Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol
Cymhwyster a gaiff ei arholi mewn tair iaith (Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg) ydyw Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (Saesneg: The International Baccalaureate Diploma IB), mae'n gymhwyster mynedfa i Brifysgol a gydnabyddir ar draws y byd. Dysgir yn 2,075 ysgol, llawer ohonynt yn ysgolion rhyngwladol, yn 125 gwlad dros y byd i gyd (yn 2007). Mae dros hanner yr ysgolion lle ddysgir y Diploma wedi eu cyllido gan y wladwriaeth. Mae'r rhaglen yn cael ei lywodraethu gan Drefnidiaeth y Fagloriaeth Ryngwladol (Saesneg: International Baccalaureate Organisation) Mae'r IBO a sefydlodd y Fagloriaeth wedi'i thadogi gyda'r Cenhedloedd Unedig ac yn arwyddwr Rhaglen Heddwch UNESCO ac wedi cytuno i'w gynnwys ymhob agwedd o'i chwricwlwm.
Cwricwlwm golygu
Mae'r rhaglen yn cynnwys chwe phwnc yn ogystal â thraethawd estynedig (4000 o eiriau), ToK (Athroniaeth Wybodaeth), ac o leiaf 150 awr o CAS (creadigol, ymarfer corfforol a gwasanaeth). Gwobrwyir 7 marc am bob pwnc, 7 yw'r uchaf ac 1 yw'r isaf, gyda hyd at dri marc ychwanegol ar gyfer ToK a'r traethawd estynedig. Cyfanswm y marciau ar gyfer y Diploma yw 45 marc. Rhaid pasio holl feysydd y rhaglen er mwyn ennill y Diploma. Y chwe maes bynciol yw:
- Maes 1: Mamiaith: Fel arfer iaith gryfaf y myfyriwr, 80 o ieithoedd ar gael.
- Maes 2: Ail iaith: Iaith ychwanegol.
- Maes 3: Unigolyn a'r gymdeithas: Y Dyniaethau yw'r rhain sydd yn cynnwys ardaloedd fel Hanes, Daearyddiaeth, Seicoleg, Gwleidyddiaeth, Athroniaeth, ayyb.
- Maes 4: Gwyddorau Arbrofol: Mae'r rhain yn cynnwys Bioleg, Ffiseg, Cemeg, Gwyddorau Amgylcheddol, ayyb.
- Maes 5: Mathemateg: Astudiaeth o fathemateg ar dair safon. Mae modwilau o bur, ystadegaeth a mecaneg ar gael.
- Maes 6: Celfyddydau: Gellir naill ai astudio pwnc creadigol fel Cerddoriaeth, Celf, Drama, neu gellir dewis un pwnc arall o feysydd 1 i 5.
Rhaid astudio tri phwnc i Safon Uwch (safon a ystyrir i fod yn uwch na TAG Safon Uwch) a thri phwnc arall i Safon Sylfaenol (ychydig yn uwch nag Uwch Gyfrannol TAG). Mae'r ymgeiswyr fel arfer yn eistedd tair arholiad yn eu pynciau uwch a dwy arholiad yn eu pynciau sylfaenol. Mae yna elfennau o waith cwrs yn y pynciau i gyd gyda'r arholiadau ysgrifenedig i gyd yn cael eu sefyll ar ddiwedd ail flwyddyn (y flwyddyn olaf) y rhaglen.
Ysgolion yng Nghymru golygu
- Ysgol Gyfun Yr Eglwys Newydd, Caerdydd
- Coleg Llandrillo, Conwy
- Coleg Abertawe, Abertawe
- Coleg yr Iwerydd (United World College of the Atlantic), De Morgannwg
- Ysgol Tŷ Westborne, De Morgannwg
Mae'r rhan fwyaf o'r ysgolion uchod yn cynnig Cymraeg fel opsiwn hunan-ddysgu ar Safon Sylfaenol.