Gertrude Kingston
Roedd Gertrude Kingston (24 Medi 1862 - 7 Tachwedd 1937) yn actores, asiant actorion ac arlunydd o Loegr.
Gertrude Kingston | |
---|---|
Ganwyd | 24 Medi 1862 |
Bu farw | 7 Tachwedd 1937 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | actor |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Gertrude Angela Kohnstamm yn Islington, Llundain, yn ferch i'r masnachwr Heiman Kohnstamm a'i wraig, Teresina (née Friedmann), a oedd yn bobl Iddewig.[1] Roedd hi'n chwaer i'r awdur cyfreithiol a barnwr llys sirol Edwin Max Konstam (1870-1956), a anwyd fel Edwin Max Kohnstamm. Addysgwyd Kingston yn breifat a theithiodd yn helaeth gyda'i mam a'i athrawes breifat. Astudiodd baentio ym Merlin a Pharis ac yn ddiweddarach cyhoeddodd dri llyfr darluniadol.[2]
Ei phrofiad theatr gyntaf oedd yn ei phlentyndod, pan fu'n perfformio dynwarediadau amatur o actorion enwog y dydd fel Henry Irving a Sarah Bernhardt. Yn bymtheg mlwydd oed Dewisodd W S Gilbert hi i chwarae'r brif ran mewn cynhyrchiad amatur o Broken Hearts. Wedi ei phriodas ym 1889 penderfynodd Kingston ddod yn actores broffesiynol i gynnal ei hun a'i gŵr yn ariannol. Awgrymodd Ellen Terry dylai hi gofrestru yn Ysgol Actio Sarah Thorne ym Margate. O dan gyfarwyddiad Thorne chwaraeodd rhannau Ophelia yn Hamlet ac Emilia yn Othello.[2] Ar yr adeg hon roedd hi hefyd yn chwarae Penelope yn y fersiynau Saesneg o Hanes Caerdroea a Clytemnestra yn nrama Aeschulos Agamemnon.[3]
Gyrfa theatr
golyguYm 1894 ymddangosodd yn The Charlatan yn Theatr y Haymarket i gwmni Robert Buchanan [4] Wedi ymuno â chwmni Herbert Beerbohm Tree chwaraeodd rhan Mrs Harkaway yn Partners, ac yn dilyn hynny daeth galw mawr arni ar lwyfannau Llundain. Aeth ymlaen i ymddangos fel Clara Dexter yn The Woodbarrow, a Mrs Graves yn A Matchmaker, a chyd ysgrifennwyd ganddi hi a Clotilde Graves. Enillodd y ddrama hon enwogrwydd penodol pan gafodd beirniadaeth gymeradwyol am gymharu priodas â phuteindra.[2]
Ar farwolaeth ei gŵr ym 1899, ychydig cyn dechrau Ail Ryfel y Boer, cododd Kingston danysgrifiadau i agor caban nyrsio i filwyr Prydain yn Ne Affrica; mae rhai adroddiadau am ei bywyd yn honni iddi fynd i Dde Affrica ei hun a gweithio yn ei hysbyty fel nyrs, honiad sy'n cael ei wadu gan Kingston yn ei hunangofiant, lle ysgrifennodd iddi gael ei pherswadio i beidio â mynd.[2][5]
Arhosodd yn weithgar yn y theatr dros y degawd nesaf. Ym 1905 chwaraeodd Helen yn y Royal Court Theatre yn nhrasiedi Merched Caerdroea gan Euripides, ac Aurora Bompas yn How He Lied to Her Husband gan Bernard Shaw gyferbyn â Harley Granville-Barker.[6] .
Ym 1910 daeth yn brydlesydd ac yn actor reolwr y Little Theatre yn Theatr yr Adelphi, Llundain. Ysbrydolwyd ei thymor agoriadol gan gyflwyniad y Royal Court Theatre o ddramâu difrifol a chlasurol i gynulleidfa fasnachol, ac felly agorodd gyda drama Aristoffanes Lysistrata, lle chwaraeodd rôl y teitl.[3] Ym 1911 cymerodd Lillah McCarthy brydles y Little Theatre, a dychwelodd Kingston i'r theatr honno o dan reolaeth McCarthy i chwarae rhan Madame Arcadina yn nrama Anton Chekhov Gwylan. Hefyd ym 1912 chwaraeodd Kingston y Fonesig Cecily Waynflete yn Captain Brassbound's Conversion. Yna ym 1913 ysgrifennodd George Bernard Shaw y rôl deitl yn ei ddrama Great Catherine iddi.[2][7]
Blynyddoedd diweddarach
golyguRoedd Kingston yn yr Unol Daleithiau am y rhan helaeth o'r Rhyfel Byd Cyntaf lle rhoddodd sgyrsiau am ymdrech y rhyfel ym Mhrydain. Yn Boston ymddangosodd mewn tair drama gan George Bernard Shaw, gan gynnwys Great Catherine. Ym 1916 ymddangosodd gyda'i chwmni theatr ei hun yn The Queen's Enemies, ac mewn pedair drama gan Shaw: The Inca of Perusalem, Great Catherine, Overruled a How He Lied to Her Husband, [8] a chwaraeodd Ermyntrude yn The Inca from Perusalem gan Shaw gyda'r Pioneer Players, cwmni theatr Swffragét; ers rhai blynyddoedd bu’n siaradwr ar ran y mudiad pleidleisiau i fenywod ym Mhrydain. Trefnodd sioe adolygiad ar gyfer elusennau'r rhyfel yn Llundain ym 1916 er budd y Star and Garter Home, Ysbyty i filwyr clwyfedig [9]
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf dychwelodd Kingston i Brydain lle ailgydiodd yn ei gyrfa actio, gan ddod hefyd yn siaradwr rheolaidd i'r Blaid Geidwadol. Ym 1924 ystyriodd sefyll fel ymgeisydd Seneddol. Bu’n athrawes siarad gyhoeddus a daeth yn newyddiadurwr, gan ysgrifennu ar amrywiaeth o bynciau. Ym 1927 cynhaliwyd arddangosfa o'i gwaith Eurliwio yn Ninas Efrog Newydd, a gelwid ei thechneg yn 'Eurliw Kingston'. Hefyd ym 1927 cynhyrchodd ac ymddangosodd Kingston yn Nevertheless yn Llundain. Ei pherfformiad olaf oedd fel Elizabeth I yn When Essex Died ym 1932. Ym 1937 cyhoeddwyd ei hunangofiant Curtsy While You're Thinking .
Bu farw Gertrude Kingston yng Nghartref Nyrsio'r Empire yn Westminster,Llundain ym 1937 yn 75 mlwydd oed.[10]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ William D. Rubinstein, Michael Jolles, Hilary L. Rubinstein, The Palgrave Dictionary of Anglo-Jewish History, Palgrave Macmillan (2011), tud. 519
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 "Kingston, Gertrude [real name Gertrude Angela Kohnstamm] (1862-1937), actress". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/57056. Cyrchwyd 2020-06-22.
- ↑ 3.0 3.1 Edith Hall ac Amanda Wrigley (gol), Aristophanes in Performance 421 BC-AD 2007 Modern Humanities Research Association and Maney Publishing Legenda: Rhydychen, 2007
- ↑ The Penny Illustrated Paper 27 Ionawr 1894 - tud.58
- ↑ Kingston, Gertrude Curtsy While You're Thinking Williams & Norgate, Llundain (1937)
- ↑ "MacCarthy, Desmond The Court Theatre, 1904–1907; a Commentary and Criticism". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-01. Cyrchwyd 2020-06-22.
- ↑ George Bernard Shaw Rhagarweiniad i Great Catherine (1972)
- ↑ The Gertrude Kingston Company ar yr Internet Broadway Database
- ↑ "A Novel Auction". Liverpool Daily Post. 25 Gorffennaf 1916.
- ↑ Cofiant yn The Times 9 Tachwedd 1937