Gramadeg y Llydaweg
Iaith Geltaidd yn nheulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd yw'r Llydaweg. Mae'n tarddu o'r Frythoneg fel ei chwaer-ieithoedd, Cernyweg a'r Gymraeg, ac mae ei gramadeg yn debyg i ramadeg yr ieithoedd hyn. Fel y rhan fwyaf o iethoedd Indo-Ewropeaidd, mae ganddi genedl enw, rhif gramadegol, banodau a ffurfdroadau. Yn debyg i'r ieithoedd Celtaidd eraill, mae ganddi enwau gwrywaidd a benywiadd, ffurfiau amhersonol y ferf, treigladau, system o rifau ugeiniol ac arddodiaid sydd yn cael eu rhedeg; ac fel yr ieithoedd Brythonaidd, mae ganddi rif torfol–unigolynnol. Yn wahanol i'r ieithoedd Celtaidd eraill, defnyddia'r Llydaweg fanodau amhenodol ac mae'r Ffrangeg wedi dyladwadu ar yr iaith.
Enwau
golyguCenedl
golyguFel yn y Gymraeg a llawer o ieithoedd Ewropeaidd eraill, mae gan Lydaweg genedl enw: gwrywaidd (gourel) a benywaidd (gwregel). Mae'r genedl ddi-ryw (nepreizh), a oedd yn bodoli yn y Frythoneg, yn goroesi mewn ychydig o eiriau, megis tra "peth", sydd yn cael ei dreiglo ac yn sbarduno treiglo yn union fel enw benywaidd ond ym mhob ffordd arall yn ymddwyn fel enw gwrywaidd.[1]
Nid oes modd darogan cenedl enw yn Llydaweg a gall y genedl newid fesul tafodiaith. Serch hynny, mae grwpiau semantig o eiriau yn tueddu i berthyn i genedl benodol. Er enghraifft, benywaidd yw enwau gwledydd a dinasoedd, fel yn y Gymraeg, tra bo rhaniadau amser yn wrywaidd. Mae rhai ôl-ddodiad yn perthyn i genedl benodol hefyd:[2]
- Ôl-ddodiaid gwrywaidd: -ach , -adur , -aj , -er , -lec'h , -our , -ti , -va
- Ôl-ddodiaid benywaidd: -eg , -ell , -enn (gweler "unigolynnol" isod), -enti , -er , -ez , -ezh , -ezon , -i .
Rhif
golyguGall enwau fodoli mewn hyd at bedwar rif: torfol / unigolynnol (gweler isod) neu unigol / lluosog. Llunnir y rhan fwyaf o luosogion drwy ôl-ddodi -ed ar enwau byw ac -(i)où ar enwau anfyw, er enghraifft, Breton ‘Llydäwr’ i Bretoned ‘Llydaw-wyr’, levr ‘llyfr’ i levroù ‘llyfrau’, ond mae rhai enwau sy'n cyfeirio at bobl yn cymryd -où, megis test ‘tyst’ i testoù ‘tystion’. Ceir ôl-ddodiaid lluosog eraill, e.e. Saoz ‘Sais’ i Saozaon ‘Saeson’, ti ‘tŷ’ i tiez ‘tai’. Mae ychydig o luosogion wedi eu creu drwy affeithiad fel yn y Gymraeg, fel kastell ‘castell’ i kestell ‘cestyll’, maen ‘carreg’ i mein ‘cerrig’, drwy affeithio ac ôl-ddodi'r llafariaid, fel bran ‘brân’ i brini ‘brain’, gad ‘ysgyfarnog’ i gedon ‘ysgyfarnogod’ a cheir ffurfiau afreolaidd hefyd, fel den ‘dyn’ i tud ‘pobl’, ki ‘ci’ i naill ai kon neu chas ‘cŵn’.[1][2][3]
Yn ogystal â'r lluosogion arferol, dengys rhai rhannau'r corff olion y rhif deuol sy'n rhagddodi daou- ‘deu-’ neu di(v)- ‘dwy-’ i enw. Er enghraifft, ceir lagad ‘llygad’ sydd â ffurf luosog, sef lagadoù ‘llygaid’ ond hefyd ffurf ddeuol, sef daoulagad ‘y ddau lygad, pâr o lygaid’. Gall fod ffurf luosog ychwanegol ar ffurf ddeuol wedyn, e.e. daoulagadoù ‘parau o lygaid’.[2]
Unigolyn
golyguNodwedd unigryw ac anghyffredin yn yr ieithoedd Brythonig yw'r ffurf unigolynnol a ffurfir yn Llydaweg gan yr ôl-ddodiad -enn ‘-yn, -en’. Fel yn y Gymraeg, tra bo'r enw torfol gwez ‘coed, prennau, gwŷdd’, h.y. yn dynodi grŵp neu gasgliad, mae'r ffurf unigolynnol gwezenn yn golygu ‘coeden, pren, gwydden’. Yn wahanol i'r Gymraeg, gellir hyd yn oed creu lluosog rhifadwy o'r unigolyn (gwezenn), sef gwezennoù, i olygu ‘nifer o goed, prennau’.
Bachigyn
golyguMae'r Llydaweg yn ffurfio bachigion drwy gymorth yr ôl-ddodiad -ig ac ffurfir eu lluosogion drwy ddyddyblu'r ôl-ddodiad -où, e.e. prad ‘dôl’ > pradig ‘dôl fach’ > pradouigoù ‘dolydd bach’ (gwrthgyferbynier y lluosog anfachigol pradoù ‘dolydd’).[1][2]
Banodau
golyguYn Llydaweg, ceir banodau pendodol ac amhenodol. Mae hyn yn wahanol i'r ieithoedd Celtaidd eraill sydd heb fanodau amhenodol. An yw ffurf y fannod benodol o flaen cytseiniaid deintiol, llafariaid ac h dawel, er enghraifft an tan "y tân", al yw hi o flaen l, er enghraifft al logodenn "y llygoden" ac ar yw hi ym mhob achos arall, er enghraifft ar gador "y gadair". Mae'r fannod amhenodol, sydd yn deillio o'r rhifolyn un "un", yn dilyn yr un patrwm a'r fannod benodol o ran cytseiniaid olaf, er enghraifft, un tan "tân", ul logodenn "llygoden", ur gador "cadair".[2]
Gellir cywasgu'r fannod benodol ar ôl rhai arddodiaid, er enghraifft, e "yn" + an i en "yn y".
Ansoddeiriau
golyguGellir cymharu ansoddeiriau yn y radd gymharol ag -oc'h ‘-ach’ a'r radd eithaf ag -añ ‘-af’. Fel yn y Gymraeg, mae'r ôl-ddodiaid hyn yn peri treiglad caled i gytsain flaenorol ansoddair.[4] Enghreifftiau o ansoddeiriau afreolaidd yw mat ‘da’ a drouk ‘drwg’ yn y tabl isod.[3]
cysefin | cymharol | eithaf |
---|---|---|
bras ‘mawr’ | brasoc'h ‘mwy’ | brasañ ‘mwyaf’ |
gleb ‘gwlyb’ | glepoc'h ‘gwlypach’ | glepañ ‘gwlypaf’ |
ruz ‘coch’ | rusoc'h ‘cochach’ | rusañ ‘cochaf’ |
mat ‘da’ | gwell(oc'h) ‘gwell’ | gwellañ ‘gorau’ |
drouk ‘drwg’ | droukoc'h, gwashoc'h ‘gwaeth’ | droukañ, gwashañ ‘gwaethaf’ |
Yn ogystal â'r ffurfiau uchod, mae gan rai ansoddeiriau ffurfiau yn y radd gyfartal, er enghraifft, kement ‘cymaint’, koulz ‘cystal’, ken gwazh ‘cynddrwg’. Crëir ffurfiau cyfartal mwy rheolaidd â ken ‘cyn … -ed, mor … â’, e.e. ken gleb ‘cyn wlyped’, ken drouk ‘cynddrwg’.[2] Mae gan y Llydaweg radd ebychiadol ag -at hefyd, e.e., brasat ‘dyna fawr!’, glepat ‘mor gwlyb!’, gwellat ‘dyna dda!’, ond mae hon yn anarferedig ac eithrio mewn rhai ymadroddion er hynny.
Mae gan ansoddeiriau ffurfiau bachigol ag -ik ‘-ig’ hefyd, e.e., bihanik ‘bychan bach’ o bihan ‘bach’ a brazik o bras ‘mawr’.[1]
Adferfau
golyguNid yw adferfau yn ffurfdroi yn Llydaweg. Gellir llunio adferfau o ansoddeiriau drwy ddefnyddio ez' , er enghraifft, ez' leal "yn deyrngar" o leal "teryngar".
Arddodiaid
golyguYn union fel mewn ieithoedd Celtaidd eraill, arddodiaid syml a chyfansawdd sydd gan y Llydaweg, a gall eu ffurfdroadau ddangos y person, y rhif a'r genedl. [2] Yn hanesyddol, mae arddodiaid rhediadol sy'n deillio o gywasgiad o arddodiad a rhagenw personol.
Yn gyffredinol, gellir rhannu ffurfdroadau arddodiaid syml yn ddau grŵp yn ôl eu hôl-ddodiaid. Gall bôn y trydydd person fod ychydig yn wahanol i fôn y personau eraill megis yn Gymraeg.[2] Dengys yr arddodiaid hyn genedl yn y trydydd person unigol. Yn wahanol i arddodiaid tebyg yn Gymraeg, nid yw'r ffurfdroadau hyn yn cael eu defnyddio â rhagenw dilynol ac mae gan arddodiaid Llydaweg ffurfiau amhersonol hefyd.
ag i | ag o | |
---|---|---|
cysefin | gant ‘gyda, efo’ | war ‘ar’ |
1 un. | ganin ‘gyda fi’ | warnon ‘arnaf’ |
2 un. | ganit ‘gyda ti’ | warnout ‘arnat’ |
3 un. gwryaidd | gantañ ‘gydag ef’ | warnañ ‘arno’ |
3 un. benywaidd | ganti ‘gyda hi’ | warni ‘arni’ |
1 ll. | ganimp ‘gyda ni’ | warnomp ‘arnom’ |
2 ll. | ganeoc'h ‘gyda chi’ | warnoc'h ‘arnoch’ |
3 ll. | ganto, gante ‘gyda nhw’ | warno ‘arnynt’ |
amhersonol | ganeor ‘gydag un/rhywun’ | warnor ‘am un/rywun’ |
Nid yw rhai arddodiaid syml yn rhedeg, megis eus a deus ‘o’, kent ‘cyn’ a goude ‘ar ôl / wedi’.[2]
Mae arddodiaid cyfansawdd yn rhedeg drwy ryngosod rhagenwau meddiannol rhwng yr elfen arddodiadol a'r elfen enwol. Mae hyn yn union fel arddodiaid cyfansawdd Cymraeg ac fel yn y Gymraeg, gall rhagenw meddiannol sbarduno treiglad.[2][4]
cysefin | diwar-benn ‘ynghylch, ynglŷn â’ | e-kichen ‘yn yml’ |
1 un. | diwar ma fenn ‘yn fy nghylch’ | em c'hichen ‘yn fy ymyl’ |
2 un. | diwar da benn ‘yn dy gylch’ | ez kichen ‘yn dy ymyl’ |
3 un. gwryaidd | diwar e benn ‘yn ei gylch’ | en e gichen ‘yn ei ymyl’ |
3 un. benywaidd | diwar he fenn ‘yn ei chylch’ | en he c'hichen ‘yn ei hymyl’ |
1 ll. | diwar hor penn ‘yn ein cylch’ | en hor c'hichen ‘yn ein hymyl’ |
2 ll. | diwar ho penn ‘yn eich cylch’ | evidoc'h ‘yn eich ymyl’ |
3 ll. | diwar o fenn ‘yn eu cylch’ | en o c'hichen ‘yn eu hymyl’ |
amhersonol | diwar ar penn ‘ynghylch un/rhywun’ | er c'hichen ‘yn ymyl un/rhywun’ |
Cysyllteiriau
golyguFel yn Gymraeg, mae gan rai cysyllteiriau ffurfiau gwahanol a ddefnyddir o flaen cytsain a llafariaid, megis ha "a" a hag "ac" a na "na" a nag "nag". Fel rheol, dilynir cysylltiad gan y geiryn e o flaen berf, er enghraifft, hag e kouezhas "ac fe syrthiodd", peogwir e varvas "oherwydd iddo syrthio", er nad yw hyn yn wir am ma "y, os", mar "os", pa "os, pan, oherwydd".[1]
Rhagenwau
golyguPersonol
golyguGall rhagenwau personol fod yn annibynnol neu'n ddibynnol (naill ai blaen neu ôl). Mae gan ragenwau annibynnol yr un dosbarthiad ag ymadrodd enw llawn a gallant fod yn oddrychau, yn wrthrychau neu'n wrthrychau arddodiadol. Mae rhagenwau ôl yn tueddu i ddilyn berfau terfynol, enwau neu arddodiaid rhediadol. Mae rhagenwau blaen yn gweithredu fel rhagenwau gwrthrychol o flaen ymadroddion berfol ac fel banodolion meddiannol o flaen ymadroddion enwol.
annibynnol | dibynnol ôl | dibynnol blaen | periffrastig | |
---|---|---|---|---|
Person cyntaf unigol | me | me | ma, am (’m) | ac'hanon |
2 un. | te | te | az’ (’z’), da | ac'hanout |
3 un. gwryaidd | eñ | eñ | e | anezhañ |
3 un. benywaidd | hi | hi | he | anezhi |
Person cyntaf lluosog | ni | ni | hon, hol, hor | ac'hanomp |
2 ll. | c'hwi | hu, c'hwi | ho, hoc'h | ac'hanoc'h |
3 ll. | int | i, int | o | anezho |
Fel chi yn y Gymraeg a vous yn y Ffrangeg, defnyddir rhagenw lluosog yr ail berson i'r unigol i ddangos parch. Er hynny, mae rhan fawr o ganolbarth Llydaw wedi colli c'hwi ‘chi’ yn gyfan gwbl ac yn defnyddio te ‘ti’ yn y lluosog hefyd, felly dim ond un gair sydd ganddynt yn debyg i you yn Saesneg.[1] Mae'r defnydd o'r aralleiriad arddodiadol yn fwy cyfyngedig. Maent yn tarddu o ffurfdroi'r arddodiad cyfrannol a ‘o’ a gallant weithredu fel rhagenw gwrthrychol, er enghraifft, E kêr e welas Yannig anezho ‘Yn y dref gwelodd Yannig nhw’, yn fwy llythrennol ‘Yn y dref gwelodd Yannig ohonyn nhw’, ac weithiau maent yn gweithredu fel goddrychau (gyda berfau cyflawn, negyddol fel arfer). [2]
Dangosol
golyguMae gan y rhagenwau dangosol dair gradd o bellter (neu agosrwydd) yn ogystal â chenedl a rhif.
unigol gwrywaidd | unigol benywaidd | lluosog cyffredin | |
---|---|---|---|
agosaf: agos at y siaradwr | hemañ ‘hwn’ | houmañ ‘hon’ | ar re-mañ ‘y rhain’ |
canol: agos y gwrandäwr | hennezh ‘hwnna’ | hounnezh ‘honna’ | ar re-se ‘y rheina’ |
pellaf: pell o'r siaradwr a gwrandäwr | henhont ‘hwnnw’ | hounhont ‘honno’ | ar re-hont ‘y rheini’ |
Gogwyddeiriau sy'n dilyn y pen yw'r banodolion dangosol ac fe'u defnyddir â'r fannod benodol. [2][3]
gogwyddair | enghraifft | |
---|---|---|
agosaf: agos at y siaradwr | -mañ ‘yma’ | ar stêr-mañ ‘yr afon yma’ |
canol: agos y gwrandäwr | -se ‘yna’ | an ti bihan-se ‘y tŷ bach yna’ |
pellaf: pell o'r siaradwr a gwrandäwr | -hont ‘acw’ | al lent-hont ‘y llyn acw’ |
Amhendant
golyguGall rhagenwau amhendant fod yn gadarnhaol, fel re ‘rhai’ a holl ‘holl’ a negyddol, fel netra ‘dim byd’ a neblec'h ‘unman, unlle’, a gellir ei ragflaenu gan fanodolyn, e.e. an re ‘y rhai’ a da re ‘dy rai’.
Berfau
golyguRhediadau rheolaidd
golyguGellir rhedeg berfau Llydaweg i ddangos modd, agwedd, amser, person a rhif drwy ychwanegu ôl-ddodiaid at fôn y ferf, fel y gwelir yn y tabl hwn.
Mynegol | Amodol | Gorchmynnol | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Presennol | Amherffaith | Gorffennol | Dyfodol | Presennol | Amherffaith | ||
Person cyntaf unigol | -an | -en | -is | -in | -fen | -jen | dim ffurf |
Ail berson unigol | -ez | -es | -jout | -i | -fes | -jes | dim terfyniad |
Trydydd person unigol | dim terfyniad | -e | -as | -o | -fe | -je | -et |
Person cyntaf lluosog | -omp | -emp | -jomp | -imp | -femp | -jemp | -omp |
Ail berson lluosog | -it | -ec'h | -joc'h | -ot | -fec'h | -jec'h | -it |
Trydydd person lluosog | -ont | -ent | -jont | -int | -fent | -jent | -ent |
Amhersonol | -er | -ed | -jod | -or | -fed | -jed | dim ffurf |
Ffurfir y berfenw ag ôl-ddodiaid eraill. Ymhlith y rhai mwyaf cyffredin, mae: [3]
- -out mewn lavarout ‘dweud’, gallout ‘gallu’, klevout ‘clywed, teimlo’
- -añ mewn evañ ‘yfed’, gwiskañ ‘gwisgo’, skrivañ ‘ysgrifennu’
- -iñ mewn debriñ ‘bwyta’, deskiñ ‘dysgu’, reiñ ‘rhoi’
Defnyddia rhai berfau eraill y bôn heb derfyniad fel y berfenw, er enghraifft, gortoz "aros", lenn "darllen", kompren "deall".
Mae gan ferfau hefyd rangymeriad gorffennol a ffurfir ag ôl-ddodiad a rhangymeriad presennol sef y geiryn o o flaen y berfenw, sydd yn sbarduno treiglad cymysg.
Mae'r rhan fwyaf o ferfau yn rhai rheolaidd ac nid ydynt yn amrywio ryw lawer yn eu patrymau.[2] Dengys y tabl hwn enghraifft o'r ferf reolaidd debriñ "bwyta" (bôn debr- ).
Mynegol | Amodol | Gorchmynnol | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Presennol | Amherffaith | Gorffennol | Dyfodol | Presennol | Amherffaith | ||
1u | debran | debren | debris | debrin | debrfen | debrjen | Dim ffurf |
2u | debrez | debres | debrjout | debri | debrfes | debrjes | debr |
3u | debr | debre | debras | debro | debrfe | debrje | debret |
1ll | debromp | debremp | debrjomp | debrimp | debrfemp | debrjemp | debromp |
2ll | debrit | debrec'h | debrjoc'h | debrot | debrfec'h | debrjec'h | debrit |
3ll | debront | debrent | debrjont | debrint | debrfent | debrjent | debrent |
amhers. | debrer | debred | debrjod | debror | debrfed | debrjed | Dim ffurf |
Berfenw | Rhangymeriad presennol | Rhangymeriad gorffennol |
---|---|---|
debriñ | o tebriñ | debret |
Ffurfdroi afreolaidd
golyguMae ambell ferf gyffredin yn afreolaidd, gan gynnwys ober "gwneud".
Mynegol | Amodol | Gorchmynnol | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Presennol | Amherffaith | Gorffennol | Dyfodol | Presennol | Amherffaith | ||
1u | gran | graen | gris | grin | grafen | grajen | Dim ffurf |
2u | grez | graes | grejout | gri | grafes | grajes | gra |
3u | gra | grae | greas | gray, graio | grafe | graje | graet |
1ll | greomp | graemp | grejomp | graimp | grafemp | grajemp | greomp |
2ll | grit | graec'h | grejoc'h | greot | grafec'h | grajec'h | grit |
3ll | greont | graent | grejont | graint | grafent | grajent | graent |
amhers. | greer | graed | grejod | greor | grafed | grajed | Dim ffurf |
Berfenw | Rhangymeriad presennol | Rhangymeriad gorffennol |
---|---|---|
ober, gober | oc'h ober | graet |
Mae mond "mynd" yn afreolaidd.
Mynegol | Amodol | Gorchmynnol | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Presennol | Amherffaith | Gorffennol | Dyfodol | Presennol | Amherffaith | ||
1u | an | aen | is | in | afen | ajen | Dim ffurf |
2u | ez | aes | ejout | i | afes | ajes | a, kae |
3u | a, ya | ae, yae | eas, yeas | ay, aio, yelo | afe, yafe | aje, yaje | aet |
1ll | eomp | aemp | ejomp | aimp | afemp | ajemp | eomp, demp |
2ll | it | aec'h | ejoc'h | eot | afec'h | ajec'h | it, kit |
3ll | eont | aent | ejont | aint | afent | ajent | aent |
amhers. | eer | aed | ejod | eor | afed | ajed | Dim ffurf |
Berfenw | Rhangymeriad presennol | Rhangymeriad gorffennol |
---|---|---|
mont | o vont | aet |
Mae gouzout "gwybod" hefyd yn afreolaidd. Yn ogystal â'r ffurfiau isod, mae ganddo nifer o fonau amrywiol posibl eraill.[1]
Mynegol | Amodol | Gorchmynnol | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Presennol | Amherffaith | Gorffennol | Dyfodol | Presennol | Amherffaith | ||
1u | gouzon | gouien | gouezis | gouezin | goufen | gouijen | Dim ffurf |
2u | gouzout | gouies | gouejout | gouezi | goufes | gouijes | gouez |
3u | gour | gouie | gouezas | gouezo | goufe | gouije | gouezet |
1ll | gouzomp | gouiemp | gouejomp | gouezimp | goufemp | gouijemp | gouezomp |
2ll | gouzont | gouiec'h | gouejoc'h | gouezot | goufec'h | gouijec'h | gouezit |
3ll | gouzont | gouient | gouejont | gouezint | goufent | gouijent | gouezent |
amhers. | gouzer | gouied | gouejod | gouezor | goufed | gouijed | Dim ffurf |
Berfenw | Rhangymeriad presennol | Rhangymeriad gorffennol |
---|---|---|
gouzout | o c'houzout | gouezet |
Mynegol | Amodol | Gorfodol | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Presennol | Presennol (lleoliadol) | Presennol (arferiadol) | Dyfodol | Amherffaith | Amherffaith (lleoliadol) | Amherffaith (arferiadol) | Gorffennol | Presennol | Amherffaith | ||
1u | on | emaon | bezan | bin, bezin | oan | edon | bezen | boen | befen, ben | bijen | Dim ffurf |
2u | out | emaout | bezez | bi, bezi | oas | edos | bezes | boes | befes, bes | bijes | bez |
3u | emañ | bez | bo, bezo | oa | edo | beze | boe | befe, be | bije | bezet | |
1ll | omp | emaomp | bezomp | bimp, bezimp | oamp | edomp | bezemp | boemp | befemp, bemp | bijemp | bezomp |
2ll | oc'h | emaoc'h | bezit | biot,[5] bioc'h | oac'h | edoc'h | bezec'h | boec'h | befec'h, bec'h | bijec'h | bezit |
3ll | int | emaint | bezont | bent, bezint | oant | edont | bezent | boent | befent, bent | bijent | bezent |
amhers. | oar, eur | emeur | bezer | bior | oad | edod | bezed | boed | befed | bijed | Dim ffurf |
Berfenw | Rhangymeriad presennol | Rhangymeriad gorffennol |
---|---|---|
bezañ, hŷn: bout, bezout | o vezañ | bet |
Berf afreolaidd gyffredin arall yw eus "bod â", sy'n cyfuno nodwr person a ffurf amser. Yn hanesyddol, mae eus yn deillio o bezañ[2] ac er nad oedd datblygiad tebyg yn y Gymraeg, gwelir yr un peth yng Nghernyweg.[6]
Mynegol | Amodol | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Presennol | Presennol (arferiadol) | Dyfodol | Amherffaith | Amherffaith (arferiadol) | Gorffennol | Presennol | Amherffaith | |
1u | am eus, meus | am bez, mez | am bo, mo, am vezo | am boa, moa | am boa, moa | am boe, moe | am bije, mije | am befe, mefe |
2u | az peus, ac'h eus[7], teus | az pez, pez | az po, to, az pezo | az poa, toa | az poa, toa | az poe, toe | az pije, tije | az pefe, tefe |
3u | en deus, neus | en devez, nez | en devo, no, en devezo | en doa, noa | en devoa, noa | en devoe, noe | en devije, nije | en devefe, nefe |
1ll | he deus, neus | he devez, dez | he devo, do, he devezo | he doa, doa | he devoa, doa | he devoe, doe | he devije, dije | he devefe, defe |
2ll | hon neus, oneus | hor bez, obez | hor bo, obo, hor bezo | hor boa, oboa | hor boa, oboa | hor boe, boe | hor bije, obije | hor befe, obefe |
3ll | hoc'h eus, peus | ho pez, pez | ho po, po, ho pezo | ho poa, poa | ho poa, poa | ho poe, poe | ho pije, pije | ho pefe, pefe |
amhers. | o deus, deus | o devez, dez | o devo, do, o devezo | o doa, doa | o devoa, doa | o devoe, doe | o devije, dije | o devefe, defe |
Berfenw | Rhangymeriad presennol |
---|---|
endevout neu kaout | o kaout |
Ffurfiau cwmpasog
golyguGellir defnyddio ober, bezañ ac eus fel berfau cynorthwyol.[2]
Yn y presennol, mae Llydaweg (fel Cernyweg a Gwyddeleg ond yn wahanol i'r ieithoedd Geltaidd eraill) yn gwahaniaethu rhwng y presennol syml a'r presennol cyfredol. Ffurfir y presennol syml drwy naill ai rhedeg y ferf (ffurf gryno) neu ddefnyddio'r berfenw â phresennol ober ‘gwneud’ (ffurf gwmpasog), e.e. Dour a evan bemdez neu Evañ a ran dour bemdez ‘Dw i'n yfed dŵr bob dydd’. Mae'r presennol cyfredol, ar y llaw arall, yn cael ei ffurfio â phresennol lleoliadol bezañ gyda rhangymeriad presennol (o(c'h) + tr. cymysg + berfenw). Yn ogystal â'r ddau wahaniaeth agweddol hyn, mae gan Lydaweg bresennol arferiadol sy'n defnyddio presennol arferiadol bezañ (emañ, edo, ayb.) a'r rhangymeriad presennol; e.e. Edo o vervel ‘Roedd e'n marw’.
Y perffaith, sy'n cyfuno'r rhangymeriad gorffennol â naill ai endevout neu bezañ, yw'r ffurf arferol i fynegi'r amser gorffennol, a'r gorffennol cryno wedi'u cyfyngu i'r iaith lenyddol. Mae'r dewis rhwng eus a bezañ yn dibynnu ar a yw'r rhangymeriad gorffennol yn deillio o ferf gyflawn (eus) neu anghyflawn (bezañ), sydd yn debyg i passé composé y Ffrangeg. Er enghraifft, mae kavout "darganfod" yn cymryd endevout i roi kavet en deus "mae wedi darganfod" tra bo kouezhañ "cwympo" yn cymryd bezañ i roi kouezhet eo "mae wedi cwympo".[1][3]
Negyddu
golyguMae berfau cyfyngedig yn cael eu negyddu drwy osod y ddau eiryn negyddol ne ... ket y naill ochr i'r brif ferf, e.e. ne skrivan ket ‘dydw i ddim yn ysgrifennu’ (yn fwy llythrennol ‘nid ysgrifennaf ddim’) neu i'r ferf gynorthwyol, e.e. ne voe ket lazhet ‘ni laddwyd ef’ (yn llythr. ‘nid oedd ddim lladdedig’). [2] Mae na yn disodli ne mewn ffurfiau gorchmynnol, cymalau perthynol, ar ôl ken ‘cyn’ ac evit ‘achos; fel (bod)’ ac wrth fynegi ofn, e.e. na ganit ket ‘peidiwch â chanu’ (yn llythr. ‘na chenwch ddim’), un dra na c'houalennen ket ‘peth na ofynnais’ (sef ‘un peth na ofynnais ddim’), evit na welo ket ac'hanoc'h ‘fel nad yw'n eich gweld chi’ (yn llythr. ‘fel na wêl ddim ohonoch’).
Fel yn Gymraeg, nid oes modd negyddu berfenwau gan ddefnyddio'r geirynnau negyddol a enwyd uchod, felly rhaid defnyddio ymadrodd cyfansawdd yn eu lle. Defnyddia'r Gymraeg peidio i wneud hyn ond mae gan Lydaweg ystod ehangach o strwythurau posibl, e.e. gall redek ‘rhedeg’ ddod yn mirout a redek ‘peidio â rhedeg’ a debriñ ‘bwyta’ yn tremen hep debriñ ‘peidio â bwyta’ (yn llythr. ‘pasio heb fwyta’). Er hynny, defnyddir na ... (ket) ambell waith, i negyddu berfenwau.[1]
Rhifau
golyguRhifolion
golyguYn debyg i'r ieithoedd Celtaidd eraill, mae gan Lydaweg system rifo ugeiniol yn ei hanfod. Un, ul neu ur yw "un" o flaen enw (yr un gair â'r fanod amhenodol). Fel yn y Gymraeg, mae gan "dau/dwy", "tri/tair" a "pedwar/pedair" a rhifau sy'n eu cynnwys ffurfiau gwrywaidd a benywaidd ar wahân a cheir rhai ffurfiau afreolaidd diddorol megis hanter kant "hanner cant". Triwec'h yw'r gair am "deunaw", sef "trichwech" yn llythrennol.
0 | zero, mann, netra | ||||
1 | unan | 11 | unnek | 21 | unan warn-ugent |
2 | daou (g.), div (b.) | 12 | daouzek | 22 | daou warn-ungent |
3 | tri (g.), teir (b.) | 13 | trizek | 30 | tregont |
4 | pevar (g.), peder (b.) | 14 | pevarzek | 40 | daou-ugent |
5 | pemp | 15 | pempzek | 50 | hanter kant |
6 | c'hwec'h | 16 | c'hwezek | 60 | tri-ugent |
7 | seizh | 17 | seitek | 70 | dek ha tri-ugent |
8 | eizh | 18 | triwec'h | 80 | pevar-ugent |
9 | nav | 19 | naontek | 90 | dek ha pevar-ugent |
10 | dek | 20 | ugent | 100 | kant |
Trefnolion
golyguUnwaith eto, gall rhai trefnolion wahaniaethu cenedl enwau.
1af | kentañ |
2il (gwr.) | eil, daouvet |
2il (ben.) | eil, divvet |
3ydd | trede, trivet |
3edd | trede teirvet |
4ydd | pevare, pevarvet |
4edd | pevare, pedervet |
5ed | pempvet |
6ed | c'hwec'hvet |
7fed | seizhvet |
8fed | eizhvet |
9fed | navvet |
10fed | dekvet |
Treigladau
golyguNid oes treiglad trwynol yn Llydaweg ond fe geir treigladau caled a chymysg yn wahanol i'r Gymraeg.
Cysefin | Meddal | Llaes | Caled | Cymysg |
---|---|---|---|---|
p | b | f | – | – |
t | d | z | – | – |
k | g | c'h | – | – |
b | v | – | p | v |
d | z | – | t | t |
g | c'h | – | k | c'h |
gw | w | – | kw | w |
m | v | – | – | v |
Cyfeiriadau
golygu
- Jouitteau, M. (2009-nawr) ARBRES, gramadeg wiki Llydaweg ar-lein, IKER, CNRS.
- Press, I. (1986) A Grammar of Modern Breton (Mouton De Gruyter)
- Pêr Denez
- Kentelioù brezhoneg: eil derez, Al Liamm (1971)
- Étude structurale d'un parler breton: Douarnenez, thèse (3 cyf.), Université de Rennes (1977)
- Geriadur brezhoneg Douarnenez, 4 cyf., Mouladurioù Hor Yezh (1985)
- Mont war-raok gant ar brezhoneg, MHY (1987)
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 Hemon, Romparz (2007). Breton Grammar (yn Saesneg). Evertype. t. 63. ISBN 9781904808114.
- ↑ 2.00 2.01 2.02 2.03 2.04 2.05 2.06 2.07 2.08 2.09 2.10 2.11 2.12 2.13 2.14 2.15 Stephens, Janig (2002). "Breton". In Ball, Martin; Fife, James (gol.). The Celtic Languages. Routledge Language Family Descriptions (yn Saesneg). London: Routledge. t. 63. ISBN 041528080X.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 Bowen, Zonia (1977). Llydaweg i'r Cymro [Breton for the Welshman]. Bala: Llyfrau'r Faner. t. 80.
- ↑ 4.0 4.1 Press, Ian; ar Bihan, Herve (2004). Colloquial Breton. Colloquial Series. London: Routledge. tt. 117. ISBN 0415224519.
- ↑ Literary
- ↑ Brown, Wella (2001). A Grammar of Modern Cornish. Kesva an Taves Kernewek [The Cornish Language Board]. tt. 162–163. ISBN 1902917006.
- ↑ Spoken