Gwenda Owen

cyfansoddwr a aned yn 1965

Cantores Gymraeg yw Gwenda Owen (ganwyd 16 Gorffennaf 1965) ac mae hi fwyaf enwog am ennill cystadleuaeth Cân i Gymru a'r Ŵyl Ban Geltaidd gyda "Cân i'r Ynys Werdd" yn 1995.

Gwenda Owen
Ganwyd1965 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfansoddwr Edit this on Wikidata

Dyddiau Cynnar golygu

Magwyd Gwenda ar aelwyd gynnes ffermdy Capel Ifan ym mhentref Pontyberem yng Nghwm Gwendraeth, ardal sy'n agos iawn ati, ac ardal mae Gwenda'n ei hystyried fel "lle bach gore'r byd".

Aeth i'r ysgol fabanod ym Mhontyberem, ac yna ymlaen i Ysgol Uwchradd y Gwendraeth, ond roedd ei diddordeb mewn canu wedi dechrau ymddangos ymhell cyn mynd i'r ysgol uwchradd. Dechreuodd Gwenda ganu pan oedd ond rhyw chwech oed, a hynny drwy'r capel a'r ysgol Sul, ac eisteddfodau lleol hefyd.

Pan ddaeth Deris, chwaer hynaf Gwenda, yn ôl o wersyll yr Urdd Llangrannog wedi dysgu rhai cordiau gitâr, fe ddysgodd rhai ohonynt i'w chwaer fach. Cafodd Gwenda ei gitâr gyntaf pan aeth ei thad â dau lo i'w gwerthu ym marchnad Caerfyrddin, a dod adref i'r fferm â gitâr roedd wedi ei phrynu â'r arian a gafodd am y ddau lo. Er mwyn dysgu mwy o gordiau, cafodd Gwenda wersi gitâr a ffurfiodd Deris, Linda a Gwenda grwp o'r enw 'Seiniau'r Gwendraeth', fu'n diddanu mewn cyngherddau ym Mhontyberem ac ardaloedd eraill yn Sir Gaerfyrddin.

Casét cyntaf golygu

Yn 1991 rhyddhaodd Gwenda ei chasét cyntaf ar label Fflach sef Ffenestri'r Gwanwyn. Gwerthodd y casét yn dda, ac enillodd Gwenda nifer o gefnogwyr ar hyd a lled Cymru. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, rhyddhawyd ei hail gasgliad o ganeuon sef Aur o Hen Hafau, gyda phrif gân y casét yn addasiad o glasur y Monkees sef "Daydream Believer". Daeth y trobwynt cyntaf yng ngyrfa Gwenda pan enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru ym 1995 a ddarlledwyd yn fyw o Bafiliwn Pontrhydfendigaid. "Cân i'r Ynys Werdd" oedd enw'r gân fuddugol, wedi'i hysgrifennu ar y cyd gan Richard Jones ac Arwel John. Bu'n Gwenda'n ddigon ffodus i fynd yn ei blaen i'r Ŵyl Ban Geltaidd yn yr Iwerddon gyda'r gân hefyd, ac ennill yno'n ogystal.

Rhyddhawyd 'Dagre'r Glaw', ei thrydedd casgliad o ganeuon ym 1995, gan grwydro ychydig oddi ar y steil roedd pawb wedi ei gysylltu â cherddoriaeth Gwenda. Tra bod steil caneuon Ffenestri'r Gwanwyn ac Aur o Hen Hafau yn fwy canol y ffordd a gwlad, roedd y steil newydd a gafwyd ar 'Dagre'r Glaw' yn fwy gwerinol a Cheltaidd, wedi'i ysgogi efallai gan naws werinol "Cân i'r Ynys Werdd".

Yna dechreuodd weithio ar opera sebon dyddiol S4C Pobol y Cwm fel actores ychwanegol tu ôl i far Y Deri Arms, a chafodd rannau mewn cyfresi fel 'Y Glas' a ffilmiwyd ar gyrion Caerfyrddin.

Yn Nadolig 1998 rhyddhawyd Teithio 'Nôl ar CD a chasét, ac roedd yr albwm cyfan â naws werinol, Celtaidd iddo.

Brwydr cancr y fron golygu

Daeth trobwynt arall ym mywyd Gwenda yn 1999, pan ddarganfu ei bod yn dioddef o gancr y fron, a hithau 'mond yn ei thridegau cynnar. Yn amlwg, roedd hyn yn ergyd mawr iawn iddi gan ei bod newydd ddod trwy ysgariad hefyd. Yn ystod ei salwch, bu Gwenda o dan ofal Dr Theo Joannides a'i staff yn Ysbyty Singleton, Abertawe.

Yn ystod ei salwch, penderfynodd Gwenda rannu'i phrofiadau gyda gwrandawyr BBC Radio Cymru, a darlledwyd y rhaglen ddogfen 'Dyddiadur Gwenda' ar yr orsaf yn wythnosol, gyda Garry Owen yn cyflwyno. Roedd y rhaglen yn croniclo cyfnodau trist a phoenus Gwenda yn ogystal â'r cyfnodau hapus yn ystod ei brwydr yn erbyn y clefyd. Bu wrthi'n brysur yn cyfansoddi caneuon newydd hefyd - rhywbeth fu'n hwb ac ysgogiad iddi frwydro'n erbyn y cancr - yn y gobaith o'u cyhoeddi ar CD newydd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000.

Wedi gwella'n llwyr o'r afiechyd, rhyddhaodd Gwenda'r CD 'Neges y Gân' yn ystod wythnos y 'Steddfod - CD o wyth cân obeithiol, gyda'r elw'n mynd tuag at adran ymchwil cancr Ysbyty Singleton. Ni fu'n hir cyn gwerthu allan.

Gwenda a Geinor golygu

Yn 2001, enillodd merch Gwenda, Geinor Hâf gystadleuaeth Cân i Gymru gyda'r gân "Dagrau Ddoe". Dyma'r tro cyntaf i fam a merch ennill y gystadleuaeth hon.

Dechreuodd Gwenda a Geinor berfformio gyda'i gilydd fel deuawd ar lwyfannau led led Cymru, gan ymddangos ar raglenni teledu fel Noson Lawen a Heno. Ym misoedd olaf 2001, rhyddhawyd y CD '"Gyda Ti'", sef casgliad cyntaf Gwenda a Geinor fel deuawd.

Yn haf 2002, cyhoeddodd Gwenda ei dyweddiad ag Emlyn Dole - cyfansoddwr talentog, gweinidog a chyfieithydd, a phriodwyd y ddau yng nghapel Caersalem, Pontyberem ym mis Medi 2006.

Cyhoeddodd Gwasg Gomer hunangofiant Gwenda sef Ymlaen â'r Gânyn Rhagfyr 2003, i gyd-fynd gyda CD nesaf Gwenda a Geinor Mae'r Olwyn yn Troi.

Yn 2005, rhyddhawyd y CD Caneuon Bach y Pentre yn seiliedig ar gymeriadau enwog y rhaglen deledu "Pentre Bach" ar S4C.

Yn 2007, bu'r ddwy yn nôl yn y stiwdio yn recordio casgliad newydd o ganeuon ar gyfer y CD Tonnau'r Ŷd a ryddhawyd yn Rhagfyr 2007. Mae'r casgliad yn cynnwys fersiwn o'r emyn "Mae D'Eisiau Di Bob Awr" yng nghwmni côr Bois y Castell o Landeilo - cân sy'n deyrnged i'r diweddar Ray Gravell.

Wedi cyfnodau'n byw ar gyrion Hendy-gwyn ar Daf a Chaerfyrddin, mae Gwenda bellach yn byw gydag Emlyn ei gŵr a'r teulu yn y ffermdy lle'i magwyd hi ym Mhontyberem.

Disgograffi golygu

Dolenni Allanol golygu