Eglwys Sant Brothen, Llanfrothen

hen eglwys yn Llanfrothen, Gwynedd

Eglwys ym mhentrefan Llanfrothen, Gwynedd, yw Eglwys Sant Brothen, Llanfrothen. Mae wedi bod dan ofal Friends of Friendless Churches ("Gyfeillion Eglwysi Di-gyfaill") ers 2002.[1] Fe'i cofrestrwyd yn adeilad cofrestredig Gradd I.[2]

Eglwys Sant Brothen
Matheglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanfrothen Edit this on Wikidata
SirLlanfrothen Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr9.3 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9503°N 4.0522°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH621412 Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Gothig Seisnig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Adeiladwyd yr eglwys ar lethr a safai ar lan y môr tan ddechrau'r 19g. Roedd hyn yn agos at ddechrau'r llwybr peryglus ar draws y tywod y Traeth Mawr o Ardudwy i Eifionydd. (Safai Eglwys Sant Beuno, Penmorfa ar y pen arall.) Ar ôl cwblhau'r Cob, Porthmadog, fel arglawdd ar draws aber Afon Glaslyn ym 1811, cafodd y tir hwn ei ddraenio, ac mae'r eglwys bellach tua 4 milltir o'r môr.

Cysegrwyd yr eglwys i Sant Brothen, a oedd yn un o feibion Helig ap Glannog yn ôl traddodiad. Dywedir y claddwyd y sant yno.[3] Ceir nifer o nodweddion pensaernïol yn yr eglwys yn cynnwys ffenestr o'r 13g.

Yn 1888 bu helynt enwog Achos claddu Llanfrothen ynghylch hawl i gladdu ym mynwent yr eglwys, a'r achos hwn a ddaeth â David Lloyd George i amlygrwydd am y tro cyntaf. Mae bedd Mary Jones o Minffordd, a lofruddiwyd gan yr Hwntw Mawr yma.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Llanfrothen"; Gwefan Friends of Friendless Churches; adalwyd 29 Mehefin 2019
  2. (Saesneg) "St Brothen's Church, Llanfrothen"; Gwefan Coflein; adalwyd 29 Mehefin 2019
  3. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000)

Dolenni allanol golygu