Compton Mackenzie

llenor Albanaidd, sylwebydd diwylliannol, raconteur a chenedlaetholwr (1883-1972)

Llenor o'r Alban oedd Syr Edward Montague Compton Mackenzie, OBE (17 Ionawr 188330 Tachwedd 1972). Roedd yn awdur ffuglen, cofiannau, llyfrau hanes a hunangofiannau. Fe'i ganed yn Lloegr. Roedd yn genedlaetholwr Albanaidd amlwg ac yn un o gyd-sylfaenwyr Plaid Genedlaethol yr Alban. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1952.[1]

Compton Mackenzie
Ganwyd17 Ionawr 1883 Edit this on Wikidata
West Hartlepool Edit this on Wikidata
Bu farw30 Tachwedd 1972 Edit this on Wikidata
Caeredin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Alban Yr Alban
Alma mater
Galwedigaethllenor, gwleidydd, cyhoeddwr, hunangofiannydd, sgriptiwr, chwaraewr croce, awdur ffuglen wyddonol, nofelydd, newyddiadurwr, ymchwilydd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Genedlaethol yr Alban Edit this on Wikidata
MudiadDadeni'r Alban Edit this on Wikidata
TadEdward Compton Edit this on Wikidata
MamVirginia Bateman Edit this on Wikidata
PriodFaith Stone, Christina MacSween, Lilian MacSween Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Marchog Faglor Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Cefndir

golygu

Ganwyd Mackenzie yn West Hartlepool, Swydd Durham. Roedd ei deulu yn un amlwg ym myd y theatr a oedd yn defnyddio'r cyfenw Compton fel eu henw llwyfan. Roedd ei daid Henry Compton yn actor Shakespearaidd adnabyddus o oes Fictoria. Roedd ei dad, Edward Compton, a'i fam, Virginia Frances Bateman, yn actorion a rheolwyr cwmnïau theatr a bu ei chwaer, Fay Compton, yn serennu mewn llawer o ddramâu J. M. Barrie, gan gynnwys Peter Pan. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol St Paul, Llundain, a Choleg Magdalen, Rhydychen, lle graddiodd gyda gradd mewn hanes modern.[2]

Gyrfa filwrol

golygu

Gwasanaethodd gyda'r adran gudd wybodaeth Brydeinig yn Nwyrain Môr y Canoldir yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gyhoeddi pedwar llyfr yn ddiweddarach am ei brofiadau. Yn ôl y llyfrau hyn, bu'n gwasanaethu gyda'r Môr-filwyr Brenhinol, gan godi i reng capten. Oherwydd afiechyd byddai gwasanaeth ar y ffrynt milwrol yn anymarferol iddo, gan hynny neilltuwyd gwaith gwrth ysbïo iddo yn ystod ymgyrch Gallipoli.[3] Ym 1916, adeiladodd rwydwaith gwrth gudd wybodaeth sylweddol yn Athen, roedd Gwlad Groeg yn niwtral ar y pryd.[4]

Fel cydnabyddiaeth am ei wasanaeth yn y rhyfel, fe'i gwnaed yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) ym 1919. Fe'i hanrhydeddwyd hefyd gydag aelodaeth o Leng Anrhydedd Ffrainc, Urdd yr Eryr Gwyn Serbia ac Urdd y Gwaredwr Gwlad Groeg.

Yn 1932 cyhoeddodd Greek Memories yn adrodd ei brofiadau amser rhyfel fel ysbïwr. Cafodd ei erlyn y flwyddyn ganlynol yn yr Old Bailey o dan y Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol am ddyfynnu o ddogfennau cyfrinachol, yn y llyfr. Cafodd ddirwy o £100 a chostau erlyn o £100.[5]

Mae Mackenzie yn fwyaf adnabyddus am ei ddwy nofel ddigrif a osodwyd yn yr Alban: Whisky Galore (1947) wedi ei osod ar ynysoedd Heledd, a The Monarch of the Glen (1941) wedi ei osod yn Ucheldir yr Alban.[6] Gwnaed ffilm lwyddiannus o Whisky Galore [7] ym 1949 yn serennu Basil Radford, Bruce Seton, Joan Greenwood a Gordon Jackson. Monarch of the Glen oedd sail cyfres deledu boblogaidd 2000-2005 o'r un enw yn serennu Alastair Mackenzie, Richard Briers, Susan Hampshire, a Dawn Steele.[8]

Cyhoeddodd bron i gant o lyfrau ar wahanol bynciau, gan gynnwys deg cyfrol o hunangofiant: My Life and Times (1963–71). Ysgrifennodd llyfrau hanes am Frwydr Marathon a Brwydr Salamis, cofiant o'r Arlywydd Franklin D Roosevelt (1943), beirniadaeth lenyddol, dychanau, straeon plant, barddoniaeth ac ati. O'i llyfrau ffuglen, ystyrir The Four Winds of Love fel ei gampwaith.[9] Mae The Four Winds a gyhoeddwyd mewn 6 chyfrol rhwng 1937 a 1945 yn epig hanesyddol sy'n ymdrin â chenedlaetholdeb gwledydd bychan Ewrop. Mae diweddglo'r nofel yn rhagweld ffurfio undeb Geltaidd, Gatholig Rhufeinig. Roedd ei gyfeillgarwch a Saunders Lewis yn dylanwadu'n gref ar ei gred y byddai Cymru a'r Alban yn troi yn ôl at Gatholigiaeth Oes y Seintiau o ddilyn llwybr cenedlaetholdeb.

Hunaniaeth Albanaidd

golygu

Er i Mackenzie cael ei eni, ei fagu a'i addysgu yn Lloegr roedd yn hynod falch o'i wreiddiau yn Ucheldiroedd yr Alban gan dangos ymlyniad i'r diwylliant Gaeleg trwy gydol ei oes. Roedd yn Jacobydd selog gan wasanaethu fel trydydd Llywodraethwr Cyffredinol Cymdeithas Frenhinol y Stiwartiaid. Bu'n un o gyd-sylfaenwyr Plaid Genedlaethol yr Alban. Roedd yn rheithor Prifysgol Glasgow rhwng 1931 a 1934, gan drechu Oswald Mosley, a arweiniodd Undeb Ffasgwyr Prydain yn ddiweddarach, yn ei ymgais am y swydd.[10]

Rhwng 1920 a 23, roedd Mackenzie yn Denant Herm a Jethou. Adeiladodd dŷ ar Ynys Barraigh yn y 1930au. Ar Barraigh cafodd ysbrydoliaeth a daeth o hyd i unigedd creadigol.

Bu Mackenzie yn briod deirgwaith. Ar 30 Tachwedd 1905 (yn 22 oed), priododd Faith Stone yn St Saviour's, Pimlico roeddent yn briod am fwy na 50 mlynedd, hyd at ei marwolaeth hi. Ym 1962 (yn 79 oed), priododd Christina MacSween, a fu farw'r flwyddyn ganlynol. Yn olaf, priododd chwaer ei wraig farw, Lilian MacSween ym 1965 (yn 82 oed).

Marwolaeth

golygu
 
Bedd Mackenzie

Bu farw yng Nghaeredin yn 89 mlwydd oed [11] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent St Barr yn Eoligarry, Ynys Barraigh.[12]

Gweler hefyd

golygu

Llyfryddiaeth Compton Mackenzie

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Mackenzie, Sir (Edward Montague Anthony) Compton (1883–1972), writer | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-31392.
  2. "Compton Mackenzie: Biography on Undiscovered Scotland". www.undiscoveredscotland.co.uk. Cyrchwyd 2019-11-01.
  3. MacKenzie, Compton. Gallipoli Memories. ISBN 978-1846649615.
  4. Mackenzie, Compton (1932). Greek Memories. Chatto & Windus.
  5. Norton-Taylor, Richard (2011-11-18). "Mackenzie memoirs banned for spilling spy secrets to be republished". The Guardian. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2019-11-01.
  6. McCall, Chris (2017-04-11). "Compton Mackenzie: SNP co-founder and Whisky Galore author". The Scotsman. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-01. Cyrchwyd 2019-11-01.
  7. "BFI Screenonline: Whisky Galore! (1949)". www.screenonline.org.uk. Cyrchwyd 2019-11-01.
  8. "BBC - Monarch Of The Glen - Homepage". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2019-11-01.
  9. "The magnum opus of Compton Mackenzie". The Spectator. 2007-09-26. Cyrchwyd 2019-11-01.
  10. "University of Glasgow :: Story :: Biography of Compton MacKenzie". universitystory.gla.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-09. Cyrchwyd 2019-11-01.
  11. Whitman, Alden (1972-12-01). "Sir Compton Mackenzie, Playwright, Is Dead at 89". The New York Times. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2019-11-01.
  12. "Sir Compton Mackenzie". Find A Grave. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2019.