A Description of Caernarvonshire

Gwaith topograffyddol ar yr hen Sir Gaernarfon yw A Description of Caernarvonshire, a ysgrifennwyd gan yr hynafiaethydd Edmund Hyde Hall (c.1770-1824) yn y 1800au. Er na chyhoeddwyd gwaith Hyde Hall tan 1952, dros 140 o flynyddoedd ar ôl ei orffen, ystyrir A Description of Caernarvonshire "yn gampwaith o'i fath" sy'n "ffynhonnell werthfawr i'r hanesydd".[1]

A Description of Caernarvonshire
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurEdmund Hyde Hall Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1800s Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthGwynedd Edit this on Wikidata

Hanes y llyfr golygu

Ysgrifennwyd y gyfrol gan Hall ar ymweliad hir â Gogledd Cymru yn y cyfnod 1809-1811 (yn bennaf, er iddo gychwyn ar y gwaith yn 1795 neu 1796 tra'n aros ym mhlwyf Llandygai, ger Bangor). Cafodd danysgrifwyr i'w lyfr arfaethedig, yn cynnwys yr hynafiaethydd Paul Panton, William Madocks (sefydlydd Tremadog) a'r geiriadurwr William Owen Pughe, ond methiant fu'r brosiect. Arhosodd mewn llawysgrif yn unig yn ystod ei oes. Yn 1952, cyhoeddwyd ei "opus magnum", chwedl yntau, gan Gymdeithas Hanes Sir Gaernarfon.[1]

Disgrifiad golygu

Ceir ynddo ddisgrifiad cynhwysfawr o bob agwedd ar yr hen sir; ei hanes, ei hynafiaethau, ei thirlun, ei heconomi ayyb, ynghyd â disgrifiad manwl o bob plwyf, wedi eu trefnu yn ôl y cantrefi (hundreds erbyn hynny), ac sy'n cynnwys mapiau gan yr awdur ei hun o'r cantrefi a'r ffyrdd tyrpeg newydd. Doedd yr awdur ddim yn gyfoethog ac ymwelodd â'r rhan fwyaf o'r lleoedd ar droed, gan drampio trwy'r sir. Mae'r gwaith yn arbennig o bwysig am ardaloedd Arllechwedd (Sir Conwy - Gwynedd) ac Arfon, heb fod nepell o Fangor. Ymfalchïai'r awdur yn ei dras Cymreig ond ni fedrai'r iaith; roedd hyn yn embaras iddo ond llwyddodd er hynny i ennill cyfeillgarwch nifer o bobl leol.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Edmund Hyde Hall, A Description of Caernarvonshire (1809-1811). (Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Caernarfon, 1952). Rhagymadrodd gan E. Gwynne Jones.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 A Description of Caernarvonshire (1809-1811). (Caernarfon, 1952). Rhagymadrodd E. Gwynne Jones.