Glyn Davies (economegydd)

Economegydd o Gymro oedd Glyndwr "Glyn" Davies[1] (22 Mai 19196 Ionawr 2003) sydd yn nodedig am ei lyfr A History of Money (1994).

Glyn Davies
Ganwyd22 Mai 1919 Edit this on Wikidata
Bu farw6 Ionawr 2003 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaetheconomegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Ysgol Busnes Caerdydd Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Aber-bîg, Sir Fynwy, yn fab i löwr, a chafodd ei enwi ar ôl Owain Glyn Dŵr.[1] Symudodd y teulu ar draws y cymoedd a'r canolbarth i chwilio am waith yn ystod y Dirwasgiad Mawr, ac o ganlyniad bu Glyn yn mynychu 16 o ysgolion i gyd. Cafodd ei annog gan un o'i athrawon yn Llandrindod i ddysgu Lladin, a oedd ar y pryd yn hanfodol er mwyn cael ei dderbyn i Brifysgol Rhydychen. Symudodd y teulu i Donypandy, lle nad oedd gwersi Lladin yn cael eu cynnig gan yr ysgol leol, a ni fyddai'n astudio yn Rhydychen. Fodd bynnag, cyn iddo adael yr ysgol, enillodd fedal a'r wobr uchaf mewn economeg mewn arholiadau Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, a chafodd ei dderbyn i Goleg Prifysgol Cymru, Caerdydd i astudio economeg.[2]

Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, ymunodd Glyn Davies â'r Fyddin Brydeinig heb aros i gael ei alw i'r lluoedd, a fe wasanaethodd yn y Dragwniaid Brenhinol 1af, a fu'n rhan o'r 7fed Adran Arfogedig ("Llygod yr Anialwch") yn ystod Ymgyrch Gogledd Affrica. Bu Davies yn rhan o Frwydr El Alamein ym 1942, a glaniadau Normandi ym 1944. Wrth i'w gatrawd ryddhau Denmarc ym Mai 1945, cyfarfu ag Anna Margrethe, a phriodasant ym 1947. Cawsant dri mab ac un ferch. Wedi'r rhyfel, dychwelodd Davies i Gaerdydd a derbyniodd radd gyffredin ymhen y flwyddyn. Gweithiodd yn athro mewn ysgol gynradd tra'n astudio fel myfyriwr allanol am ei radd anrhydedd ac yna gradd meistr mewn economeg o Brifysgol Llundain.[2]

Symudodd i Glasgow ym 1959, ac yno bu'n darlithio yng Ngholeg Masnach yr Alban (bellach Prifysgol Strathclyde). Davies oedd un o arloeswyr astudiaethau rhanbarthol, sydd yn defnyddio ymchwil rhyngddisgyblaethol i fynd i'r afael â phroblemau diweithdra a datblygiad diwydiannol. Ym 1968 fe'i penodwyd i gynghori George Thomas, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, fel yr uwch-gynghorydd economaidd cyntaf yn y Swyddfa Gymreig. O 1970 i 1985, Davies oedd yr athro bancio ac arianneg yng nghadair Syr Julian Hodge, ac yn bennaeth ar economeg gymhwysol, yn Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST), yr athro prifysgol cyntaf ym meysydd bancio ac arianneg yng Nghymru. Bu hefyd yn gynghorydd economaidd i Fanc Masnachol Cymru a Banc Julian Hodge, ac yn un o gyfarwyddwyr Banc Masnachol Cymru. Bu farw Glyn Davies yn 83 oed.[2]

Llyfryddiaeth

golygu
  • National Giro: Modern Money Transfer (1973).
  • European Finance for Development (1974).
  • Overseas Investment in Wales (1976).
  • Building Societies and Their Branches (1981).
  • A History of Money: From Ancient Times to the Present Day (1994).

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Roy Davies, "Biography of Glyn Davies", Prifysgol Caerwysg (16 Hydref 2011). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Hydref 2021.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Gary Akehurst, "Obituary: Glyn Davies", The Guardian (28 Chwefror 2003). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Hydref 2021.