Essais de Théodicée

Llyfr athroniaeth yn Ffrangeg, gydag atodiad Lladin, gan yr Almaenwr Gottfried Wilhelm Leibniz yw Essais de Théodicée, a gyhoeddwyd yn 1710, sydd yn ymdrin â phroblem drwg ac yn ymateb yn bennaf i ddadleuon Pierre Bayle ynghylch bodolaeth Duw. Enw llawn y gwaith yw Essais de Théodicée sur la bonté de Dieu, la liberté de l'homme et l'origine du mal ("Traethodau Theodiciaeth am ddaioni Duw, rhyddid dyn a tharddiad drwg"), a fe'i gelwir fel arfer yn Théodicée.

Théodicée title page.jpeg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
Awdur Gottfried Wilhelm von Leibniz Edit this on Wikidata
Iaith Ffrangeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi 1710 Edit this on Wikidata
Prif bwnc Theodiciaeth Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Bathodd Leibniz y term théodicée drwy gyfuno'r geiriau Groeg theos, sef "duw", a dikē, sef "cyfiawnhâd", ac felly ystyr lythrennol y gair yw i gyfiawnhau duw, neu i amddiffyn priodoleddau duw.[1] Ysgrifennodd Leibniz ragair mewn drafft o'r gwaith sydd yn esbonio ystyr y teitl fel "cyfiawnder Duw". Ni chynhwysir yr eglurhad hwn yn y llyfr cyhoeddedig, ac felly bu nifer o ddarllenwyr yn tybio taw enw neu ffugenw'r awdur oedd "Théodicée".[2] Bellach, defnyddir y gair theodiciaeth i ddisgrifio esboniadau diwinyddol neu athronyddol sydd yn ymdrechu i ateb y broblem drwg, hynny yw pam bod Duw yn caniatáu pethau drwg i ddigwydd.[3]

Mae'r rhan fwyaf o'r draethodau yn ymateb i athroniaeth grefyddol y Ffrancwr Pierre Bayle. Yn ôl Bayle, amhosib ydy cysoni cred mewn Duw daionus â bodolaeth drygioni yn y creu, a dadleuodd felly bod Cristnogaeth yn ffydd sydd yn groes i reswm. Cychwynna Théodicée gyda rhag-draethawd hir sydd yn dadlau bod ffydd yn uwch na rheswm, ond nid yn groes iddi. Rhennir gweddill y gyfrol yn dair rhan. Yn y rhan gyntaf, ymdrecha Leibniz i egluro natur a tharddiad drygioni, a chyflwynir amddiffyniad o gred mewn Duw sydd yn llawn daioni. Mae'n ymdrin â sawl pwnc diwinyddol ac athronyddol, gan gynnwys tarddiad yr enaid, yr ewyllys rydd, a rhagwybodaeth ddwyfol. Dilyna ymatebion manwl i ddadleuon Bayle – ar bwnc pechod yn y rhan gyntaf a drwg natur yn yr ail – ac mae'n debyg bod y rhain yn seiliedig ar waith a gychwynnwyd gan Leibniz sawl blwyddyn ynghynt ar anogaeth Sophia Charlotte, gwraig i Ffredrig I, brenin Prwsia. Cynhwysir crynodeb ffurfiol o ddadleuon yr awdur mewn atodiad yn yr iaith Ladin.[2]

Dyma'r unig gyfrol ar bwnc athroniaeth a gyhoeddwyd gan Leibniz wedi iddo ennill bri am ei ysgolheictod. Ysgrifennir y traethodau mewn arddull anffurfiol ond dysgedig, sydd yn nodweddiadol o waith yr awdur. Er nad yw'n cynnwys trosolwg cynhwysfawr o athroniaeth Leibniz, Théodicée oedd gwaith enwocaf Leibniz yn y 18g.[2]

CyfeiriadauGolygu

  1. Stoeber M. "Leibniz’s Teleological Theodicy" yn Evil and the Mystics' God (Llundain: Palgrave Macmillan, 1992).
  2. 2.0 2.1 2.2 Stuart Brown a N. J. Fox, Historical Dictionary of Leibniz's Philosophy (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2006), tt. 227–28.
  3.  theodiciaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 9 Chwefror 2020.