Eric Hobsbawm
Hanesydd ac awdur Marcsaidd o Loegr oedd Eric John Ernest Hobsbawm (9 Mehefin, 1917 – 1 Hydref 2012), a elwir gan amlaf yn "Eric Hobsbawm" neu'n "E. J. Hobsbawm". Ymhlith ei weithiau enwocaf yw ei driawd ar "y bedwaredd ganrif ar bymtheg hir": The Age of Revolution: Europe 1789–1848, The Age of Capital: 1848–1875, ac The Age of Empire: 1875–1914; a'i lyfr ar "yr ugeinfed ganrif fer", The Age of Extremes: The Short Twentieth Century, 1914–1991.
Eric Hobsbawm | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mehefin 1917 Alexandria |
Bu farw | 1 Hydref 2012 o niwmonia Llundain |
Man preswyl | Fienna, Villa Seutter, Berlin, Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, hanesydd mewn economeg, hanesydd cymdeithasol, academydd, newyddiadurwr cerddoriaeth, hanesydd, gwyddonydd gwleidyddol |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Age of Revolution: Europe 1789–1848, Bandits, The Age of Capital: 1848–1875, The Age of Extremes: A History of the World, 1914–1991, Primitive Rebels: Studies in Archaic Forms of Social Movement in the 19th and 20th centuries |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr |
Tad | Leopold Percy Hobsbaum |
Mam | Nelly Hobsbaum |
Priod | Muriel Seaman, Marlene Hobsbawm |
Plant | Julia Hobsbawm, Andy Hobsbawm, Joss Bennathan |
Gwobr/au | Gwobr Balza, Bochum Historian Prize, Gwobr Ernst Bloch, Gwobr hanes Wolfson, Lionel Gelber Prize, Deutscher Memorial Prize, Doethuriaeth er Anrhydedd Prifysgol Girona, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Fienna, doethur honouris causa o Brifysgol Carolina de Praga, Cymrawd yr Academi Brydeinig, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, honorary citizen of Vienna, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Gwobr Llyfr Leipzig am Gyfraniad i Dealltwriaeth Ewropeaidd, Cydymaith Anrhydeddus, Medal Medlicott |
Cafodd ei eni i deulu Iddewig yn Alecsandria, yr Aifft, ym 1917, a symudodd i Fienna pan oedd yn ddwyflwydd oed. Masnachwr Prydeinig oedd ei dad a llenores Awstriaidd oedd ei fam, a bu farw'r ddau yn ystod y Dirwasgiad Mawr. Ymunodd Eric Hobsbawn â'r Blaid Gomiwnyddol yn 14 oed tra'n byw ym Merlin â'i ewythr. Ymfudodd i Loegr ym 1933 ac aeth i Brifysgol Caergrawnt, lle bu'n gyfaill i Raymond Williams. Penodwyd ef yn ddarlithydd hanes yng Ngholeg Birkbeck ym 1947 a dyrchafwyd yn athro ym 1970.[1][2] Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Interesting Times: A Twentieth Century Life, yn 2002.
Bu farw ar 1 Hydref 2012 yn y Royal Free Hospital, Llundain, o niwmonia.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Obituary: Eric Hobsbawm. BBC (1 Hydref 2012). Adalwyd ar 1 Hydref 2012.
- ↑ (Saesneg) Historian Eric Hobsbawm dies, aged 95. BBC (1 Hydref 2012). Adalwyd ar 1 Hydref 2012.
- ↑ (Saesneg) Kemp, Danny (1 Hydref 2012). Historian Eric Hobsbawm dies aged 95. AFP. Google News. Adalwyd ar 1 Hydref 2012.