Achos claddu Llanfrothen

achos cyfreithiol ym 1888

Achos claddu Llanfrothen oedd yr achos cyfreithiol a daeth a'r cyfreithiwr ifanc o Lanystumdwy, David Lloyd George i sylw Rhyddfrydwyr anghydffurfiol Cymru ac a arweiniodd at ei ethol yn Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Caernarfon ym 1890 a'i yrfa wleidyddol bellach.[1]

Achos claddu Llanfrothen
Mathachos gyfreithiol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru

Cefndir golygu

 
George Osborne Morgan AS

Er bod gan nifer o gapeli anghydffurfiol eu mynwentydd eu hunain, cyn 1880, dim ond mynwentydd plwyf Eglwys Loegr oedd yn cael eu hamddiffyn gan ddeddf gwlad. Roedd nifer o bentrefi Cymru heb fan claddu ac eithrio mynwent y plwyf a dim ond offeiriad Eglwys Loegr oedd a'r hawl i gynnal gwasanaeth claddu yn y fynwent. Roedd yn sefyllfa oedd yn dwysau'r anghydfod ar ddiwedd y 19g rhwng anghydffurfwyr a'r Eglwys Wladol. Doedd gan Weinidog anghydffurfiol dim hawl i gynnal gwasanaeth claddu roedd rhaid i'r gwasanaeth cael ei gynnal gan offeiriad Anglicanaidd.

Rhwng 1870 a 1880 cyflwynodd Aelod Seneddol Sir Ddinbych, George Osborne Morgan, 10 cais o flaen Tŷ'r Cyffredin i ganiatáu i weinidogion anghydffurfiol i gynnal gwasanaethau claddu mewn mynwentydd plwyf.[2] Cafodd lwyddiant yn y pendraw gyda phasio Deddf Diwygio Deddfau Claddu 1880, oedd yn cael ei adnabod yng Nghymru fel Deddf Claddu Osborne Morgan.

Cymal cyntaf y ddeddf newydd oedd:

"Ar ôl pasio'r Ddeddf, gellir rhoi rhybudd y bydd claddu yn digwydd mewn man claddu eglwysig neu fynwent blwyf heb ddefodau Eglwys Loegr" [3]

Roedd y ddeddf yn rhoi hawl i anghydffurfwyr rhoi rhybudd o 48 awr i offeiriad plwyf eu bod am gynnal claddedigaeth ar dir y plwyf o dan ddefodau anghydffurfiol.

Estyniad mynwent Llanfrothen golygu

Ym 1864 rhoddodd Robert Hartley Owen a'i wraig Mrs Catherine Owen, Bryngwyn, Dolgellau darn o dir i Eglwys Llanfrothen, Sir Feirionydd, er mwyn ehangu'r fynwent. Ym 1869 codwyd arian gan blwyfolion Llanfrothen i dalu am adeiladu wal o amgylch y fynwent newydd. Cyfrannodd nifer o anghydffurfwyr at y gost o adeiladu'r mur, o dan y ddealltwriaeth eu bod yn cyfrannu at adnodd cymdeithasol at fudd holl drigolion y plwyf.

Wedi gwylltio bod deddf Osborne Morgan wedi ei basio a bod gwasanaeth anghydffurfiol wedi ei gynnal yn yr estyniad ychydig wedi pasio'r ddeddf, gwnaeth rheithor plwyf Llanfrothen, Y Parch Richard Jones, perswadio Mrs Owen (roedd Mr Owen wedi marw) i greu gweithred gyfreithiol ar gyfer y tir a roddwyd. Roedd y weithred newydd yn cynnwys amod bod y tir yn cael ei roi ar gyfer claddedigaethau o dan ddefodau Eglwysig yn unig. Cytunodd Mrs Owen i arwyddo'r weithred ym 1881. Roedd y weithred yn trosglwyddo'r tir fel eiddo preifat i Richard Jones, y Rheithor; John Evans, Archddiacon Meirionnydd [4] a'r Parch Evan Lewis, Rheithor Dolgellau (Deon Bangor, wedyn) [5] a'u disgynyddion.

Yn fuan wedi pasio deddf Osborne Morgan, bu farw plentyn dyn o'r enw John Roberts, swyddog mewn un o gapeli'r anghydffurfwyr ym Mhenrhyndeudraeth. Aeth Mr Roberts at y Parch Richard Jones i ymofyn caniatâd i gladdu'r plentyn yn y fynwent newydd. Cytunodd y rheithor. Ond pan dderbyniodd Jones rybudd o dan y ddeddf newydd fod yr angladd i fod yn un anghydffurfiol ceisiodd tynnu'r caniatâd yn ôl, safodd John Roberts ei dir a bu'n rhaid i'r Rheithor ildio. Yn fuan wedi hynny bu farw un arall o blant John Roberts. Oherwydd y drafferth a gawsant ar yr achlysur blaenorol, penderfynodd John Roberts a'i wraig i beidio â manteisio a deddf Osborne Morgan a chaniatáu i'r rheithor claddu'r plentyn. Pan aeth Roberts at y Rheithor i ofyn iddo gynnal y gwasanaeth, gwrthododd gwneud fel dial am y modd y claddwyd y plentyn gyntaf. Ar ôl pwysau gan y cyhoedd, gan gynnwys aelodau o'i eglwys ei hun, am iddo beidio bod mor greulon, claddodd Jones y plentyn o dan y drefn wladol.

Ym mis Medi 1883, bu farw John Griffiths, blaenor yng Nghapel Calfinaidd Llanfrothen. Pan roddwyd hysbyseb i'r Rheithor o'r bwriad o'i gladdu fel anghydffurfiwr, fe'i gwrthodwyd. Bygythiodd teulu a chyfeillion John Griffiths mynd a'r achos i gyfraith. Ymatebodd y Rheithor trwy ddangos y weithred oedd yn trosglwyddo'r tir fel eiddo preifat i'r tri gŵr eglwysig. Dyma oedd y tro cyntaf i unrhyw un arall cael gwybod bod yr hyn roedd pawb yn tybio oedd yn eiddo i'r plwyf, bellach yn dir personol preifat.

 
David Lloyd George

Bu llawer o ymgecru a chyfreithio yn sgil y darganfyddiad a chodwyd yr achos yn Nhŷ'r cyffredin gan Aelod Seneddol Meirion Tom Ellis. Cymerodd yr Ysgrifennydd Cartref Ceidwadol, Henry Mathews, ochr y rheithor.[6]

Un o'r cyfreithwyr a rhoddodd barn ar yr achos oedd David Lloyd George. Dyma ei farn ef ar y pwnc:

" Oddi wrth y ffeithiau a adroddir yn eich llythyr, ymddengys yn eglur

  1. . Bod y tir a ychwanegwyd at y fynwent blwyfol wedi ei fwriadu i fod yn perthyn i'r plwyf, a'i fod, mewn gwirionedd, wedi ei ddal a'i ddefnyddio fel y cyfryw. O ganlyniad, y mae yn dyfod o fewn terfynau Deddf Claddu 1880.
  2. . Bod yn ansicr pa un a gafodd y tir ei drosglwyddo mewn ffordd ffurfiol pan roddwyd ef.
  3. . Nas gall unrhyw weithred a wnaed yn 1881 ymyrraeth â'r telerau ar ba rai y delir y tir.

Nid yw o ddim pwys pa un a gysegrwyd y tir ai peidio. Yr anhawster yn y mater ydyw cael allan ffordd i benderfynu'r cwestiwn. Ni wna'r Ysgrifennydd Cartrefol presennol eich helpu, os gellir peidio mewn ffordd yn y byd; a'r unig lwybr a argymhella i'm meddwl i ydyw, i Anghydffurfwyr gymryd yn ganiataol fod y tir yn ddarostyngedig i ddeddf 1880, a gweithredu yn unol â hynny. Os bydd i'r Rheithor eich erlyn, credwyf y byddai yn amhosibl iddo ennill ei bwynt. Y mae hwn yn un o'r materion hynny y bydd diysgogrwydd mewn amddiffyniad o iawnder cyfreithiol yn debygol o lwyddo." [7]

Claddu Robert Roberts, Tŷ Capel golygu

 
Y Parch Thomas Evan Roberts, gweinyddwr yr angladd

Ar 23 Ebrill 1888 bu farw Robert Roberts, Tŷ Capel, Croesor aelod o gapel Y Methodistiaid Calfinaidd yn y pentref.[8] Roedd merch Mr Roberts wedi cael ei chladdu yn yr estyniad newydd yn Llanfrothen a dymuniad teulu Mr Roberts oedd ei gladdu ef yn yr un bedd.[9][10]

Aeth y teulu at y rheithor i ofyn caniatâd i gladdu Mr Roberts gyda'i ferch heb grybwyll y bwriad o gynnal angladd anghydffurfiol. Cytunodd y Rheithor i'r cais a rhoddwyd cyfarwyddyd i'r clochydd i agor bedd. Dim ond ar ôl i'r bedd cael ei agor y rhoddwyd gwybod i'r Rheithor bod bwriad i gynnal angladd anghydffurfiol. Gorchmynnodd y Rheithor i'r clochydd ail lenwi'r bedd. Roedd Morris Roberts, Y Garreg, Llanfrothen yn frawd i'r ymadawedig ac yn un o wardeiniaid Eglwys Sant Brothen, Llanfrothen. Defnyddiodd ei awdurdod fel warden i wysio un o'i weision i agor y bedd trachefn a'i linellu efo brics.[11]

Gwrthododd y Rheithor rhoi goriad i glo giât y fynwent i gynrychiolwyr y teulu. Gan fethu cael mynediad efo goriad torrwyd y clo gan y galarwyr a chladdwyd Robert Roberts gyda'i ferch yn ôl braint a defodau'r Methodistiaid Calfinaidd gan y Parch T E Roberts MA ar 27 Ebrill 1888.[12]

Yr achosion llys golygu

 
Y Barnwr John Bishop

Ar 16 Mai 1888 cychwynnwyd achos yn Llys Sirol Porthmadog i geisio iawndal o £20 am fynd i mewn i dir ar gam, cloddio bedd ynddo, claddu corff, a chynnal gwasanaeth angladd yno heb drwydded na chydsyniad. Yr achwynwyr oedd y tri oedd yn hawlio perchnogaeth y tir o dan gytundeb gyda Mrs Owen sef Y Parch Richard Jones, Rheithor Llanfrothen; Y Gwir Parchedig John Evans, Archddiacon Meirionnydd a'r Gwir Parchedig Evan Lewis, Deon Bangor. Y Diffynyddion oedd Morris Roberts, Garreg, Llanfrothen; Evan Roberts, Penrhyndeudraeth; Roberts, Tŷ capel (mab yr ymadawedig), Croesor; David Roberts, Bryngwylyn; John Evans, Garreg, Llanfrothen; James Ephraim, Garreg, Llanfrothen; Robert Williams, Bodunig, Croesor; ac Owen Roberts, Tresaethon, Croesor.

Gwrandawyd yr achos gan Ei Anrhydedd y Barnwr John Bishop. Ymddangosodd cwmni cyfreithiol Carter a Vincent, Caernarfon ar ran yr achwynwyr a David Lloyd George o Gwmni Lloyd George a George, Cricieth ar ran y diffynyddion. Mynnodd y diffynyddion presenoldeb rheithgor i glywed yr achos.

Roedd achos yr achwynwyr yn ddibynnol yn llwyr ar y weithred gyfreithiol a arwyddwyd gan Mrs Catherine Owen yn trosglwyddo perchenogaeth y tir iddynt ym 1881, a gan hynny yn honni bod y tir ddim yn dod o dan ofynion Deddf Diwygio Deddfau Claddu 1880.

Achos y diffynyddion oedd bod y weithred o 1881 yn anghyfreithiol gan ei fod yn hawlio trosglwyddo'r tir o eiddo Mrs Owen i'r tri gŵr eglwysig ymhell a'r ôl i'r tir cael ei drosglwyddo yn y lle cyntaf a gan hynny yn methu o dan Ddeddf Cyfyngu Eiddo Tiriog 1874. Gan hynny roedd y tir yn parhau i fwynhau'r statws a rhoddwyd iddi ar adeg ei drosglwyddo ym 1864 fel rhan estynedig o fynwent y plwyf. Roedd y diffynyddion hefyd yn hawlio £5 o iawndal gan yr achwynwyr am ymyrryd mewn angladd gyfreithiol.

Ar ôl clywed y dystiolaeth eglurodd y barnwr wrth y rheithgor mae'r hyn oedd rhaid iddynt ystyried oedd a roddwyd y tir ar lafar neu drwy weithred i'r rheithor a'r plwyfolion fel ychwanegiad at y fynwent ym 1864; ac, yn yr ail le, a feddiannwyd yn andwyol byth ers hynny? Pe bai'r rheithgor yn penderfynu yn gadarnhaol, yna byddai'r dyfarniad ar gyfer y diffynyddion.

Wedi ymddeol i ystyried yr achos atebodd y rheithgor yn gadarnhaol, a'i ganlyniad oedd rheithfarn i'r diffynyddion ar y ffeithiau.

Er gwaethaf ateb y rheithgor penderfynodd y barnwr i ohirio ei ddyfarniad ac i ohirio'r achos. Pan ail gyfarfu'r llys ar 25 Gorffennaf 1888 penderfynodd y barnwr i fynd yn groes i ddyfarniad y rheithgor. Dwedodd y barnwr mae ym 1869, pan adeiladwyd y wal, daeth y tir dan defnydd y plwyf (llai na'r 12 mlynedd oedd yn creu gyfyngiad o dan y Ddeddf Cyfyngu Eiddo). Rhoddodd dyfarniad o iawndal o £5 a chostau o bum swllt i'r achwynwyr. Dywedodd Lloyd George ei fod yn bwriadu apelio yn erbyn y dyfarniad.[13] Gofynnodd i ffromon y rheithgor i ysgrifennu nodyn i ddweud mae eu canfyddiad oedd bod yn tir yn dir plwyf ers 1864. Ysgrifennwyd yn nodyn ond gwrthododd y Barnwr i'w derbyn fel rhan o gofnod y llys.

Cynhaliwyd yr apêl ar 15 Rhagfyr 1888 yn Yr Uchel Lys o flaen Yr Arglwydd Ustus Coleridge a Mr Ustus Mainsty. Roedd Lloyd George a George wedi cyfarwyddo'r Bargyfreithwyr Bompas a Scrutton ar ran yr apelwyr (anghydffurfwyr Llanfrothen) a chwmni Vincent a Carter wedi cyfarwyddo'r Bargyfreithiwr Juen ar ran yr ymatebwyr (y tri gŵr eglwysig).

Prif ddadl yr apelwyr oedd bod y Barnwr Bishop wedi gwneud camgymeriad wrth ystyried cynnwys y Ddeddf Cyfyngu Eiddo Tiriog 1874. Gan fod tystiolaeth amlwg ddiymwad bod y tir wedi bod dan reolaeth y plwyf am dros 12 mlynedd ers 1864, nid oedd Mrs Catherine Owen yn berchennog y tir ym 1881, ac felly nid oedd hawl gyfreithiol iddi ei rhoi i'r gwŷr eglwysig trwy'r weithred a arwyddwyd ganddi ym 1881. Bod y tir wedi ei ddefnyddio gan y plwyf, nid gan y Rheithor fel unigolyn, at bwrpas claddu, roedd yn dod o dan Ddeddf Diwygio Deddfau Claddu 1880. A Bod y Barnwr wedi anwybyddu neu gamddehongli canfyddiad y rheithgor ac wedi dyfarnu yn groes i'r canfyddiad. Penderfyniad y llys oedd bod y tir yn eiddo i'r plwyf a gan hynny nad oedd gan y Rheithor a'i gyd achwynwyr hawl gyfreithiol i ddod ag achos yn erbyn y diffynyddion yn y lle cyntaf a gan hynny bod yr holl achos yn syrthio. Dyfarnwyd costau am y ddwy achos llys i'r apelwyr i'w talu gan yr ymatebwyr. Gwrthodwyd hawl i apelio i Dŷ'r Arglwyddi.[9] Penderfynodd Yr Arglwydd Ustus Coleridge danfon adroddiad o gam ymddwyn gan y Barnwr i'r Arglwydd Ganghellor [14] am y modd gwnaeth newid rhai o nodiadau'r llys i geisio cuddio'r ffaith bod o wedi anwybyddu canfyddiad y rheithgor.[15]

Pwysigrwydd i Lloyd George golygu

 
Cofgolofn Lloyd George, Caernarfon

Roedd Achos Claddu Llanfrothen yn bwysig iawn i deulu'r diweddar Robert Roberts ac i Anghydffurfiaeth yn gyffredinol, ond roedd yn hynod bwysig i Lloyd George hefyd.[16]

Roedd Lloyd George yn gefnogwr brwd i'r achos Rhyddfrydol ac wedi bod yn hynod weithgar yn ei gefnogaeth i'r achos. Bu'n ymgyrchu mewn tair etholaeth Sir Gaernarfon, Bwrdeistrefi Caernarfon a Meirion yn ystod etholiad 1886. Daeth yn gyfaill agos i Tom Ellis a nifer o Ryddfrydwyr ifanc amlwg eraill ei ddydd ac roedd yn areithiwr tanbaid a phoblogaidd yng nghyfarfodydd y blaid.

Roedd ei uchelgais i ddod yn Aelod Seneddol yn amlwg, ond roedd ganddo broblem. Roedd pwy oedd yn cael sefyll fel ymgeisydd Rhyddfrydol dan reolaeth anghydffurfwyr pybyr. Roedd William George ei dad yn Undodwr. Pan fu farw ei dad cafodd ei fagu ar aelwyd ei ewyrth Richard Lloyd, roedd Richard Lloyd yn weinidog lleyg gyda'r Bedyddwyr Albanaidd [17] a DLlG yn aelod o'r un enwad. Roedd y rhan fwyaf o aelodau'r enwadau anghydffurfiol eraill yn gweld yr Undodiaid a'r Bedyddwyr Albanaidd yn wyrdroëdig eu credoau, os nad yn hollol hereticaidd. Byddai cysylltiad ag un o'r enwadau yn creu anhawster i ennill cefnogaeth rhyddfrydwyr anghydffurfiol prif-lif; byddai cael cysylltiad â dau yn gwneud y peth yn amhosibl. Trwy gymryd achos mor amlwg â mor bwysig dros aelod o un o'r prif enwadau anghydffurfiol yn erbyn grym Eglwys Loegr daeth DLlG yn arwr i bob anghydffurfiwr. Rhwng achos Porthmadog a'r apêl yn Llundain enwebwyd Lloyd George yn ddarpar ymgeisydd ar gyfer y Rhyddfrydwyr yn etholaeth Bwrdeistrefi Caernarfon. Cyn pen dwy flynedd bu Edmund Swetenham, AS Ceidwadol y bwrdeistrefi marw ac etholwyd y cyfreithiwr ifanc yn yr isetholiad olynol. Gellir dweud yn deg bod achos claddu Llanfrothen wedi rhoi sbardun i yrfa wleidyddol a newidiodd cwrs y byd.[18]

Cyfeiriadau golygu

  1. Humphreys, E. M., (1970). LLOYD GEORGE, DAVID (1863 - 1945), yr IARLL LLOYD-GEORGE o DDWYFOR cyntaf, gwleidydd. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 25 Awst 2020
  2. "MESUR MR OSBORNE MORGAN AR Y MYNWENTYDD - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1870-03-30. Cyrchwyd 2020-08-25.
  3. Burial Laws Amendment Act 1880 adalwyd 25 Awst 2020
  4. "EVANS, JOHN (1815 - 1891), archddiacon Meirionnydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-08-25.
  5. Jenkins, R. T., (1953). LEWIS, EVAN (1818 - 1901), deon Bangor. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 25 Awst 2020
  6. "DYDD LLUN - Y Dydd". William Hughes. 1887-04-01. Cyrchwyd 2020-08-25.
  7. Dyfyniad o Lythyr Lloyd George yn Cymru Fydd Cyf. I Rhif. 10 Hydref 1888 tudalen 597 adalwyd 25 Awst 2020
  8. "THE OPERATION OF THE BURIALS ACT IN WALES - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1888-05-26. Cyrchwyd 2020-08-25.
  9. 9.0 9.1 "THE LLANFROTHEN BURIAL CASE - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1888-12-28. Cyrchwyd 2020-08-25.
  10. Evans, Beriah Gwynfe (1916). "Y Cenedlaetholwr" . Rhamant Bywyd Lloyd George. Utica, Talaith Efrog Newydd: Swyddfa'r Drych. tt. 36–37.
  11. "HELYNT Y CLADDU YN LLANFROTHEN - Y Werin". D. W. Davies & Co. 1888-05-19. Cyrchwyd 2020-08-25.
  12. Tudalen Facebook Amgueddfa Lloyd George adalwyd 25 Awst 2020
  13. "HELYNT Y CLADDU YN LLANFROTHEN - Y Werin". D. W. Davies & Co. 1888-07-28. Cyrchwyd 2020-08-25.
  14. "MYNWENT LLANFROTHEN O FLAEN Y BARNWYR - Y Werin". D. W. Davies & Co. 1888-12-22. Cyrchwyd 2020-08-25.
  15. "THE BREAKING INTO LLANFROTHEN CHURCH YARD - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1888-12-21. Cyrchwyd 2020-08-25.
  16. Cross, Michael (2016-08-25). "A solicitor who broke the mould (and a lock)". Law Gazette. Cyrchwyd 2020-08-25.
  17. "LLOYD, RICHARD (1834 - 1917), bugail eglwys Disgyblion Crist (y 'Bedyddwyr Campbelaidd'), Cricieth | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-08-26.
  18. "The Curious Tale of Robert Roberts of Llanfrothen". Friends of Friendless Churches. Cyrchwyd 2020-08-25.