Ffilm ym Mosnia a Hertsegofina
Yn ystod cyfnod Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia (1945–92), Sarajevo—prifddinas Gweriniaeth Sosialaidd Bosnia a Hertsegofina—oedd un o brif ganolfannau'r diwydiant ffilm. Cafodd bywyd diwylliannol y wlad ei ddifrodi gan chwalfa Iwgoslafia a Rhyfel Bosnia yn y 1990au, ond atgyfodwyd y diwydiant ffilm ym Mosnia a Hertsegofina annibynnol yn sgil y dinistr, gyda nifer o luniau yn canolbwyntio ar y rhyfel a'i adladd. Yn ystod y cyfnod Iwgoslafaidd, ysgrifennwyd y nifer fwyaf o sgriptiau ffilmiau mewn safon gyffredin o Serbo-Croateg; ers cwymp yr undeb, cynhyrchir ffilmiau ym Mosnia a Hertsegofina mewn amrywiadau ethnig neu genedlaethol neu dafodieithoedd o'r iaith Serbo-Croateg, fel arfer Bosneg neu Serbeg.
Gwladwriaeth | Bosnia a Hertsegofina |
---|
Prif gyfarwyddwr ffilm Bosnia yn y cyfnod Iwgoslafaidd oedd Emir Kusturica (g. 1954), brodor o Sarajevo a ddaeth i'r amlwg yn y 1980au gyda'i ddramâu comedi swreal a naturiolaidd, yn aml straeon dyfod-i-oed. Ei lun gyntaf oedd Sjecas li se, Dolly Bell (1981), a enillodd sawl gwobr yng Ngŵyl Ffilm Fenis. Enillodd ei hail ffilm, Otac na službenom putu (1985), a sgriptiwyd gan y llenor Bosniaidd Abdulah Sidran, y Palme d'Or yng Ngŵyl Ffilm Cannes. Mae Dom za vešanje (1988) yn dilyn bachgen Roma yn ei arddegau ac yn cynnwys elfennau o ffantasi a realaeth hudol, a deialog yn yr ieithoedd Serbo-Croateg, Romani, ac Eidaleg. Enillodd Kusturica y Palme d'Or am yr eildro am Podzemlje (1995). Mae Kusturica o hyd yn ysgrifennu a chyfarwyddo ffilmiau, er ei bod bellach wedi ymsefydlu yn Serbia ac yn gweithio'n aml yn Ffrainc.
Mae cyfarwyddwyr a sgriptwyr nodedig eraill o Fosnia a Hertsegofina yn cynnwys Danis Tanović (g. 1969), a enillodd Wobr yr Academi am y Ffilm Orau mewn Iaith Dramor am y ffilm ryfel Ničija zemlja (2001), a Jasmila Žbanić (g. 1974), a enillodd y brif wobr o Wobrau Ffilm Ewrop am y ffilm ryfel Quo Vadis, Aida? (2020).
Mae Gŵyl Ffilm Sarajevo yn un o brif wyliau ffilm De-ddwyrain Ewrop. Sefydlwyd yr ŵyl yn ystod y gwarchae ar Sarajevo ym 1995.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ante Čuvalo, Historical Dictionary of Bosnia and Herzegovina, ail argraffiad (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2007), t. 211.