Griffith Jones (Glan Menai)
Roedd Griffith Jones (Glan Menai) (Mawrth 1836 - 21 Hydref 1906) yn ysgolfeistr ac yn awdur Cymreig.[1]
Griffith Jones | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mawrth 1836 ![]() Llanfairfechan ![]() |
Bu farw | 21 Hydref 1906 ![]() Llanfairfechan ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro, ysgrifennwr, llyfrwerthwr ![]() |
Cefndir Golygu
Ganwyd Jones yn Llanfairfechan yn blentyn i Griffith Jones, bugail a thywysydd ymwelwyr trwy'r mynyddoedd a Mary ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys St Mair, Llanfairfechan a chafodd ei addysgu yn Ysgol Genedlaethol (ysgol Eglwys Loegr) Llanfairfechan. Wedi ymadael a'r ysgol aeth yn fyfyriwr i Goleg y Drindod Caerfyrddin lle gymhwysodd fel athro.[2]
Gyrfa Golygu
Cafodd ei benodi yn athro yn Ysgol Genedlaethol Llanddeusant, Môn, symudodd oddi yno ar ôl gyfnod byr i fod yn athro yn Ysgol Genedlaethol Llanfrothen. O Lanfrothen symudodd i Ysgol Genedlaethol Aberaeron. Yn Aberaeron bu hefyd yn cadw ysgol breifat i ddysgu sgiliau morwrol, aeth nifer o'i ddisgyblion preifat ymlaen i fod yn gapteiniaid llongau. Bu'n dysgu yn Aberaeron am ddeng mlynedd cyn symud i Ysgol Genedlaethol Llandybie lle arhosodd am 3 blynedd cyn dychwelyd i Aberaeron. Ni fu yn Aberaeron am yr eildro am lawer gan i'w iechyd torri a'i orfodi i roi'r gorau i fod yn athro ar ôl gyrfa o 20 mlynedd.
Symudodd i Gaernarfon i fyw. Yno dechreuodd ysgrifennu erthyglau ar gyfer y papurau lleol a phapurau Cymreig Lerpwl fel y caniatâi ei iechyd. Wedi cael peth adferiad aeth ar gais y Deon Edwards ar daith trwy Gymru i chwilio am ohebwyr a thanysgrifwyr i gylchgrawn enwadol Eglwys Lloegr, Y Llan. Wedi llwyddo yn y gwaith cafodd gais gan berchennog y Carmarthen Journal i wneud gwaith tebyg. Gwariodd gweddill ei oes yn hybu papurau ac yn gwerthu llyfrau.[3]
Gyrfa lenyddol Golygu
Dechreuodd Glan Menai cystadlu mewn eisteddfodau pan oedd yn weddol ifanc. Cafodd ei lwyddiant mawr cyntaf ym 1859 pan ddaeth yn fuddugol am y cyfieithiad gorau o "God Save the Queen" i'r Gymraeg. Rhan o'r wobr oedd cael gwahoddiad i Gastell Penrhyn i glywed ei gyfieithiad yn cael ei chanu o flaen y Frenhines Fictoria, tra bod hi'n ymweld â Chymru. Ym 1861 cyhoeddwyd nofel, Hywel Wyn, ganddo. Ym 1865 enillodd wobr am y traethawd gorau am "Enwogion Sir Aberteifi" a gyhoeddwyd fel llyfr gan gwmni Hughes, Dolgellau ym 1868.[4]. Yn Eisteddfod Porthaethwy 1879 bu'n fuddugol am draethawd ar "Fywyd ac Athrylith Lewis Morris (Llywelyn Ddu o Fôn)" Ym 1886 cyhoeddwyd cyfrol o'i gerddi "Caneuon Glan Menai". Cyhoeddwyd nifer fawr o draethodau a chyfieithiadau eraill ganddo hefyd. Ym 1901 cyhoeddodd llyfr Saesneg am fro ei enedigaeth "A Commplete Guide to Llanfairfechan and Aber".[5]
Ym 1904 cafodd blwydd-dal o £30 y flwyddyn gan y llywodraeth fel cydnabyddiaeth i'w cyfraniad at lenyddiaeth Cymraeg a Chymreig.[6]
Teulu Golygu
Bu'n briod ddwywaith. Bu farw ei wraig gyntaf yn Aberdaron wrth esgor. Mary oedd enw ei ail wraig a bu iddynt dwy ferch a mab. Bu Mary farw ym 1902 [7]
Marwolaeth Golygu
Wrth ymweld â Chonwy fel rhan o'i waith fel llyfrwerthwr cafodd Glan Menai ffit apoplectig (strôc, mae'n debyg) aed a fo adref i Lanfairfechan ar y trên ond bu farw o fewn hanner awr o gyrraedd cartref. Claddwyd ei weddillion ym mynwent y plwyf Llanfairfechan.[8]
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ "JONES, GRIFFITH (Glan Menai; 1836 - 1906), ysgolfeistr ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-08-16.
- ↑ "Glan Menai - The Welsh Coast Pioneer and Review for North Cambria". W. H. Evans. 1909-03-18. Cyrchwyd 2019-08-15.
- ↑ "GLAN MENAI - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1909-03-12. Cyrchwyd 2019-08-15.
- ↑ Internet Archive Enwogion Sir Aberteifi, Copi wedi ei ddigido gellir ei ddarllen am ddim
- ↑ "GLAN MENAI - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1909-05-12. Cyrchwyd 2019-08-15.
- ↑ "ANNUITYFORGLANMENAI - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1904-08-26. Cyrchwyd 2019-08-16.
- ↑ "Family Notices - Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent". James Rees. 1902-02-07. Cyrchwyd 2019-08-16.
- ↑ "jOBITUARY - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1906-10-29. Cyrchwyd 2019-08-15.