Essais de Théodicée
Llyfr athroniaeth yn Ffrangeg, gydag atodiad Lladin, gan yr Almaenwr Gottfried Wilhelm Leibniz yw Essais de Théodicée, a gyhoeddwyd yn 1710, sydd yn ymdrin â phroblem drwg ac yn ymateb yn bennaf i ddadleuon Pierre Bayle ynghylch bodolaeth Duw. Enw llawn y gwaith yw Essais de Théodicée sur la bonté de Dieu, la liberté de l'homme et l'origine du mal ("Traethodau Theodiciaeth am ddaioni Duw, rhyddid dyn a tharddiad drwg"), a fe'i gelwir fel arfer yn Théodicée.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Gottfried Wilhelm Leibniz |
Iaith | Ffrangeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1710 |
Genre | religious philosophy |
Lleoliad cyhoeddi | Amsterdam |
Prif bwnc | theodiciaeth |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Bathodd Leibniz y term théodicée drwy gyfuno'r geiriau Groeg theos, sef "duw", a dikē, sef "cyfiawnhâd", ac felly ystyr lythrennol y gair yw i gyfiawnhau duw, neu i amddiffyn priodoleddau duw.[1] Ysgrifennodd Leibniz ragair mewn drafft o'r gwaith sydd yn esbonio ystyr y teitl fel "cyfiawnder Duw". Ni chynhwysir yr eglurhad hwn yn y llyfr cyhoeddedig, ac felly bu nifer o ddarllenwyr yn tybio taw enw neu ffugenw'r awdur oedd "Théodicée".[2] Bellach, defnyddir y gair theodiciaeth i ddisgrifio esboniadau diwinyddol neu athronyddol sydd yn ymdrechu i ateb y broblem drwg, hynny yw pam bod Duw yn caniatáu pethau drwg i ddigwydd.[3]
Mae'r rhan fwyaf o'r traethodau yn ymateb i athroniaeth grefyddol y Ffrancwr Pierre Bayle. Yn ôl Bayle, amhosib ydy cysoni cred mewn Duw daionus â bodolaeth drygioni yn y creu, a dadleuodd felly bod Cristnogaeth yn ffydd sydd yn groes i reswm. Cychwynna Théodicée gyda rhag-draethawd hir sydd yn dadlau bod ffydd yn uwch na rheswm, ond nid yn groes iddi. Rhennir gweddill y gyfrol yn dair rhan. Yn y rhan gyntaf, ymdrecha Leibniz i egluro natur a tharddiad drygioni, a chyflwynir amddiffyniad o gred mewn Duw sydd yn llawn daioni. Mae'n ymdrin â sawl pwnc diwinyddol ac athronyddol, gan gynnwys tarddiad yr enaid, yr ewyllys rydd, a rhagwybodaeth ddwyfol. Dilyna ymatebion manwl i ddadleuon Bayle – ar bwnc pechod yn y rhan gyntaf a drwg natur yn yr ail – ac mae'n debyg bod y rhain yn seiliedig ar waith a gychwynnwyd gan Leibniz sawl blwyddyn ynghynt ar anogaeth Sophia Charlotte, gwraig i Ffredrig I, brenin Prwsia. Cynhwysir crynodeb ffurfiol o ddadleuon yr awdur mewn atodiad yn yr iaith Ladin.[2]
Dyma'r unig gyfrol ar bwnc athroniaeth a gyhoeddwyd gan Leibniz wedi iddo ennill bri am ei ysgolheictod. Ysgrifennir y traethodau mewn arddull anffurfiol ond dysgedig, sydd yn nodweddiadol o waith yr awdur. Er nad yw'n cynnwys trosolwg cynhwysfawr o athroniaeth Leibniz, Théodicée oedd gwaith enwocaf Leibniz yn y 18g.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Stoeber M. "Leibniz’s Teleological Theodicy" yn Evil and the Mystics' God (Llundain: Palgrave Macmillan, 1992).
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Stuart Brown a N. J. Fox, Historical Dictionary of Leibniz's Philosophy (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2006), tt. 227–28.
- ↑ theodiciaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 9 Chwefror 2020.