Duncan Brown
Naturiaethwr, cyflwynydd radio a golygydd y cylchgrawn Llên Natur ydy Duncan Brown. Mae hefyd yn fathwr enwau Cymraeg ar rywogaethau amrywiol, ac yn golofnydd rheolaidd i'r Cymro.[1] Cyn ymddeol yn 2007 bu'n Uwch-warden ac yn Uwch-reolwr cynefinoedd Cyngor Cefn Gwlad Cymru.
Duncan Brown | |
---|---|
Ganwyd | 11 Chwefror 1948 |
Man preswyl | Tal-y-sarn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | botanegydd, cyflwynydd radio |
Manylion bywgraffiadol
golyguGanwyd Duncan Jeffrey Brown ar 11 Chwefror 1948 yn Buxton, Swydd Derby. Roedd ei rieni'n byw yn Leaden Knowle, ger Chinley, cyn symud i Waunfawr yn Arfon ym 1949. Dychwelodd i Loegr ym 1964, gan byw yn Cheltenham, Swydd Gaerloyw a Bawburgh, Norfolk. Ym 1970 dychwelodd i Gymru, gan byw yn Grangetown, Aberhonddu, Llanelltyd, a Dyffryn Ardudwy, cyn ymsefydlu yn Waunfawr ym 1984.
Mae Duncan Brown yn hoff o farddoniaeth megis s:Pais Dinogad. Mae'n dad i'r awdur a darlledwraig Beca Brown - newidiodd iaith y teulu o'r Saesneg i'r Gymraeg pan oedd yn ei harddegau.
Gyrfa
golyguMynychodd Ysgol Gynradd Waunfawr, Ysgol Segontiwm ac Ysgol Ramadeg Caernarfon. Mae ganddo gradd BA mewn Celfyddyd gain o Brifysgol Norwich. Astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd ble'r enillodd Tystysgrif Dysgu Celf, ac ym Mhrifysgol Llundain ar gyfer Diploma mewn Bywydeg Maes.
Cyn symud i fyd yr amgylchedd, bu Duncan Brown wedi gweithio fel athro celf, yn ogystal â chyfnod yn Butlins Pwllheli. Bu'n gweithio fel warden ar y Mynydd Du ac ar safleoedd y Cyngor Gwarchod Natur yn ne Meirionnydd, ac fel darlithydd i'r WEA, gan ganolbwyntio ar amgylchedd Pen Llŷn, Eifionydd ac Arfon.
Cyhoeddiadau
golyguPapurau ecolegol gwyddonol
golygu- The Rhinog Goats: 1. survey and management review: a report to the nature Conservancy Council (North Wales Region) Duncan J Brown (Senior Warden - Dyffryn Ardudwy), MG Lloyd (Rhyl) Trosolwg o hanes rheolaeth “swyddogol” geifr gwyllt y Rhinogydd
- The Rhinog Goats: 2. Social and Spatial Organisation a report to the Nature Conservancy Council (North Wales Region, Duncan Brown) Astudiaeth fanwl o gynefin geifr gwyllt y Rhinogydd trwy farcio, adnabod ac ail-adnabod a chofnodi eu symudiadau dros ddwy flynedd I greu diagramau clwstwr lleoliedig
- Seasonal variations in the prey of some Barn Owls in Gwynedd.pdf Papur yn y cylchgrawn Bird Study [1][dolen farw]
- A multivariate approach to the analysis of a stand of vegetation on Slapton shingle ridge, Devon in August 1981 gan Duncan J Brown (prosiect wedi ei gynnig fel rhan o ofynion diploma mewn bywydeg maes (Diploma in Field Biology), Prifysgol Llundain 1979 – 82 (cwrs mewn swydd).
- The colonisation of Fucus serratus by the tubeworm Spirbis borealis (Polychaeta: serpulidae) gan Duncan J Brown (prosiect wedi ei gynnig fel rhan o ofynion diploma mewn bywydeg maes (Diploma in Field Biology), Prifysgol Llundain 1979 – 82 (cwrs mewn swydd).
- The Foulmart: what’s in a name (papur a gyhoeddwyd yn Mammal Review, cylchgrawn y Mammal Society dan gyfundrefn adolygiad cydradd (peer reviewed)[2]. Papur yn pwyso a mesur y dystiolaeth ieithyddol Cymraeg a genetig i awgrymu NAD anifail cynhenid i Gymru yw’r ffwlbart. Dywedodd y Golygydd Dr. DW Yalden (cys. pers) bod y papur yn defnyddio dulliau anarferol i gyflwyno testun o’r fath a’i fod yn bwysig rhoi llwyfan iddo yng nghylchgrawn prif gymdeithas astudiaethau mamolion Prydain.
- Polecats in the West of Scotland gan JCA Craik a D Brown (cyh. Glasgow Naturalist Cyf. 23(ii) 1997) (Copi papur ar gael) Papur byr yn olrhain a chymharu gwahaniaethau ffenotypig rhwng poblogaeth diweddar ffwlbartod gorllewin yr Alban a rhai a gasglwyd yng Nghymru.
Cyhoeddiadau mwy poblogaidd
golygu1. When do frogs emerge from hibernation (and how do we know): erthygl ar ffenoleg y llyffant melyn yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yng ngogledd Cymru: British Wildlife British Wildlife | When do frogs emerge from hibernation (and how do we know)? Erthygl wyddonol lled-boblogaidd yn crynhoi data a gasglwyd dros flynyddoedd yng ngogledd Cymru o ddyddiadau dodwy grifft cyntaf llyffantod.
2. Rhestrau enwau safonol ac amgen ar rywogaethau Cymru, Prydain a’r Byd (trefnydd a sylfaenydd y gwaith; ar y cyd ag arbenigwyr pwnc a iaith). Cyhoeddwyd gan Cymdeithas Edward Llwyd fel pedair cyfrol ac fel rhestrau ar-lein ar ffurf Y Bywiadur - gweler isod)
3.Prosiect Llên Natur (gyda chefnogaeth Cymdeithas Edward Llwyd): Sefydlu prosiect Llên Natur ar ran Cymdeithas Edward Llwyd, sy’n cynnwys, trwy ei wefan (a chyda chymorth gwirfoddolwyr). Lawnswyd y prosect gan yr Arglwydd Dafydd Wigley yn 2011 ym Mhlas Tan y Bwlch. Mae nifer o adrannau lled-gysylltiedig yn perthyn iddo:
- Y Bywiadur [3]. Mae’r Bywiadur bellach yn cynnwys 17,000 o enwau rhywogaethau, sydd yn dolennu â thudalennau cyfatebol yn Wicipedia Cymraeg lle ceir manylion pellach am natur pob rhywogaeth. Fe’n gwahoddwyd I gyflwyno’r enwau hyn I system ryngwladol rhwydwaith NBN y Natural History Museum, ac fel canlyniad mae holl enwau Cymraeg a fathwyd dros 40 mlynedd I’w gweld ar y system honno (ee. y gwiberlys [4]
- Y Tywyddiadur [5] Ee. 997 o gofnodion DO Jones, Padog: Llên Natur: Gwefan Natur i Bobl Cymru - Y Tywyddiadur. Mae’r Tywyddiadur bellach yn cynnwys 112,000 o gofnodion amgylcheddol, dyddiedig a lleoliedig. Mae’n adnodd i fyfyrwyr ac garedigion hanes cefn gwlad. Gellir holi’r Tywyddiadur nid yn unig am gofnodion un dyddiadur unigol (uchod) ond hefyd ymholiadau pynciol megis “gwair” (cnwd holl bwysig â threfn arbennig o’i gynaeafu sydd bellach i bob pwrpas yn ddiflanedig): Llên Natur: Gwefan Natur i Bobl Cymru - Y Tywyddiadur (dangosir yma cofnodion mis Gorffennaf yn unig - gellir gweithio ymlaen mewn amser).
- Yr Oriel: Mae na ragor na 9,000 o luniau yma [6]
- Lleisiau: Adnodd cychwynnol o hanes lafar sydd yma.[7]
- Enwau lleoedd: ar ôl cynhadledd lwyddiannus yn c.2007 bu Prosiect Llên Natur yn gyfrifol am ddiosg ei gyfrifoldeb am enwau lleoedd gan sefydlu corff newydd arbenigol yn y maes. Aeth y corff hwn ymlaen o nerth i nerth: Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru – Yn Gwarchod Enwau Lleoedd Cymru [8]
- Bwletinau: trwy ei Fwletin misol (141 rhifyn erbyn Tachwedd 2019 [9]. Gellir canfod pob Bwletin y mae gair (ee. Caergybi) ynddo:
4. Cyhoeddwyd erthyglau wedi seilio ar driniaeth wyddonol o ddata aml-ffynonellog i amlygu hanes ecolegol a diwylliannol rhywogaeth ym Mywiadur Llên Natur, ee. Eosiaid Gwlad y Gan[10] (tudalen 3: eosiaid Gwlad y Gân)
Y Cyfryngau
golyguMae yna wybodaeth gwerthfawr yn yr erthygl hon, diolch am eich cyfraniad! Ond i gyrraedd safon arferol, derbyniol Wicipedia, gellir mynd yr ail gam. Os na chaiff yr erthygl ei gwella'n ddigonol ymhen wythnos neu ddwy wedi 26 Tachwedd 2024, fe all gael ei dileu. Os caiff yr erthygl ei gwella'n sylweddol, wedyn mae croeso i chi dynnu'r neges hon oddi ar y dudalen. Ceir rhestr o erthyglau sydd angen eu gwella yma. Sut mae ei gwella? Dyma restr o hanfodion pob erthygl; beth am dreulio ychydig o amser yn mynd drwy'r cyngor hwn? Gweler hefyd ein canllawiau Arddull ac Amlygrwydd. |
Radio
golygu- Cyfrannydd I nifer o raglenni hanner awr ‘Awyr Iach’[?], yn cynnwys ymweliadau ag Ynys Rhum a’r Fawnog Faith (Flow Country) yn Sutherland, yr Alban,
- Cyfrannydd achlysurol ar faterion natur, yr amgylchedd a newid hinsawdd I wasanaeth newyddion BBC Radio Cymru.
- Cyfrannydd rheolaidd I gyfres cefn gwlad Radio Cymru “Llwybr Troed”.
- Panelydd rheolaidd ar y rhaglen boblogaidd Galwad Cynnar dros gyfnod o chwarter canrif.
- Cyfrannydd rheolaidd misol fel naturiaethwr I raglen boblogaidd Molly’s Place ar BBC Radio Wales am 5 mlynedd.
Teledu (detholiad)
golygu- Cyflwynydd “PAW”, rhaglen natur i blant ar S4C.
- Cyfraniad ymgynghorol i raglen Garddio a Mwy (Cwmni Da) ar y testun Clwy’r Onnen
Cwmni Pendraw
golyguCyd-sefydlydd a chadeirydd Cwmni Pendraw [11] cyf. (gyda’r actor a’r amgylcheddwr Wyn Bowen Harris, a’r cerddor Stephen Rees): cwmni drama amgylcheddol gyda phwyslais ar ganfyddiad pobl o’r tywydd a’r byd o’u cwmpas dros y canrifoedd hyd heddiw. Mr Bulkeley o’r Brynddu yw’r cyflwyniad mwyaf nodedig hyd yma (wedi bod ar ddwy daith, un dros ogledd Cymru a’r ail dros Gymru a Llundain), gyda 2071 (drama yn cyflwyno cyflwr ein byd yn y flwyddyn 2071 a pheryglon Newid Hinsawdd yn bennaf ar gyfer pobl ifanc. Mae sawl cynllun arall ar y gweill gan gynnwys yr un arfaethedig cyfredol Ar y Creigiau Geirwon i’w berfformio y nghanolfan Pontio, Bangor, a Gŵyl Amgylcheddol Caernarfon yn 2020. Drama o safbwynt tywyswyr lleol yr hen “ddiwydiant” Cymreig o dywys ymwelwyr i’r creigiau uchel i gasglu planhigion prin.
Mae yna wybodaeth gwerthfawr yn yr erthygl hon, diolch am eich cyfraniad! Ond i gyrraedd safon arferol, derbyniol Wicipedia, gellir mynd yr ail gam. Os na chaiff yr erthygl ei gwella'n ddigonol ymhen wythnos neu ddwy wedi 26 Tachwedd 2024, fe all gael ei dileu. Os caiff yr erthygl ei gwella'n sylweddol, wedyn mae croeso i chi dynnu'r neges hon oddi ar y dudalen. Ceir rhestr o erthyglau sydd angen eu gwella yma. Sut mae ei gwella? Dyma restr o hanfodion pob erthygl; beth am dreulio ychydig o amser yn mynd drwy'r cyngor hwn? Gweler hefyd ein canllawiau Arddull ac Amlygrwydd. |
Yn y blynyddoedd diwethaf sylweddolwyd na ellir cyflawni pob agwedd ar fywyd academaidd heb ysgogi gweithgarwch sylweddol gwirfoddolwyr. Datblygwyd llawer o brosiectau mawr yn y byd Seisnig i godi, prosesu, amlygu ac yn gyffredinol rhoi pob math o wybodaeth archifol ar gof a chadw defnyddiol. Dyna ethos wreiddiol Llen Natur. Gyda threigl y blynyddoedd a datblygiadau pellgyrhaeddol yn y cyfryngau cymdeithasol, daethpwyd i’r casgliad mai gwell fyddai creu cysylltiadau cyhoeddus pellach trwy ddilyn egwyddorion Gwyddoniaeth y Dinesydd a mabwysiadu a datblygu systemau sefydledig cyhoeddus ar y we i ehangu ein cyrhaeddiad. Barnwyd y byddai hynny yn llawer mwy pwerus o ran creu a chyrraedd cynulleidfa nag unrhyw system fewnol y gallen Llen Natur ei ariannu y tu hwnt I’r wefan ei hunan. Dyna pam y datblygwyd dau blatfform newydd i’r prosiect trwy berthynas agos gyda Wicipedia, Cymraeg, ynghyd â defnydd dwys o feddalwedd “Grwp” cwmni Facebook i hybu ymwybyddiaeth amgylcheddol i fannau nas cyrhaeddwyd o’r blaen. Bu hyn yn llwyddiant.
Mae’n fwriad datblygu cysylltiadau priodol i greu trydydd llwyfan cyhoeddus megis Cofnod [12] a systemau cofnodi bywyd gwyllt Cymreig eraill er mwyn cyfrannu data i gronfeydd mwy hygyrch ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol
Y Weplyfr “Cymuned Llên Natur” (Grŵp Facebook)
golyguMae yna wybodaeth gwerthfawr yn yr erthygl hon, diolch am eich cyfraniad! Ond i gyrraedd safon arferol, derbyniol Wicipedia, gellir mynd yr ail gam. Os na chaiff yr erthygl ei gwella'n ddigonol ymhen wythnos neu ddwy wedi 26 Tachwedd 2024, fe all gael ei dileu. Os caiff yr erthygl ei gwella'n sylweddol, wedyn mae croeso i chi dynnu'r neges hon oddi ar y dudalen. Ceir rhestr o erthyglau sydd angen eu gwella yma. Sut mae ei gwella? Dyma restr o hanfodion pob erthygl; beth am dreulio ychydig o amser yn mynd drwy'r cyngor hwn? Gweler hefyd ein canllawiau Arddull ac Amlygrwydd. |
Mae traffig cyfraniadau i Brosiect Llên Natur wedi cynyddu ar ei ganfed ers sefydlu “Cymuned Llên Natur”. Dros y ddwy flynedd mae wedi bodoli mae’r nifer aelodau’r grŵp wedi cyrraedd rhagor na 2000, gyda chyfartaledd o dri chais i ymuno yn cael eu derbyn pob wythnos. Mae mwyafrif helaeth yr aelodau 1,800+ yn gyfranwyr gweithredol. Hyd yma mae’r cyfranwyr wedi cofnodi sylwadau ffenolegol (ee. Cogau cyntaf [13], rhywogaethol (ee. Gwiberod [14].
Cyfraniadau poblogaidd ac addysgiadol
golyguMae yna wybodaeth gwerthfawr yn yr erthygl hon, diolch am eich cyfraniad! Ond i gyrraedd safon arferol, derbyniol Wicipedia, gellir mynd yr ail gam. Os na chaiff yr erthygl ei gwella'n ddigonol ymhen wythnos neu ddwy wedi 26 Tachwedd 2024, fe all gael ei dileu. Os caiff yr erthygl ei gwella'n sylweddol, wedyn mae croeso i chi dynnu'r neges hon oddi ar y dudalen. Ceir rhestr o erthyglau sydd angen eu gwella yma. Sut mae ei gwella? Dyma restr o hanfodion pob erthygl; beth am dreulio ychydig o amser yn mynd drwy'r cyngor hwn? Gweler hefyd ein canllawiau Arddull ac Amlygrwydd. |
- Cyfrannu amrywiol eitemau o wybodaeth i erthyglau pentrefi Cymru yn Wicipedia (ee. https://cy.wikipedia.org/wiki/Waunfawr?wprov=sfti1)
- Cyfrannu erthyglau dirifedi (!) i gylchgronau Cymraeg megis Cynefin, Gwaith Maes, Dan Haul ac yn Saesneg i gylchgrawn Cymdeithasau Byd Natur Cymru “Nature in Wales”.
- Cynnal colofn amgylcheddol “Tro ar Fyd” a “Llên Natur” yn Y Cymro dros gyfnod o 7? mlynedd (yn y wasg fel casgliad ar hyn o bryd).
- Cynnal slot 5 munud wythnosol foreau Sadwrn ar raglen “Molly’s Place” (BBC Radio Wales) dros gyfnod o c.5 mlynedd).
- Cyfrannwr cyson fel panelydd ar raglen amgylcheddol Galwad Cynnar (BBC Radio Cymru) dros gyfnod o c.20+ mlynedd.
- Awdur cyfrol i ddysgwyr ar yr amgylchedd “Gwerth y Byd yn Grwn” (Gwasg y Lolfa).
- Cyfrannwr achlysurol cyson i eitemau amgylcheddol llosg newyddion Radio Cymru.
- Cyfrannwr achlysur i raglenni natur ac amgylcheddol (ee. Garddio a Mwy)
Wicipedia (Cymraeg)
golyguCyflwynwyd yr hyn a gyflawnwyd ar y pryd o ran datblygu themau amgylcheddol i ddwy gynhadledd Wikipedia (2017 [15] a '18) ar y pwnc “Cwlwm Celtaidd” sef posibiliadau’r llwyfan hwn fel modd i hybu ieithoedd lleiafrifol, yng Nghaeredin ac Aberystwyth yn eu trefn.
Cyfraniadau
golygu- rhywogaethau (ee. y lyncs [16]
- Tudalen dyddiaduron amgylcheddol ac amaethyddol Cymreig fel genre llenyddol a hanesyddol [17]
- Sefydlu bywgraffiadau a chrynodebau tua 15 o ddyddiadurwyr amgylcheddol Cymreig a Chymraeg gan gynnwys tyddynwyr a ffermwyr cyffredin (ee.[18]
- sefydlu cyfres o egin-erthyglau newydd ar rywogaethau i’w datblygu ymhellach i erthyglau llawn, ee. adar y byd (ee.[19], llysiau’r afu, ffyngau, gwyfynod a gloynnod byw (ee.[20]
- Cynnal rhwydwaith o wirfoddolwyr i wireddu’r gwaith uchod.
- Sefydlu categori Digwyddiadau Tywydd mewn erthyglau ‘blwyddyn’ a chyfrannu iddynt o Dywyddiadur Llên Natur (ee.[21]
- Cyfrannu amrywiol eitemau o wybodaeth i erthyglau pentrefi Cymru yn Wicipedia (ee.[22]
Amrywiol gyhoeddiadau a gweithgareddau cyhoeddus
golygu- Cyfrannu erthyglau dirifedi i gylchgronau Cymraeg megis Cynefin, Gwaith Maes, Dan Haul ac yn Saesneg i gylchgrawn Cymdeithasau Byd Natur Cymru “Nature in Wales”.
- Cynnal colofn amgylcheddol Tro ar Fyd a Llên Natur yn Y Cymro dros gyfnod o 10 mlynedd rhwng 2006 a 2016 (yn y wasg fel casgliad ar hyn o bryd).
- Cynnal slot "natur" 5 munud wythnosol foreau Sadwrn ar raglen Molly’s Place (BBC Radio Wales) dros gyfnod o c.5 mlynedd).
- Cyfrannwr cyson fel panelydd ar raglen amgylcheddol Galwad Cynnar (BBC Radio Cymru) dros gyfnod o c.20+ mlynedd.
- Awdur cyfrol i ddysgwyr ar yr amgylchedd “Gwyrdd ein Byd”.
- Cyfrannwr achlysurol cyson i eitemau amgylcheddol llosg newyddion Radio Cymru.
- Cyfrannwr achlysur i raglenni natur ac amgylcheddol (ee. Garddio a Mwy)
- Bum yn gyson yn eiriol dros yr iaith Gymraeg gan gynnwys gweithredu dros Ddeddf Iaith Newydd (ymgyrch lwyddiannus Cymdeithas yr Iaith Gymraeg)
- Trefnu ymweliad ‘barnwrol’ gan yr artist David Hockney (Ysgol Gelf Norwich, pan yn 20 oed)
- Sefydlu a chynnal (ar y cyd ag un athro arall) Cymdeithas Ffilmiau Tramor (Ysgol Aberhonddu, 1970au cynnar)
- Gwisg las yr Eisteddod Genedlaethol
Gweithgarwch gwirfoddol neu led-gyflogedig
golygu- Darlithydd WEA dros 15 mlynedd yng Ngwynedd (cyrsiau a darlithoedd unigol)
- Arweinydd teithiau maes ar ran Cymdeithas Edward Llwyd
- Cynnal arolygon pellenni tylluanod gyda dosbarthiadau ysgol cynradd ac uwchradd.
- Cynnal arolygon nythu a ffenoleg y gwybedog brith
- Sefydlu Gŵyl y Gwyll (Antur Waunfawr): gŵyl i godi ymwybyddiaeth o ryfeddodau naturiol y nos (ser, gwyfynod, ystlumod).
- Trefnydd a chofnodydd Arolwg y Crëyr glas, arolwg mwyaf hirhoedlog Prydain (ar ran y BTO – yr Ymddiriedolaeth Adarydda Prydenig)
- Datblygu prosiectau ar y cyd ag ysgolion uwchradd a chynradd I ddatblygu cyfleoedd addysg trwy gyfuno natur, Wicipedia a’r Baccalaureat Cymreig GWAITH AR WAITH
- Cynllunio Gŵyl Amgylcheddol Caernarfon GWAITH AR WAITH
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan BBC Cymru; adalwyd 4 Ionawr 2014.