Finegr balsamig
Condiment sy'n tarddu o'r Eidal yw finegr balsamig (Eidaleg: aceto balsamico). Digrifir bod iddo briodoleddau balsam, lliniarol; (yn dynodi) math o finegr Eidalaidd tywyll melys wedi ei aeddfedu mewn casgenni pren.[1]
Enghraifft o'r canlynol | Cyfwyd |
---|---|
Math | finegr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gwneir y rysáit traddodiadol ar gyfer finegr balsamig trwy leihau (coginio) sudd grawnwin ac nid yw'n finegr cyffredin, gan ei fod wedi'i gynhyrchu yn rhanbarthau Modena a Reggio Emilia, yr Eidal, ers y canol oesoedd. Mae'r enw "Aceto Balsamico Tradizionale di Modena" neu "Aceto Balsamico Tradizionale di Reggio Emilia" yn gynnyrch a ddiogelir gan ddynodiad tarddiad rheoledig (DOC) a dynodiad tarddiad yr Undeb Ewropeaidd.[2]
Cynhyrchu
golyguMae'n cael ei gynhyrchu gyda sudd grawnwin Trebbiano gwyn ifanc sy'n cael eu coginio gyntaf i greu math o ddwysfwyd sydd wedyn yn cael ei eplesu â phroses heneiddio araf a fydd yn canolbwyntio'r blasau. Defnyddir yr holl ranwin - croen, hadau a'r coesyn.
Mae finegr balsamig traddodiadol yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan gogyddion a gourmets ledled y byd. Mae'r blas yn dwysáu dros ddegawdau wrth i'r finegr gael ei gadw mewn cafnau pren mân, gan ddod yn felys, yn gludiog ac yn ddwys iawn. Yn ystod y cyfnod hwn, mae cyfran yn anweddu a dywedir mai dyma "gyfran yr angylion", term a ddefnyddir hefyd wrth gynhyrchu wisgi, gwin a diodydd alcoholig eraill. Mae'r cynnyrch yn heneiddio am o leiaf 12 mlynedd a gall dreulio hyd at 25 mlynedd yn y gasgen.
Ni chaniateir tynnu unrhyw ran o'r cynnyrch yn ôl tan ddiwedd y cyfnod heneiddio lleiaf o 12 mlynedd. Ar ddiwedd y cyfnod heneiddio (12, 18 neu 25 mlynedd), mae cyfran fach yn cael ei thynnu o'r casgen leiaf, ac yna caiff cynnwys y casgen flaenorol (mwy nesaf) ei hychwanegu at bob casgen. Ychwanegir rhaid wedi'i goginio'n ffres wedi'i leihau at y casgen fwyaf, ac ym mhob blwyddyn ddilynol, ailadroddir y broses o dynnu ac ychwanegu at y cynnyrch.[3] Gelwir y broses hon lle mae'r cynnyrch yn cael ei ddosbarthu o'r casgen hynaf ac yna'n cael ei ail-lenwi o'r casgen vintage hynaf nesaf yn solera neu mewn perpetuum.
Poblogrwydd tu allan i'r Eidal
golyguRoedd yn anhysbys iawn y tu allan i'r Eidal tan 80au'r 20fed ganrif. Helpodd yr awdur Eidalaidd Macerlla Hazan i'w boblogeiddio yn yr Unol Daleithiau a Phrydain Fawr , ac mae bellach yn uchel ei barch a'i werthfawrogi gan gogyddion proffesiynol a bwydwyr fel ei gilydd.
Defnyddiau
golyguYn Emilia-Romagna, mae finegr tradizionale yn cael ei weini amlaf mewn diferion ar ben talpiau o gaws Parmigiano-Reggiano a mortadella fel antipasto. Fe'i defnyddir yn gynnil hefyd i wella stêcs, wyau, neu bysgod wedi'u grilio, yn ogystal ag ar ffrwythau ffres fel mefus a gellyg ac ar gelato crema (cwstard) plaen. Fe'i defnyddir yn weddol gyffredin fel dresin ar gyfer caprese neu saladau mwy nodweddiadol. Gellir sipio finegr traddodiadol o wydr bach i orffen pryd o fwyd.
Mae cogyddion cyfoes yn defnyddio Finegr Balsamig Traddodiadol Modena PDO a Finegr Balsamig o Modena PGI yn gynnil mewn prydau syml lle mae chwaeth gymhleth y finegr balsamig yn cael ei amlygu, gan ei ddefnyddio i wella prydau fel cregyn bylchog neu berdys, neu ar basta a risotto syml.
Gweinir finegr balsamig ac olew olewydd mewn bwytau yng Ngnymru fel dechreubryd neu ar ben ei hun gyda tholc o fara i'w drochi ynddo.
Finegr Balsamig a Chymru
golyguCeir y cyfeiriad cofnodedig cynharaf i finegr balsamig yn 1771 yn llyfr Pob Dyn ei Physygwr ei Hun fel; "‘Balsamics’, ‘Linctuss’s’ ar cyffelyb, y rhai sydd yn andwyo’r cylla." Nodir "balsamig" wedyn yn An English and Welsh Dictionary Daniel Silvan Evans, 1852.[4]
Cynhwysir finegr balsamig mewn cynnyrch o Gymru megis Olew Hadau Rêp y cwmni Blodyn Aur a gynhyrchodd 'Dresing Balsamig' gydag olew rêp gyda finegr balsamig ynddo.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Balsamig". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2024.
- ↑ Masino, F., Chinnici, F., Bendini, A., Montevecchi, G., & Antonelli, A. (2008). A study on relationships among chemical, physical, and qualitative assessment in traditional balsamic vinegar. Food chemistry, 106(1), 90-95.
- ↑ "Consorzio Produttori Aceto Balsamico Tradizionale di Modena". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 April 2010. Cyrchwyd 2010-03-25.
- ↑ "balsamig". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2024.
- ↑ "Gwisg [sic. "Dressing"] Balsamig Blodyn Aur 250ml". Gwefan Blodyn Aur. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-07-12. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2024.