Gwenno Saunders

cantores o Gymraes
(Ailgyfeiriad o Gwenno Pipette)

Cantores a chwaraewr allweddellau Gymreig ydy Gwenno Mererid Saunders[1] (ganed 23 Mai 1981). Mae wedi teithio'r byd efo Pnau (Empire Of The Sun) ac Elton John. Cyn hynny bu'n aelod o fand pop The Pipettes. Mae hi'n siaradwraig Cymraeg rugl a hefyd yn siarad Cernyweg.[2] Caiff Gwenno ei hadnabod weithiau fel Gwenno Pipette. Cyhoeddodd albwm o'r enw'r Y Dydd Olaf yn Awst 2014, sydd wedi'i sylfaenu ar themâu ffug-wyddonol nofel o'r un enw a gyhoeddwyd yn 1976 gan Owain Owain.[3]

Gwenno Saunders
Ganwyd23 Mai 1981 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Label recordioRecordiau Peski, Heavenly Recordings Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr, cerddor Edit this on Wikidata
Arddullelectropop Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadY Dydd Olaf Edit this on Wikidata
TadTim Saunders Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.gwenno.info/ Edit this on Wikidata
Gwenno yn tafarn y Parrot, Caerfyrddin

Bywgraffiad

golygu

Ganed Saunders yng Nghaerdydd,[4] yn ferch i'r ieithydd a bardd Cernyweg nodweddiadol, Tim Saunders,[5] a Lyn Mererid, sy'n aelod o'r côr sosialaidd Cymreig adnabyddus, Côr Cochion Caerdydd, ac yn gweithio fel cyfieithydd.

Bu Saunders yn mynychu Academi Dawns Wyddelig Seán Éireann-McMahon ers oedd hi'n bump oed,[6] roedd Gwenno hefyd yn aelod o gast gynhyrchiadau Michael Flatley, Lord Of The Dance[7] a Feet of Flames, tra roedd hi yn ei harddegau, a chwaraeodd y rhan arweiniol yng nghynyrchiad Las Vegas Lord Of The Dance. Yn 2001, cafodd ran yn y gyfres teledu Pobol y Cwm ar S4C, ac yn hwyrach cyflwynodd y rhaglen "Ydy Gwenno'n Gallu... ?".

Gyrfa gerddorol

golygu

Yn ystod y blynyddoedd cyn ymaelodi â'r Pipettes, bu Gwenno yn gantores bop unigol, yn canu y rhan fwyaf drwy gyfrwng y Gymraeg a Chernyweg, gan ryddhau dwy EP unigol, Môr Hud[8] a ryddhawyd yn 2002, a Vodya[9] yn 2004. Yn ddiweddarach, cynrychiolodd Saunders Gernyw yn y Gystadleuaeth Cân Eurovision Amgen yn 2003, ac enillodd Wobr Dewis y Bobl am ei pherfformiad o Vodya.

Ymaelododd Gwenno â'r Pipettes ym mis Ebrill 2005 wedi i'r aelod cychwynnol, Julia, adael. Mae hi'n nodweddiadol yn bennaf am ei llais arweiniol ar y sengl Pull Shapes a chytgan Your Kisses Are Wasted on Me. Fe gyhoeddoedd gwaith unigol ar ei gwefan MySpace. Rhyddhaodd albwm unigol fechain U & I ym mis Hydref 2007. Wedi ymadawiad Rosay a RiotBecki o'r Pipettes, ymunodd chwaef ieuengaf Saunders, Ani â'r band ym mis Ebrill 2008.

Yn Rhagfyr 2005 cyrhaeddodd ei albwm Y Dydd Olaf restr fer un o brig siartiau cerddoriaeth Prydain. Dyma'r tro cyntaf i albwm Cymraeg ei hiaith gyrraedd y safle hwn.

Disgyddiaeth

golygu

Albymau ac EPs

golygu
Fformat Teitl Blwyddyn
EP Vodya 2002
EP Ymbelydredd 2012
Albwm Y Dydd Olaf 2014
Albwm Le kov 2018
Albwm Tresor 2022

Cyfeiriadau

golygu
  1. "ASCAP: American Society of Composers, Authors and Publishers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-23. Cyrchwyd 2010-03-04.
  2. "BBC.co.uk: Gwenno - in tune, in Cornish!". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-13. Cyrchwyd 2010-03-04.
  3. Gwefan Gwenno Saunders; Archifwyd 2015-08-11 yn y Peiriant Wayback adalwyd 8 Medi 2014
  4. Sweeping The Nation: A Friendly Chat With Gwenno
  5. "BBC Wales: Gwenno". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-03-22. Cyrchwyd 2006-03-22.
  6. "Lord of the Dance biographies". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2003-08-19. Cyrchwyd 2010-03-04.
  7. Manchester Evening News: Dotty about The Pipettes
  8. Môr Hud
  9. Vodya

Dolenni allanol

golygu