Fflip-fflops
Math o sandalau yw fflip-fflops sydd fel arfer yn cael eu gwisgo fel dillad segura. Maent yn cynnwys gwadn fflat sy'n cael ei ddal yn llac ar y droed gan strap siâp Y sy'n pasio rhwng bys a bawd y droed a law dwy ochr y droed, neu gall fod yn sylfaen galed gydag un strap ar draws holl fysedd y droed.
Mae'r math hwn o esgid wedi ei gwisgo gan bobl o amryw ddiwylliannau ar draws y byd, ac yn dyddio yn ôl i ddyddiau'r Hen Aifft (tua 4,000 CC). Byddai'r Hen Roegiaid a'r Rhufeiniaid hefyd yn gwisgo sandalau tebyg i hyn.
Gwnaed fersiynau cynnar o fflip-fflops o amrywiaeth o ddeunyddiau, gan gynnwys papyrus a dail palmwydd. Roedd Masai Affrica yn eu gwneud allan o groen anifail. Yn India, roeddynt yn cael eu gwneud o bren. Yn Tsieina a Japan, defnyddiwyd gwellt reis. Defnyddiwyd dail y planhigyn sisal i wneud cortyn ar gyfer sandalau yn Ne America, tra bod brodorion Mecsico yn defnyddio'r planhigyn yucca.[1]
Mae fflip-fflop modern yn tarddu o'r zōri o Japan (dyna'r enw a ddefnyddir ar eu cyfer yno hyd heddiw).[2] Daethant yn boblogaidd yn yr Unol Daleithiau ar ôl yr Ail Ryfel Byd wrth i filwyr fynd â hwy yn ôl gyda hwy adref. Daethant yn esgidiau haf poblogaidd [3] o ddechrau'r 1960au ymlaen.
Mae'r term fflip-fflop wedi'i ddefnyddio yn Saesneg fel enw i'r math hwn o sandal ers y 1960au. Mae'n onomatopoeia o'r sain a wnaed gan y sandalau wrth gerdded ynddynt.[4]
Cânt eu hadnabod wrth amrywiaeth o enwau eraill ledled y byd, Fe'u gelwir yn 'thongs' yn Awstralia,[5] 'jandala' (nod masnach sy'n deillio o "sandalau Japaneaidd") yn Seland Newydd, [6] 'slops' yn Ne Affrica[7] a 'tsinelas' neu 'step-in' yn y Philipinau (neu 'smagol', o'r gair 'smyglo', mewn rhai ardaloedd Fisaiaidd).
Gelwir hwy yn 'dép tông' neu 'dép xỏ ngón' yn Fietnam, 'chinelos' ym Mrasil, 'japonki' yng Ngwlad Pwyl, 'dacas' yn Somalia, 'sayonares' (σαγιονάρες) yng Ngwlad Groeg, 'slippers' yn Hawaii, y Bahamas, Trinidad a Tobago a'r Iseldiroedd, 'infradito' yn yr Eidal, 'djapanki' (джапанки) ym Mwlgaria, 'charlie wote' yn Ghana, 'japanke' yn Croatia a 'vietnamki' yn Rwsia a'r Wcráin, 'yezenes' yn Latfia. Fe'u cyflwynwyd gan Bata yn India o dan yr enw brand sliperi Hawaii ac maent yn hynod boblogaidd yno.[7][8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Kippen, Cameron (1999). The History of Footwear. Perth, Australia: Department of Podiatry, Curtin University of Technology.
- ↑ Richmond, Simon; Dodd, Jan; Branscombe, Sophie; Goss, Robert (1 Chwefror 2011). The Rough Guide to Japan. London: Rough Guides. ISBN 9781405389266.
- ↑ "How and When Flip Flops Become A Popular Unisex Summer Footwear". Free Earth. 15 March 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 19 Feb 2018.
- ↑ "Flip-Flop". Online Etymology Dictionary. Cyrchwyd July 18, 2012.
- ↑ "IT Pro - Information Technology News & Reviews".
- ↑ "Morris Yock trademarks the jandal". New Zealand History. 4 October 1957. Cyrchwyd 22 Feb 2017.
- ↑ 7.0 7.1 Key, A.J. "Jandals, Thongs, Flip Flops & G-strings". Archifwyd o'r gwreiddiol ar June 21, 2012. Cyrchwyd July 18, 2012. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Ribeiro, Patricia (August 6, 2011). "Havaianas - Brazilian Flip Flops". About.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd July 18, 2012.