Paolo Radmilovic

nofiwr

Nofiwr a chwaraewr Polo dŵr Cymreig o dras Croateg-Wyddeleg oedd Paolo Francesco Radmilovic (5 Mawrth 188629 Medi 1968). Llwyddodd i ennill pedair medal aur yn y Gemau Olympaidd gan ddod y Cymro cyntaf erioed i ennill medal Olympaidd[1]. Radmilovic oedd y person cyntaf i gynrychioli Prydain Fawr mewn pum Gemau Olympaidd[2].

Paolo Radmilovic
Paolo Radmilovic
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnPaolo Francesco Radmilovic
Llysenw"Raddy"
Ganwyd (1886-03-05) 5 Mawrth 1886 (138 oed)
Caerdydd, Cymru
Bu farw29 Medi 1968(1968-09-29) (82 oed)
Weston-super-Mare, Lloegr
Camp
GwladCymru
ChwaraeonPolo dŵr, Nofio
CampDull Rhydd
Diweddarwyd 16 Awst 2016.

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Radmilovic yng Nghaerdydd,[2] trydydd mab Antun Radmilović, oedd wedi symud o Dubrovnik i Gaerdydd yn y 1860au gan ddod yn dafarnwr y Glastonbury Arms yn Stryd y Biwt,[3] a Hannah oedd wedi ei geni yng Nghaerdydd i rieni Gwyddelig[4]. Dechreuodd Rdmilovic nofio yn bum mlwydd oed yngg nghamlesi Caerdydd cyn symud i gael gwersi nofio ar ôl i'r Corporation Baths ail agor ym 1896[1][5].

Gyrfa nofio golygu

Cafodd Radmilovic ei ddewis i gynrychioli tîm Polo dŵr Cymru yn 15 mlwydd oed[6] a phan yn 16 mlwydd oed cynrychiolodd Cymru mewn cystadleuaeth nofio rhyngwladol[1]. Llwyddodd i ennill ras 100 llath dull rhydd ym Mhencampwriaeth Cymru yn 15 mlwydd oed ym 1901 a daeth i lygaid y wasg Seisnig wrth ennill ras pum milltir yr Amateur Swimming Association ar Afon Tafwys ym 1907[7].

Parhaodd i nofio yn gystadleuol tan yn ei 40au gan ennill ras y 440 llath dull rhydd ym Mhencampwriaethau Nofio Cymru yn 43 mlwydd oed yn 1929[8].

Gyrfa Olympaidd golygu

Cafodd ei ddewis fel aelod o dîm polo dŵr Prydain Fawr ar gyfer Gemau Olympaidd 1908 yn Llundain a sgoriodd ddwy gôl yn y rownd derfynol wrth i Brydain drechu Gwlad Belg 9-2[9]. Er methu â chyrraedd y rownd derfynol yn y tair ras dull rhydd, cafodd ei alw i dîm ras gyfnewid 4x220 llath dull rhydd Prydain wedi i un o'r nofiwyr eraill fynd yn sâl a chasglodd ei ail fedal aur o'r gemau[7][10].

Wedi Gemau Olympaidd 1908, symudodd Radmilovic i Weston-super-Mare gan gynrychioli clybiau nofio a pholo dŵr y dref.

Casglodd ei drydedd medal aur yng Ngemau Olympaidd 1912 yn Stockholm, Sweden wrth i dîm polo dŵr Prydain Fawr drechu Awstria 8-0 yn y rownd derfynol[10] a chasglodd ei bedwaredd medal aur yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1920 yn Antwerp, Gwlad Belg gyda Radmilovic yn sgorio'r gôl fuddugol yn erbyn Gwlad Belg[10].

Roedd yn aelod o'r tîm polo dŵr yng Ngemau Olympaidd 1924 a 1928 ond heb unrhyw lwyddiant[10].

Wedi'r Gemau Olympaidd golygu

Blwyddyn cyn ei farwolaeth, cafodd ei enwebu'n aelod o Oriel Anfarwolion Nofio Rhyngwladol[11].

Bu farw Radmilovic yn Weston-super-Mare, Lloegr ym 1968 ac mae wedi ei gladdu ym Mynwent Weston yn y dref.[10]

Cafodd ei urddo'n aelod o Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru ym 1993 ac i ddathlu canmlwyddiant ei fedalau aur yng Ngemau Olympaidd 1908 cafwyd cofeb yn ei enw ar furiau Pwll Nofio Rhyngwladol Caerdydd[2][7].

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "London 2012: Paulo Radmilovic the king of Welsh Olympians". Bruce Pope. BBCSport. 2012-07-09.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Search for Olympian's four golds". BBC Wales. 2008-07-17.
  3. Andrew Hignell; Gwyn Prescott (2007). Cardiff Sporting Greats. The History Pres. tt. 144–146. ISBN 978-0752442860.
  4. "Antonio (Antun) Radmilovic (1847-1911)". The Friends of Cathays Cemetery.
  5. "Corporation Baths, Guildford Crescent, Cardiff". Coflein.
  6. "Britain's forgotten Olympic hero - Raddy remembered". Weston Mercury. 2012-08-05. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-17. Cyrchwyd 2016-08-16.
  7. 7.0 7.1 7.2 "Paulo Radmilovic honoured for his Olympian feats". The Telegraph. 2008-07-24.
  8. Bill Mallon; Jeroen Heijmans (2011). Historical Dictionary of the Olympic Movement. Scarecrow Press. t. 306. ISBN 0810872498.
  9. "Water Polo Men: Classement Final". Olympic.org.
  10. 10.0 10.1 10.2 10.3 10.4 "Paul Radmilovic". Sports-Reference.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-18. Cyrchwyd 2016-08-16.
  11. "Paul Radmilovic (GBR) 1967 Honor Water Polo PlayerIn 1967". ISHOF. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-19. Cyrchwyd 2016-08-16.