Edward Snowden
Cyn-gontractwr technegol i'r National Security Agency (NSA), sef un o adrannau diogelwch Unol Daleithiau America, yw Edward Joseph Snowden (ganwyd 21 Mehefin 1983). Gweithiodd hefyd i'r Central Intelligence Agency (CIA). Yng ngwanwyn 2013 rhyddhaodd wybodaeth am rai o brif raglenni ysbïo drwy wyliadwriaeth dorfol yr Unol Daleithiau a Phrydain i'r wasg.[1][2]
Edward Snowden | |
---|---|
Ffugenw | TheTrueHOOHA, CITIZENFOUR, VERAX, John Dobbertin |
Ganwyd | Edward Joseph Snowden 21 Mehefin 1983 Elizabeth City |
Man preswyl | Wilmington, Ellicott City, Waipahu, Genefa |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Rwsia |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gweinyddwr systemau, swyddog cudd-wybodaeth, security guard, Canu cloch, person gwrthwynebol, gwyddonydd cyfrifiadurol, intelligence analyst |
Cyflogwr |
|
Prif ddylanwad | Daniel Ellsberg |
Tad | Lonnie Glenn Snowden, Jr. |
Mam | Elizabeth Snowden |
Priod | Lindsay Mills |
Gwobr/au | Sam Adams Award, Fritz Bauer Prize, Ridenhour Truth-Telling Prize, Gwobr 'Right Livelihood', Stuttgart Peace Prize, Carl-von-Ossietzky-Medaille, Whistleblower Prize, Bjørnson Prize, Ossietzky Prize, The Glass of Reason, SUMA Award, Bert-Donnepp-Preis, Fritz Bauer Prize |
llofnod | |
Rhyddhaod yr wybodaeth yn wreiddiol i Glenn Greenwald o The Guardian yn Llundain, a hynny yng ngwanwyn 2013 tra roedd yn gweithio fel "infrastructure analyst" yng ngwmni Booz Allen Hamilton a oedd dan gontract i NSA. Yn ei dro, cyhoeddodd The Guardian sawl exposé rhwng Mehefin a Gorffennaf 2013 a oedd yn dinoethi rhaglenni megis PRISM, a oedd yn clustfeinio ac yn recordio gwybodaeth ddigidol ar systemau ffôn a Tempora sef cynllun gwylio a chofnodi gwybodaeth ar y we. Dywedodd Snowden fod rhyddhau'r wybodaeth fel hyn yn ymgais i "hysbysu'r cyhoedd o'r hyn sy'n digwydd yn eu henw nhw a'r hyn sy'n digwydd yn eu herbyn.[2][3][4] Dywedir fod y weithred hon o ryddhau gwybodaeth y mwyaf arwyddocaol o'i bath yn hanes yr NSA.[5]
Ar 4 Mehefin 2013, cafodd ei gyhuddo gan yr erlyniad ffederal o espionage a lladrata eiddo'r llywodraeth.[6] Ar 8 Gorffennaf 2013, cafodd ei anrhydeddu gan grwp o gyn-swyddogion y CIA gyda Gwobr Sam Adams.[7]
Wedi Canu'r Gloch
golyguErs cyhoeddi'r storiau, mae Snowden wedi bod ar ffo. Ar 20 a 21 Mehefin dywedodd cynrychiolydd WikiLeaks fod jet siartredig wedi'i baratoi i'w gludo i Wlad yr Iâ,[8] a chyhoeddodd sefydlydd WikiLeaks ei fod yn cynnal trafodaethau rhwng Snowden a Gwlad yr Iâ, gyda'r posibilrwydd o'i lochesu yno.[9]
Ym Mai 2013, caniataodd yr awdurdodau iddo adael ei waith gyda NSA yn er mwyn iddo gael triniaeth am ei epilepsi.[4] Ar 20 Mai hedfanodd i Hong Cong,[10][11] ble roedd pan ymddangosodd yr erthyglau cyntaf yn y Guardian.[10][12]
Eglurodd ei weithredoedd mewn cyfweliad gan ddweud: "I don't want to live in a society that does these sort of things [surveillance on its citizens]... I do not want to live in a world where everything I do and say is recorded."[13] Cyhoeddodd ei enw yn y Guardian ar 9 Mehefin gan ddweud: "I have no intention of hiding who I am because I know I have done nothing wrong."[4] Ychwanegodd iddo wneud hyn er mwyn gwarchod ei gydweithwyr a fyddai'n cael eu herlyn mewn witch hunt posibl am y whistleblower.[14]
Cais am loches
golyguAr 1 Gorffennaf, datgelodd WikiLeaks fod Snowdon wedi gofyn am loches gwleidyddol i 20 o wledydd.[15] Dywedwyd fod llywodraeth yr UDA wedi ceisio rhoi pwysau ar y gwledydd hyn i beidio a gwneud hynny.[16]
Ar unwaith cyhoeddodd arlywydd Rwsia, Vladimir Putin wahoddiad i Snowden lochesu ond y byddai'n rhaid i Snowden beidio rhyddhau rhagor o wybodaeth a fydda'n "niweidio ein partneriaid Americanaidd" pe bai am loches.[17][18] Cyhoeddodd Snowden ei fod yn tynnu'r cais am loches yn ôl oherwydd yr amodau hyn.[15][19]
Cynigiwyd lloches iddo gan Nicaragwa,[20] Feneswela,[21] a Bolifia.[22]
Ymateb Ffindir, yr Almaen, India, Gwlad Pwyl, Norwy, yr Eidal ac Awstria oedd na allant gynnig lloches oni bai fod y cais yn cael ei wneud oddi fewn i ffiniau eu gwlad.[15][23][24].
Ar 23 Mehefin 2013, glaniodd yn un o feysydd awyrennau Mosgo, sef Sheremetevo.[25] Ar 25 Mehefin 2013, dywedodd Vladimir Putin fod "glaniad Snowden yn Mosgo yn newyddion annisgwyl iddo,"[26], nad oedd Snowden wedi troseddu ar dir Rwsia,[27], ei fod yn rhydd i adael unrhyw adeg ac y byddai hynny'n beth da.[28]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gellman, Barton; Markon, Jerry (9 Mehefin 2013). "Edward Snowden says motive behind leaks was to expose 'surveillance state'". The Washington Post. Cyrchwyd 10 Mehefin 2013.
- ↑ 2.0 2.1 Gellman, Barton; Blake, Aaron; Miller, Greg (9 Mehefin 2013). "Edward Snowden comes forward as source of NSA leaks". The Washington Post. Cyrchwyd 10 Mehefin 2013.
- ↑ Smith, Matt (9 Mehefin 2013). "NSA leaker comes forward, warns of agency's 'existential threat'". CNN. Cyrchwyd 10 Mehefin 2013.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Greenwald, Glenn; MacAskill, Ewen; Poitras, Laura (9 Mehefin 2013). "Edward Snowden: the whistleblower behind the NSA surveillance revelations". The Guardian. London. Cyrchwyd 9 Mehefin 2013.
- ↑ Shane, Scott; Somaiya, Ravi (June 16, 2013). "New Leak Indicates U.S. and Britain Eavesdropped at '09 World Conferences". The New York Times.
- ↑ Finn, Peter; Horwitz, Sari (21 Mehefin 2013). "U.S. charges Snowden with espionage". The Washington Post. Cyrchwyd 21 Mehefin 2013.
- ↑ "Snowden Honored by Ex-Intel Officials". Consortiumnews. 8 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2013.
- ↑ "WikiLeaks plane 'ready' to bring Snowden to Iceland". South China Morning Post. Hong Cong. Agence France-Presse. June 21, 2013. Cyrchwyd 21 Mehefin 2013.
- ↑ Ngo, Jennifer (21 Mehefin 2013). "Julian Assange intervenes to help Snowden get to Iceland". South China Morning Post. Agence France-Presse. Cyrchwyd 21 Mehefin 2013. Teitl yr erthygl a gyhoeddwyd: "Assange intervenes over Iceland option".
- ↑ 10.0 10.1 Smith, Matt; Pearson, Michael (10 Mehefin 2013). "NSA leaker holed up in Hong Kong hotel, running low on cash". CNN. Cyrchwyd 10 Mehefin 2013.
- ↑ "US leaker Edward Snowden 'defending liberty'". BBC News. 10 Mehefin 2013.
- ↑ Yang, Jia Lynn (10 Mehefin 2013). "Edward Snowden faces strong extradition treaty if he remains in Hong Kong". The Washington Post. Cyrchwyd 10 Mehefin 2013.
- ↑ NSA whistleblower Edward Snowden: 'I don't want to live in a society that does these sort of things' (video). The Guardian. London. 9 June 2013.
- ↑ MacAskill, Ewen (12 Mehefin 2013). "Edward Snowden: how the spy story of the age leaked out". The Guardian. London. Cyrchwyd 12 Mehefin 2013.
- ↑ 15.0 15.1 15.2 "Edward Snowden seeks asylum in 20 nations, but gets no immediate takers" Archifwyd 2013-07-11 yn y Peiriant Wayback. CBS News. Associated Press. 2 Gorffennaf 2013. Adalwyd 4 Gorffennaf, 2013.
- ↑ Gladstone, Rick (July 1, 2013). "Snowden Is Said to Claim U.S. Is Blocking Asylum Bids". The New York Times.
- ↑ Pearson, Michael; Smith, Matt; Mullen, Jethro (2 Gorffennaf 2013). "Snowden's asylum options dwindle". CNN. Cyrchwyd 3 Gorffennaf 2013.
- ↑ "Vladimir Putin: Edward Snowden must stop leaking secrets to stay in Russia". Politico. Associated Press. 1 Gorffennaf 2013.
- ↑ Elder, Miriam (2 Gorffennaf 2013). "Edward Snowden withdraws Russian asylum request". The Guardian. London.
- ↑ "Ortega Offers Snowden Asylum in Nicaragua if Circumstances Permit". Nicaragua Dispatch. Adalwyd 5 Gorffennaf 2013.
- ↑ "Venezuela's Maduro offers asylum to U.S. fugitive Snowden". Yahoo News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-09. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2013.
- ↑ "Morales daría asilo a Snowden en "protesta" contra Europa". Emol. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2013.
- ↑ Österreichische Regierung sieht Formalfehler bei Asylantrag von Snowden
- ↑ ""Poland, India, Brazil snub Snowden asylum application"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-22. Cyrchwyd 2013-07-10.
- ↑ Самолет с Эдвардом Сноуденом приземлился в "Шереметьево" NEWSru, 23 Mehefin 2013.
- ↑ "Путин признал: Сноуден - в Москве. И посоветовал США не "стричь поросенка"". NEWSru. 25 Mehefin 2013.
- ↑ "Putin: Snowden still in Moscow airport transit zone, won't be extradited". Russia Today. 25 Mehefin 2013. Cyrchwyd 25 Mehefin 2013.
- ↑ "Putin says Snowden at Russian airport, signals no extradition". Reuters. 25 Mehefin 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-29. Cyrchwyd 2013-07-10.