Grŵp Llanymddyfri

(Ailgyfeiriad o Epoc Llanymddyfri)

Mewn daeareg, arferai'r term Grŵp Llanymddyfri gyfeirio at raniad isaf y cyfnod Silwraidd (Silwraidd Isaf) ym Mhrydain. Fe'i enwyd yn y 1860au ar ôl creigiau o amgylch tref Llanymddyfri, yng ngogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin, De Cymru. Yn y 1920au defnyddiwyd y term Creigiau Llanymddyfri ac fe'i derbyniwyd fel term daearegol drwy'r byd. Enw arall, nas derbyniwyd oedd Valentian, a gynigiwyd gan Charles Lapworth yn 1879. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys 'siâl Tarannon' (1,000-1,500 tr.), creigiau 'Llanymddyfri Uchaf' a May Hill (tywodfaen; 800 tr.) a Llanymddyfri Isaf' (600-1,500 tr.).

Grŵp Llanymddyfri
Enghraifft o'r canlynolcyfres, epoc Edit this on Wikidata
Rhan oSilwraidd, Graddfa Cronostratigraffig Fyd-eang Safonol (Daeargronolegol) ICS Edit this on Wikidata
DechreuwydMileniwm 443800. CC Edit this on Wikidata
Daeth i benMileniwm 433400. CC Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganLate Ordovician Edit this on Wikidata
Olynwyd ganWenlock Edit this on Wikidata
Yn cynnwysTelychian, Aeronian, Rhuddanian Edit this on Wikidata

Llanymddyfri Isaf golygu

Mae creigiau Llanymddyfri Isaf yn cynnwys cruglwythau, tywodfaen a gwlâu o lechi. Yn y dref ei hun, maent yn gorwedd ar greigiau Ordoficaidd, sydd hefyd i'w cael i'r de-orllewin ym Mhenfro, ac sy'n crymu o amgylch y dref tuag at ardal Rhaeadr Gwy ble maent yn eitha trwchus. Fe'u ceir hefyd yng Ngheredigion ac yn Sir Gaerfyrddin.[1]

Llanymddyfri Uchaf golygu

Calchfaen (neu gerrig calch) sialog a deuamgrwn yw gwneuthuriad creigiau Llanymddyfri Uchaf ynghyd â chalchfaen Norbury, Hollies a Pentamerus. Mae i'w weld fel carreg frig yn Sir Gaerfyrddin, ar waelod y creigiau Silwraidd ac yna'n diflannu o'r golwg dan Hen Dywodfaen Coch tua'r gorllewin cyn ail godi i'r wyneb yn Sir Benfro. Mae'r rhan sy'n ymestyn i'r gogledd-ddwyrain yn anelu tuag at Cefn Hirfynydd (Long Mynd yn Swydd Amwythig, ac mae'r creigiau cruglwythog hyn yn crymu o amgylch Long Mynd ei hun. Mae'r ffosiliau o fewn y garreg yn cynnwys trilobeitiau Phacops caudata, Encrinurus punctatus a Calymene blumenbachis; ceir hefyd y brachiopodau Pentamerus oblongus, Orthis calligramma a Atrypa reticularis; dau fath o gwrel Favosites a Lindostroemia; a'r zonal graptolites Rastriles maximus a Monograptus spinigerus.

Siâl Tarannon golygu

Llechi glas, llwyd a llwydlas yw lliw Siâl Tarannon, a enwyd gan Adam Sedgwick; mae'r graig Paste Rock yn ymestyn o Lanymddyfri i Gonwy. Yng Ngheredigion, ceir gwlâu grudiog a gerllaw ym Muallt mae'r siâl yn dywyllach ac yn feddalach. Prin iawn yw'r ffosiliau yn Siâl Tarannon, ar wahân i'r graptolitau: Cyrtograptus grayae a Monograptus exiguus. Mae Siâl Tarannon hefyd i'w weld yn Rhaeadr Gwy ac yng Ngwregys Silwraidd Moffat yn ne'r Alban ger y Drumyork Flags, Bargany Group a'r Penkill Group. Yn Iwerddon, codant i'r wyneb fel Siâl Treveshilly yn Strangford Lough a Siâl Salterstown, Swydd Louth.

Cyfeiriadau golygu

  1. britannica.com; adalwyd Tachwedd 2015