Thomas William Jones

gwleidydd Llafur

Roedd Thomas William Jones, Arglwydd Maelor (10 Chwefror 189818 Tachwedd 1984) yn Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth Meirionnydd. Ef a'i frawd James Idwal Jones AS oedd y ddau frawd cyntaf erioed i eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin ar yr un pryd. Bu farw mewn tân yn ei gartref yn y Ponciau, ger Wrecsam.

Thomas William Jones
Ganwyd10 Chwefror 1898 Edit this on Wikidata
Bu farw18 Tachwedd 1984 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ramadegol Rhiwabon
  • Athrolys Edit this on Wikidata
Galwedigaethundebwr llafur, gwleidydd, athro Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd ef ym mhentref glofäol y Ponciau 10 Chwefror 1898 yn fab i James Jones ac Elizabeth (née Bowyer). Roedd yn frawd i James Idwal Jones (1900-1982) A.S. Wrecsam o 1955 hyd 1970. Cafodd ei addysgu yn Ysgol y Bechgyn, Ponciau gan adael yr ysgol yn 14 oed er mwyn gweithio ym mhwll glo'r Bers.

Roedd yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac aeth i'r fyddin i gyflawni dyletswyddau nad oeddynt yn ymwneud â brwydro uniongyrchol. Gan iddo wrthod ildio i orchymyn yr oedd yn credu ei fod yn torri ar ei statws fel un an-filwrol cafodd ei ddedfrydu i chwe mis o garchar gan lys milwrol. Treuliodd ran o gyfnod ei garchariad yn Wormwood Scrubs, Llundain cyn cael ei drosglwyddo i Ganolfan Gwaith Princetown yn Dartmoor, Dyfnaint.

Ar ôl y rhyfel cofrestrodd Jones fel myfyriwr yng Ngholeg y Normal, Bangor ym 1920 gan gymhwyso fel athro ym 1922.[1] Wedi cyfnod o 18 mlynedd fel athro symudodd Jones i fod yn swyddog lles yn y Weinyddiaeth Lafur ym 1940. Ym 1946 fe'i penodwyd yn swyddog lles gyda Chwmni Pŵer a Thrydan Gogledd Cymru (MANWEB o 1951).

Gyrfa wleidyddol

golygu

Ymunodd â'r Blaid Lafur Annibynnol ym 1919 a bu'n gadeirydd Cyngor Llafur Wrecsam a Ffederasiwn Llafur Gogledd Cymru. Wedi cyrraedd rhestr fer fel ymgeisydd seneddol ym Môn ym 1931 tynnodd ei enw'n ôl fel cefnogaeth i Megan Lloyd George, yr ymgeisydd Rhyddfrydol Annibynnol a'r Aelod Seneddol ers 1929.

Safodd fel ymgeisydd Seneddol y Blaid Lafur ym Meirionnydd ym 1935 gan dorri mwyafrif yr AS Rhyddfrydol Henry Haydn Jones i ychydig dros fil o bleidleisiau. Ni safodd o yn etholiadau 1945 na 1950 ond dychwelodd i ymladd Meirionnydd yn etholiad 1951 gan gipio'r sedd oddi wrth y Blaid Ryddfrydol. Roedd yr aelod Rhyddfrydol a ddisodlwyd Emrys Owain Roberts yn credu bod Gwynfor Evans, a fu'n ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholaeth yn ystod y ddau etholiad blaenorol, wedi tynnu o'r ras yn unswydd er mwyn sicrhau buddugoliaeth i T. W. Jones.

Ni chodwyd Jones i unrhyw swydd yn rheng flaen y Blaid Lafur Seneddol ond fe wasanaethodd fel cadeirydd y grŵp Cymreig o Aelodau Seneddol Llafur. Ef yn bennaf a berswadiodd y Bwrdd Trydan Canolog i sefydlu gorsaf ynni niwclear yn Nhrawsfynydd ac ef oedd yn bennaf gyfrifol am berswadio'r llywodraeth i ddod â Llyn Tegid o dan berchnogaeth gyhoeddus.

Ystyrid T.W. Jones fel un o griw "cenedlaetholgar" y Blaid Lafur Seneddol ynghyd â Goronwy Roberts, Cledwyn Hughes, Jim Griffiths ac ati, er hynny llugoer ydoedd tuag at ymgyrchwyr achos achub Cwm Celyn.[2]

Er nad oedd pwll glo yn ei etholaeth yr oedd yn danbaid dros achos y glöwyr, i'r graddau bod rhai o'i wrthwynebwyr yn ei gyhuddo o boeni mwy am fuddiannau glowyr parthau eraill Cymru nag am chwarelwyr ei etholaeth ei hyn.

Cynrychiolodd Jones etholaeth Meirionnydd yn San Steffan hyd ei ymddeoliad ym 1966.

Tŷ’r Arglwyddi

golygu

Wedi ymddeol o Dŷ’r Cyffredin cafodd Jones ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel Barwn am oes gan ddwyn y teitl Yr Arglwydd Maelor o Rosllannerchrugog, cafodd ei urddo i'r Tŷ ar 29 Mehefin 1966 [3] Bu'n aelod gweithgar o'r tŷ hyd i'w iechyd torri ym 1981.

Yn ystod seremoni Arwisgo Tywysog Cymru 1969, yr Arglwydd Maelor oedd yn gyfrifol am gludo modrwy'r arwisgo i'r Frenhines.[4]

Cyfraniad tu allan i wleidyddiaeth

golygu
 
Elizabeth, Mam TW

Daeth Jones yn Ynad Heddwch dros Sir Ddinbych ym 1937 yn ddim ond 39 mlwydd oed. Bu Jones yn Bregethwr Cynorthwyol poblogaidd yng Nghapeli Gogledd Cymru am gyfnod maith.

Cafodd ei urddo i Wisg Wen Gorsedd y Beirdd ym 1962. Cafodd ei ddewis yn Llywydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym 1963.

Cyhoeddodd nifer o gyfrolau ar amrywiol bynciau gan gynnwys llawlyfr ar sut i ganio bwyd, arweiniad i waith y Senedd yn San Steffan a hunangofiant. (Gweler Llyfryddiaeth isod)

Bywyd personol

golygu

Ymbriododd â Flossy, merch Jonathon Thomas, Penbedw ar 1 Ionawr 1928.

Bu farw o ganlyniad i dân yn ei gartref yn y Ponciau ar 18 Tachwedd 1984.[1] Bu un mab a merch fyw ar ei ôl; Jim Jones un o gymwynaswyr blaenaf bocsio amatur Gogledd Cymru [5] ac Angharad Jones; rhoddodd Angharad (Jones) Jurkiewicz gwobr o £100 er cof am ei thad am Englyn yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011.[6]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Y Senedd: hanes datblygiad a gwaith y Senedd yn San Steffan ynghyd â'i defodau a'i thraddodiadau (1969)
  • Fel hyn y bu (hunangofiant). Gwasg Gee, 1970.
  • Thomas Jefferson: trydydd Arlywydd America. Gwasg Gee, 1980.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Jones, John Graham, (2009). ‘Jones, Thomas William ('Tom') Barwn Maelor o'r Rhos, (1898-1984), gwleidydd Llafur’. Y Bywgraffiadur Cymreig. Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol
  2. Jones, Watcyn L Cofio Capel Celyn Gwasg y Lolfa 2008 ISBN 9781847710321
  3. Hansard Lords Deb 29 June 1966 vol 275 c659 Archifwyd 2013-01-01 yn y Peiriant Wayback adalwyd 9 Hydref 2013
  4. Pathe News - Newsreel o'r Arwisgo Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 9 Hydref 2013
  5. Western Mail 31 Rhagfyr 2012 http://www.walesonline.co.uk/news/local-news/funeral-set-north-wales-boxing-2015429 adalwyd 9 Hydref 2013
  6. http://www.bbc.co.uk/cymru/symudol/eisteddfod/cyst.shtml?rhif=150 adalwyd 9 Hydref 2013
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Emrys Owain Roberts
Aelod Seneddol dros Feirionnydd
19511966
Olynydd:
William Henry Edwards