Gweld Sêr (pantomeim)
Pantomeim Cymraeg gan Gwmni Theatr Cymru yw Gweld Sêr a lwyfannwyd ym 1972. Dyma'r ail banto i'r cwmni lwyfannu ar ôl llwyddiant Mawredd Mawr, flwyddyn ynghynt.
Dyddiad cynharaf | 1972 |
---|---|
Cyhoeddwr | heb ei chyhoeddi |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Cysylltir gyda | Cwmni Theatr Cymru |
Math | Pantomeim Gymraeg |
Disgrifiad byr
golygu"...ar ôl llwyddiant ysgubol yr un cyntaf [Mawredd Mawr] yr un prif gymeriadau oedd yn hwn hefyd," yn ôl yr actor John Pierce Jones, "yn cael eu chwarae gan Dyfan Roberts, Dewi Pws a Wynford Ellis Owen. Roedd Beryl Hall a'i chi, Ben Hall, Iona Banks a Huw Tudor hefyd yn serennu yn y cynhyrchiad. Rhan fach iawn fel gwas ufudd y Brenin Da oedd gen i, ond cefais hefyd gyfle i fod yn un o'r criw cefn llwyfan ar y daith, oedd yn brofiad gwerthfawr iawn mewn mwy nag un ystyr."[1]
Cymeriadau
golygu- Y Brenin da
- Gwas y Brenin da
- Fairy Nyff
- Tywysoges
- Siencyn
- Ianto
- Gwrach
- Brenhines
- Y Dewin Gwyrdd [2]
Cynyrchiadau nodedig
golyguLlwyfannwyd y panto gan Gwmni Theatr Cymru dros y Gaeaf 1972 a dechrau'r Gwanwyn 1973.
- Fairy Nyff - Wynford Elis Owen
- Tywysoges -
- Siencyn - Dewi Pws
- Ianto - Dyfan Roberts
- Gwrach - Iona Banks
- Brenin - Huw Tudor
- Brenhines - Beryl Hall
- Gwas y Brenin da - John Pierce Jones
- Y Dewin Gwyrdd - Grey Evans
- actorion eraill : a 'Ben' ci Beryl Hall.
John Pierce Jones sy'n cofio mwy am y cynhyrchiad :
"Roedd y ci, Ben Hall, yn cydganu a'i feistres mewn un olygfa, ac am ryw reswm sydd y tu hwnt i mi, mynnodd Beryl fod Wynford, Dyfan a Dewi Pws i fod ar y llwyfan yn ystod ei chân efo'r ci. Camgymeriad dybryd. Roedd Wynff wedi ei wisgo fel tylwythen deg (Fairy Nyff) ac yn ystod y gân tynnai amryw o fân bethau o'i fag llaw, a gweu efo symudiadau doniol. Wrth gwrs, roedd hyn yn tynnu sylw'r gynulleidfa, a doedd Pws yntau ddim yn ddieuog o'r hyn y gellid ei alw'n 'ypstejio'? Roedd si ar led fod Beryl, ar ôl taenu ei chlogyn o gwmpas Ben fel nad oedd ond ei ben yn y golwg yn ystod y ddeuawd, yn gwasgu ei geilliau er mwyn iddo gyrraedd y nodau uchaf. Does gen i ddim prawf o gwbwl o hyn."[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Jones, John Pierce (2014). Yr Hen Ddyddiadau. Gwasg Carreg Gwalch.
- ↑ "Mae e tu ôl i chi!". BBC Cymru Fyw. 2015-11-18. Cyrchwyd 2024-09-15.