Griffith Williams (Gutyn Peris)

bardd
(Ailgyfeiriad o Gutyn Peris)

Bardd ar y mesurau caeth oedd Griffith Williams neu Gutyn Peris (2 Chwefror 176918 Medi 1838). Roedd yn ffigwr dylanwadol ym mywyd llenyddol a diwyllianol ardal Arfon, Gwynedd, yn enwedig yn yr adfywiad llenyddol yno ar ddiwedd y 18g a dechrau'r 19g.

Griffith Williams
FfugenwGutyn Peris Edit this on Wikidata
Ganwyd2 Chwefror 1769 Edit this on Wikidata
Waunfawr Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mehefin 1838 Edit this on Wikidata
Llandygái Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, goruchwyliwr, chwarelwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed ef yn Waunfawr yn Arfon,. Symudodd i fyw yn Llandygái, ger Bangor, ac yno y bu am weddill ei oes yn chwarelwr yn Chwarel y Penrhyn. Daeth yn oruchwylwr yn y chwarel yn ddiweddarach.[1]

Cafodd Gutyn Peris ei addysg farddol gan Abraham Williams a Dafydd Ddu Eryri. Roedd yn un o'r disgleiriaf o'r cylch o ddisgyblion a alwyd yn "Gywion Dafydd Ddu", a oedd yn cynnwys yn ogystal Robert Morris 'Robin Ddu Eifionydd' (c. 1767-1816), Elis Wyn o Wyrfai (1827-1895), William Williams (Gwilym Peris) (1769-1847), Richard Jones (Gwyndaf Eryri) (1785-1848), William Edwards (Gwilym Padarn) a'i fab Griffith Edwards (Gutyn Padarn), Owen Williams (Owain Gwyrfai) o Waunfawr a William Ellis Jones (Cawrdaf).[1]

Daeth yn un o feirdd mwyaf adnabyddus ei ddydd a chwareodd ran bwysig yn yr adfywiad llenyddol yn ardal Arfon ar ddiwedd y 18g a dechrau'r 19g. Bu'n cystadlu droeon yn yr Eisteddfod yng nghwmni beirdd fel Gwallter Mechain, Eben Fardd, Caledfryn a Robert Ddu ei hun. Cyhoeddodd ei unig gyfrol o farddoniaeth, Ffrwyth yr Awen, yn 1816.[1]

Roedd yn gynganeddwr da a amddiffynai'r mesurau caeth yn erbyn dylanwad cynyddol y mesurau rhydd, a chafwyd cyfres o erthyglau ganddo yn Y Gwyliedydd yn dadlau o blaid y mesurau traddodiadol yn erbyn Ieuan Glan Geirionydd. Yn 1799 cymerodd ran, gyda Dafydd Ddu Eryri, mewn eisteddfod yn Ninorwig a drefnwyd gan Iolo Morganwg.[1]

Ceir cywydd ganddo sy'n disgrifio ei blentyndod yn ardal Waunfawr a Llanberis a'i athrawon barddol Dafydd Ddu ac Abraham Williams.

Pan fu farw yn 1838, cyfansoddodd Robert Parry (Robyn Ddu Eryri) (1804-1892), un o'i ddisgyblion barddol, farwnad iddo ar y Pedwar Mesur ar Hugain.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922).
  2. Robert Parry, Teithiau a Barddoniaeth Robyn Ddu Eryri (Caernarfon, 1857).