedd rhaid i'r heddlu hebrwng Richardson i'w ystafell newid.
Amddiffynnodd Richardson ei deitl Ewropeaidd ym mis Awst 1960, yn erbyn Brian London, ym Mhorthcawl, gan ennill trwy ergyd dechnegol yn yr wythfed rownd. Ysgogodd y canlyniad hwn ffrwgwd, pan ddaeth tad a brawd London ddod fewn i'r cylch i brotestio bod Richardson wedi defnyddio ei ben i agor trychiad ar ei wrthwynebydd. Roedd rhaid i frodyr Richardson ddod i fewn i'w amddiffyn.
Enillodd Richardson ornest ddychweliad yn erbyn Hans Kalbfell yn Dortmund ym mis Chwefror 1961, gan ennill ar bwyntiau.
Enillodd Richardson amddiffyniad nesaf ei deitl, ym mis Chwefror 1962, yn erbyn yr Almaenwr, Karl Mildenberger, trwy ergyd syfrdanol yn y rownd gyntaf. Cynhaliwyd yr ornest yn Dortmund. Byddai Mildenberger yn mynd ymlaen i ymladd Muhammad Ali am deitl y byd sawl blwyddyn yn ddiweddarach.
Pedwerydd amddiffyniad Richardson o'i deitl oedd ym Mehefin 1962, yn erbyn y Swediad pwerus, Ingemar Johansson. Bu Johansson yn bencampwr pwysau trwm y byd ar ôl curo Floyd Patterson, ond collodd y teitl i Patterson wedi hynny ym mis Mehefin 1960. Cynhaliwyd y ornest yn Gothenburg, Sweden o flaen 50,000 o wylwyr, a chafodd Richardson ergyd loriol yn yr wythfed rownd.
Ym mis Mawrth 1963 cynhaliwyd gornest olaf Richardson, pan amddiffynnodd Henry Cooper ei deitlau pwysau trwm Prydeinig a'r Gymanwlad yn erbyn Richardson yn Wembley. Cafodd Richardson ei lorio yn y bumed rownd.
Ymddeoliad a marwolaeth
golyguYmddeolodd Richardson yn gymharol gynnar yn 28 oed, a bu'n rhedeg cadwyn fechan o siopau cigydd yn Surrey. Cynghorodd Richardson y paffiwr pwysau trwm o Gasnewydd, David Pearce. Credai Dick pe bai David wedi arwyddo gyda hyrwyddwr o Lundain y byddai wedi dod yn Bencampwr y Byd. Nid oedd David am adael hyfforddiant ei dad oherwydd ei deyrngarwch.[1]
Bu farw Richardson o ganser ar 15 Gorffennaf 1999, yn 65 oed. Roedd yn briod â Betty Richardson ac roedd ganddynt un mab, Gary ac un ferch Lyn, a chwech o wyrion ac wyresau.
Yn ei 47 gornest broffesiynol, enillodd 31 (24 ar ergyd loriol), a chollodd 14 (4 ar ergyd loriol). Roedd dau o'i ornestau yn gyfartal.
Cofnod bocsio proffesiynol
golygu31 Buddugoliaeth (24 llorio, 6 penderfyniad, 1 DQ), 14 Losses (4 llorio, 7 penderfyniad, 3 DQs), 2 Draws [1] | |||||||
Canlyniad | Record | Gwrthwynebydd | Math | Rownd | Dyddiad | Lleoliad | Nodiadau |
Loss | 26-8-1 | Henry Cooper | KO | 5 | 26 Mawrth 1963 | Empire Pool, Wembley, London | BBBofC/Commonwealth Heavyweight Titles. |
Colli | 24-2 | Ingemar Johansson | KO | 8 | 17 Mehefin 1962 | Nya Ullevi, Gothenburg | EBU Heavyweight Title. |
Buddugol | 30-1 | Karl Mildenberger | KO | 1 | 24 Chwefror 1962 | Westfalenhallen, Dortmund | EBU Heavyweight Title. Mildenberger knocked out at 2:35 of the first round. |
Colli | 37-22-8 | Howard King | PTS | 10 | 5 September 1961 | Empire Pool, Wembley, London | |
Buddugol | 26-6-1 | Hans Kalbfell | PTS | 15 | 18 February 1961 | Westfalenhallen, Dortmund | EBU Heavyweight Title. |
Buddugol | 23-6 | Brian London | TKO | 8 | 29 August 1960 | Coney Beach Pleasure Park, Porthcawl | EBU Heavyweight Title. |
Colli | 39-7-1 | Mike DeJohn | DQ | 8 | 27 July 1960 | Coney Beach Pleasure Park, Porthcawl | |
Buddugol | 25-5-1 | Hans Kalbfell | TKO | 13 | 27 March 1960 | Westfalenhallen, Dortmund | EBU Heavyweight Title. |
Colli | 38-7-1 | Mike DeJohn | PTS | 10 | 1 December 1959 | Empire Pool, Wembley, London | |
Colli | 34-3-1 | Joe Erskine | PTS | 10 | 24 June 1959 | Coney Beach Pleasure Park, Porthcawl | |
Buddugol | 25-16-4 | Bert Whitehurst | PTS | 10 | 10 March 1959 | Empire Pool, Wembley, London | |
Buddugol | 13-5 | Garvin Sawyer | PTS | 10 | 28 October 1958 | Harringay Arena, Harringay, London | |
Colli | 15-7-1 | Henry Cooper | TKO | 5 | 3 September 1958 | Coney Beach Pleasure Park, Porthcawl | |
Buddugol | 50-12-1 | Bob Baker | PTS | 10 | 9 July 1958 | Coney Beach Pleasure Park, Porthcawl | |
Buddugol | 29-18-6 | Hans Friedrich | KO | 4 | 17 May 1958 | Newtown Pavilion, Newtown, Powys | |
Colli | 39-2 | Cleveland Williams | DQ | 4 | 25 March 1958 | Empress Hall, Earl's Court, Kensington, London | |
Buddugol | 13-18-4 | Maurice Mols | TKO | 6 | 3 March 1958 | Neuadd y Farchnad, Caerfyrddin | |
Colli | 49-11-1 | Bob Baker | PTS | 10 | 10 December 1957 | Harringay Arena, Harringay, London | |
Colli | 41-5-5 | Willie Pastrano | PTS | 10 | 22 October 1957 | Harringay Arena, Harringay, London | |
Buddugol | 17-2 | Hans Kalbfell | TKO | 4 | 31 July 1957 | Coney Beach Pleasure Park, Porthcawl | |
Cyfartal | 35-9 | Joe Bygraves | PTS | 15 | 27 May 1957 | Stadiwm Maendy, Caerdydd | Commonwealth Heavyweight Title. |
Buddugol | 17-5-1 | Giannino Luise | TKO | 5 | 1 April 1957 | Nottingham Ice Stadium, Nottingham, Nottinghamshire | |
Loss | 35-14-3 | Nino Valdes | TKO | 8 | 4 December 1956 | Harringay Arena, Harringay, London | |
Buddugol | 91-20-1 | Ezzard Charles | DQ | 2 | 2 October 1956 | Harringay Arena, Harringay, London | |
Buddugol | 24-14-1 | Kurt Schiegl | TKO | 1 | 16 July 1956 | Stadiwm Maendy, Caerdydd | |
Buddugol | 17-15-8 | Guenter Nurnberg | TKO | 3 | 7 July 1956 | Park Avenue Field, Aberystwyth | |
Colli | 27-0-1 | Joe Erskine | PTS | 10 | 7 May 1956 | Stadiwm Maendy, Caerdydd | |
Buddugol | 33-8-1 | Marcel Limage | RTD | 5 | 27 February 1956 | Caerdydd | |
Buddugol | 33-10-5 | Werner Wiegand | TKO | 6 | 17 January 1956 | Streatham Ice Arena, Streatham, London, England | |
Buddugol | 14-2-1 | Alain Cherville | KO | 2 | 6 December 1955 | Harringay Arena, Harringay, London | |
Buddugol | 12-28-5 | Robert Warmbrunn | TKO | 1 | 7 November 1955 | Neuadd y Farchnad, Abergafenni | |
Buddugol | 10-30-4 | Robert Eugene | KO | 4 | 18 October 1955 | Harringay Arena, Harringay, London | |
Buddugol | 0-16-2 | Emile DeGreef | KO | 2 | 26 September 1955 | Neuadd y Dril, Caerfyrddin | |
Buddugol | 18-4-1 | Peter Bates | TKO | 3 | 13 September 1955 | White City Stadium, White City, London | |
Buddugol | 11-15-4 | Jean Serres | TKO | 3 | 29 August 1955 | Stadiwm Maendy, Caerdydd | |
Buddugol | 0-14 | Prosper Beck | PTS | 8 | 18 July 1955 | Stadiwm Maendy, Caerdydd | |
Colli | 12-8-1 | Hugh Ferns | DQ | 5 | 13 June 1955 | Stadiwm Maendy, Caerdydd | |
Buddugol | 12-11 | Morrie Bush | KO | 2 | 26 April 1955 | Harringay Arena, Harringay, London | |
Buddugol | 6-5 | Denny Ball | TKO | 3 | 18 April 1955 | Stadiwm Maendy, Caerdydd | |
Buddugol | 2-1 | Jim Cooper | TKO | 2 | 15 March 1955 | Streatham Ice Arena, Streatham, London, England | |
Buddugol | 10-7 | Sid Cain | TKO | 3 | 28 February 1955 | Gerddi Soffia, Caerdydd | |
Buddugol | 12-9-2 | Johnny McLeavy | TKO | 4 | 24 January 1955 | Manor Place Baths, Walworth, London | |
Buddugol | 6-4-1 | Sammy Clarke | KO | 1 | 10 January 1955 | Stadiwm Maendy, Caerdydd | |
Buddugol | 3-4-2 | Johnny Hall | PTS | 6 | 29 November 1954 | Gerddi Soffia, Caerdydd | |
Cyfartal | -- | Bernie Jelley | PTS | 6 | 12 October 1954 | Royal Albert Hall, Kensington, London | |
Buddugol | -- | Peter Green | KO | 1 | 4 October 1954 | Stadiwm Maendy, Caerdydd | |
Buddugol | -- | Jim Cooper | PTS | 6 | 14 September 1954 | Harringay Arena, Harringay, London |