Hynafiaethydd ac awdur A Description of Caernarvonshire, gwaith topograffyddol mawr ar yr hen Sir Gaernarfon, oedd Edmund Hyde Hall (ganed tua 1770? - 17 Hydref 1824).

Edmund Hyde Hall
Ganwyd1770s Edit this on Wikidata
Galwedigaethhynafiaethydd Edit this on Wikidata

Ychydig a wyddys am ei fywyd yn gyffredinol. Ganed yr awdur ym mhlwyf Trelawny, Jamaica, yn drydydd fab i Cossley Hall, gŵr Florence Hall o Hyde Hall yn y plwyf hwnnw, gan ei wraig gyntaf Whitehorne-Lade. Teulu o dras Seisnig yn bennaf oedd y teulu Hall, ond roedd yn cynnwys cysylltiad â Sir Benfro ar ochr y tad.

Ymddengys fod y cysylltiad Cymreig hwnnw wedi ennyn chwilfrydedd Edmund Hyde Hall at Gymru. Teithiodd o Jamaica i Loegr yn llanc ac ymddengys ei fod wedi treulio cyfnod yn Ysgol Harrow. Ymwelodd â Chymru am y tro cyntaf tua'r flwyddyn 1795 neu 1796. Yn Llandygai, ger Bangor, y dechreuodd ar ei waith topograffyddol mawr A Description of Caernarvonshire. Mae hynny - a'r ffaith ei fod yn mynd i gryn drafferth i sgwennu achau'r teulu - yn awgrymu fod ganddo gysylltiad o ryw fath â theulu'r Penrhyn, ond ni wyddom fwy na hynny. Roedd gan deulu'r Penrhyn diroedd eang yn Jamaica hefyd, sy'n ategu'r posiblrwydd o gysylltiad rhyngddynt a theulu Hyde Hall.

Ymddengys iddo ddychwelyd yn 1809 ac ymsefydlu dros dro yn ninas Bangor. Treuliodd y ddwy flynedd nesaf yn teithio o gwmpas Sir Gaernarfon yn hel deunydd at ei lyfr. Mae tri o'r llythyrau a ysgrifennodd o Fangor yn dangos ei fod yn adnabod yr hynafiaethydd lleol Paul Panton o Fôn.

Ymhen dwy flynedd, roedd y gwaith yn nesáu at gael ei gwblhau. Cafodd danysgrifiadau i'r llyfr arfaethedig, gan nifer yn cynnwys Paul Panton, William Madocks (sefydlydd Tremadog) a'r geiriadurwr William Owen Pughe, ond methiant fu'r brosiect. Roedd Hyde Hall, mae’n ymddangos, wedi colli rhywfaint o bres y tanysgrifwyr pan dorrodd nifer o fanciau’r wlad - ac roedd tanysgrifwyr eraill yn hwyrfrydig iawn i dalu cyn derbyn y llyfr. Roedd nifer o’r rheiny yn Iwerddon a dichon felly fod gan Edmund ryw gysylltiad nad yw’n hysbys ag Iwerddon.

Yn sicr, y tro nesaf y clywn ni amdano, mae o’n byw yn Nulyn. Ym mis Ebrill 1815, cafodd o a rhyw Barch Edward Groves swydd gan Gomisiwn Cofnodion Iwerddon i baratoi Acta Regia Hibernica, neu gofnodion swyddogol Iwerddon, ar gyfer y wasg. Yr un flwyddyn, cafodd ei enwi’n ysgrifennydd mudiad i sefydlu cymdeithas archeolegol ar gyfer Iwerddon, ond dair blynedd yn ddiweddarach, doedd dim byd wedi digwydd ac yn ôl un o gefnogwr y syniad: “mae’r sefydliad hwnnw, hyd yma heb esgor ar unrhyw ganlyniadau. Dyw boneddigion Iwerddon ddim yn gweld fod gwybodaeth o’u gwlad eu hunain yn gymhwyster” - dichon, meddai fo wedyn fod Edmund wedi ei ddewis oherwydd ei brofiad o ymchwilio yn Sir Gaernarfon. Sonnir am y llyfr hwnnw, gan ychwanegu “nid yw ond yn disgwyl am y cyfle priodol i’w roi gerbron y cyhoedd, ac er mor uchel fydd eu disgwyliadau o ŵr bonheddig mor nodedig am wybodaeth fanwl, gysáct ac amrywiol, ni chaiff pobl mo’u siomi.”

Tua’r un amser, cafodd Edmund gomisiwn hefyd i baratoi golygyddiad o Arolwg Down, sef disgrifiad o diroedd Iwerddon ym 1655 a wnaed ar orchymyn Cromwell fel goresgynnydd Catholigion Iwerddon. Ceir ambell i gyfeiriad mewn llyfrau ysgolheigaidd o Iwerddon ar y pryd at waith manwl a chywir Edmund wrth lunio’r fersiwn argraffedig, ac yn ôl un awdur, roedd ei ddadansoddiad o’r ddogfen yn ‘gywrain a boddhaol iawn’. Mae’n bosibl iddo wneud y gwaith hwn fel rhan o’i ddyletswyddau fel un o is-gomisiynwyr cofnodion cyhoeddus Iwerddon. Ond daeth y swydd honno i ben ac fe wnaethpwyd Edmund yn ddi-waith ym 1821.

Beth bynnag am ei gyfoeth personol yn gynharach yn ei fywyd, roedd hi’n gyni arno erbyn hyn, ac anfonodd gais at Arglwydd Raglaw Iwerddon yng Nghastell Dulyn yn ymbil am arian i dalu fel y gallai symud i Lundain - ond ofer, mae’n ymddangos, oedd y cais. Am dair blynedd fe ddihoenodd, yn gloff ac weithiau’n sâl yn ei wely, mewn llety di-nod -“obscure apartment” yw ei ddisgrifiad o - hyd ei farwolaeth yn ŵr dibriod ar 17 Hydref 1824. Roedd ei nodiadau ar Sir Gaernarfon yn dal ganddo wrth ei ochr, a heb eu cyhoeddi. Un cofnod yn unig o’i farwolaeth sydd wedi dod i’r golwg: un llinell fer yn un o bapurau newyddion Dulyn.

Ei Ddisgrifiad o Sir Gaernarfon

golygu

Er na chyhoeddwyd gwaith Hyde Hall tan 1952, dros 140 o flynyddoedd ar ôl ei orffen, ysytyrir A Description of Caernarvonshire yn gampwaith o'i fath sy'n ffynhonnell werthfawr i'r hanesydd. Ceir ynddo ddarlun uchelgeisiol o bob agwedd ar yr hen sir; ei hanes, ei thirlun ei heconomi ayyb, ynghyd â disgrifiad manwl o bob plwyf sy'n cynnwys mapiau gwerthfawr o'r ffyrdd tyrpeg newydd. Doedd yr awdur ddim yn gyfoethog ac ymwelodd â'r rhan fwyaf o'r lleoedd ar droed, gan drampio trwy'r sir. Mae'r gwaith yn arbennig o bwysig am ardaloedd Arllechwedd ac Arfon, heb fod nepell o Fangor. Ymfalchiai'r awdur yn ei dras Cymreig ond ni fedrai'r iaith; roedd hyn yn embaras iddo ond llwyddodd er hynny i ennill cyfeillgarwch nifer o bobl leol.

Cyhoeddwyd ei opus magnum, chwedl yntau, yn 1952 gan Gymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, wedi ei olygu gan Emyr Gwynne Jones, Llyfrgellydd Coleg Prifysgol Bangor..

Ffynonellau

golygu
  • Edmund Hyde Hall, A Description of Caernarvonshire (1809-1811) (Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Caernarfon, 1952). Rhagymadrodd gan E. Gwynne Jones.
  • Cyhoeddiadau swyddogol y Llywodraeth am Iwerddon.