Hela'r dryw

traddodiad Celtaidd

Defod ar ffurf gorymdaith (a chasgliad o ganeuon cysylltiedig) a geid yn y gwledydd Celtaidd oedd hela'r dryw (amrywiad: hela'r dryw bach) a oedd yn tarddu o ddefodau cyn-Gristnogol yn ymwneud â dathlu duw'r goleuni, drwy aberthu brenin yr adar, sef y dryw bach, i'r duw hwn. Mae'n dilyn dydd byra'r flwyddyn, sef Alban Arthan ac yn ddathliad fod yr haul yn codi'n gynt, pob cam ceiliog ac o ailenedigaeth yr haul. Mae creu'r aderyn lleiaf yn symbol o'r haul, y duw mwyaf, yn eironig iawn. Mae ailactio marwolaeth ac ailenedigaeth yr haul mewn defod, fel hyn, yn digwydd mewn llawer o ieithoedd Indo-Ewropeaidd; ystyr y gair 'dryw' mewn sawl iaith yw 'brenin'. Daeth y traddodiad i ben yng ngwledydd Prydain, fwy neu lai oherwydd y Gymdeithas yn Erbyn Creulondeb i Anifeiliaid, yn dilyn ymgyrch ganddynt, yn ôl William S. Walsh yn ei lyfr Curiosities of Popular Customs.

Y 'Wren Boys' yn dathlu Lá an Dreoilín yn Dingle, Swydd Kerry
Y dryw, wedi'i stwffio, ac a ddefnyddid yn Ynys Manaw tan yn ddiweddar.

Crybwyllir y ddefod hon gyntaf yn 1696 (gweler isod).[1] Ceir tystiolaeth o'r ddefod hefyd mewn ieithoedd eraill, gan gynnwys Saesneg a Ffrangeg. Arferid ei chynnal drwy Ragfyr a dechrau Ionawr, hyd at Nos Ystwyll (6ed o Ionawr). Parhaodd y ddefod yn ddi-dor yn Iwerddon, ac fe'i dathlwyd yn benodol ar y 26ain o Ragfyr (Gŵyl San Steffan).

Dywed Edward Llwyd (1660-1709): "Arferent yn Swydd Benfro ayb ddwyn driw mewn elor ar Nos Ystwyll; oddi wrth gŵr ifanc at ei gariad, sef dau neu dri ai dygant mewn elor gyda rhubanau; ag a ganant garolion. Ânt hefyd i dai eraill lle ni bo cariadon a bydd cwrw ayb." Diflannodd yr arferiad hwn o Gymru oddeutu 1890.[2]

Weithiau, os nad oedd dryw ar gael defnyddid aderyn y to. Arferai criw'r orymdaith fynd o dŷ i dŷ yn cynnig hela dryw, ac fel tâl am y gwaith, cânt fwyd, diod neu arian. Yn aml iawn, roedd ganddynt flwch pwrpasol ar ffurf cawell er mwyn cadw'r aderyn yn fyw. Am hwyl, cludai rhai o'r dorf bastwn, picell neu arfau eraill. Mae'r ddefod yn eitha tebyg i orymdaith y Fari Lwyd mewn sawl ffordd, gan gynnwys y defnydd o wahoddiad i dŷ, bwyd, diod, lliw, rhubannau a chlychau.

Y dryw mewn chwedloniaeth Geltaidd

golygu
 
Patrwm Celtaidd yn dangos adar wedi'u dylunio yn Llyfr Kells.

Roedd rhywbeth cyfrin iawn am adar i'r Celtiaid; fe geir darluniau niferus ohonynt, yn arbennig o adar dŵr. Ceir chwedl yn y Mabinogi am ddryw bach, sydd efallai'n brawf o bwysigrwydd yr aderyn: 'Daeth Arianrhod ar fwrdd y llong, er mwyn i Gwydion a Lleu Llaw Gyffes gael mesur ei thraed a thra’r oedd Arianrhod yno, daeth dryw bach a tharawodd y bachgen ef, rhwng gewyn ac asgwrn ei goes gyda nodwydd.' Mae hyn yn debyg iawn i un o linellau'r gân Wyddeleg (gweler isod): Do chaitheas-sa mo mhaide leis is bhriseas a chos; ('Mi deflais fy ffon a thorrais ei goes.)[3] Cofnodwyd y Mabinogi yn y 12g, ond mae'r stori ei hun yn llawer hŷn.

Mae'r traddodiad o hela'r dryw wedi parhau'n ddi-dor yn yr Iwerddon[4] ac yn Ynys Manaw.[5]. Yn Ynys Manaw, gwrthodai'r pysgotwyr fynd i'w llongau heb bluen y dryw - i ddod â lwc dda; credai pobl yr ynys hefyd fod plu'r dryw yn cadw melltithion gwrachod i ffwrdd. Mewn chwedloniaeth Gaeleg, mae adar yn gyfryngwyr rhwng y byd hwn a'r byd nesaf. Defnyddiai'r derwyddon batrwm hedfan adar i ddarogan a chred rhai fod y gair 'dreoilín' (dryw) yn gywasgiad o'r gair 'derwydd'. Yng Ngorllewin Ceri, ceir ceffyl cogio yn arwain yr orymdaith, un tebyg iawn i'r Fari Lwyd, a gwisgir y 'Wrenboys' mewn gwisgoedd o wellt. Rhan anhepgor o'r ddefod oedd claddu'r dryw a ddeuai ar ddiwedd y ddefod. Caed cân 'tafod yn y foch' yn rhan o'r hwyl, ac yn symbol o gladdu'r hen haul, cyn Alban Arthan.

Caneuon

golygu

Cofnodwyd nifer o ganeuon yn ymwneud â'r arfer o hela'r dryw mewn nifer o wledydd, gyda'r hynaf yn dyddio'n ôl i 1776. Maent ar gael yn yr ieithoedd canlynol:

  • Saesneg Sgoteg (ddim ar gael mewn Gaeleg): caneuon 'Cutty Wren' sy'n dechrau gyda'r linell: “‘Where are we going?’ says Milder to Melder...”
  • Manaweg: caneuon 'Hela'r Dryw'; un yn cychwyn gyda'r linell: “‘Hemmayd gys y keyll’, dooyrt Robin y Vobbin...” (“‘I ffwrdd â ni i'r coed,’ meddai Robin wrth Bobbin...”)
  • Gwyddeleg: caneuon 'Dryw'r Bechgyn'; sy'n cychwyn “Y dryw, y dryw, brenin yr holl adar...” Mae'r cofnod Gwyddeleg cyntaf yn dyddio'n ôl i 1696 mewn gwaith gan Aubrey: Near the same place, a party of the Protestants had been surprised sleeping by the Popish Irish, were it not for several wrens that just wakened them by dancing and pecking on the drums as the enemy were approaching. For this reason the wild Irish mortally hate these birds, to this day, calling them the Devil’s servants, and killing them wherever they catch them; they teach their children to thrust them full of thorns: you will see sometimes on holidays, a whole parish running like mad men from hedge to hedge a wren-hunting. Ceir cyfieithiad i'r Saesneg o un o'r caneuon yma, a fideo yn fama.
  • Saesneg: ceir sawl fersiwn Saesneg, nifer ohonyn nhw ar You Tube, e.e. [https://www.youtube.com/watch?v=BOpwRsowgP8 The Wren Song (1969) gan y Clancey Brothers. Ceid fersiwn Saesneg, cyfieithiad o'r Fanaweg mae'n debyg: “We hunted the wren for Robin the Bobbin...”[6] Dylid cofio, hefyd mai'r dryw a laddodd y robin goch yn y gân werin Saesneg 'Cock Robin'.
  • Cymraeg: 'Hela'r Dryw Bach' “I ble rwyt ti'n mynd, meddai Dibyn wrth Dobin?....” a phenillion eraill yn cynnwys 'Rhisiart wrth Robin'. Cofnodwyd mewn erthygl gan Llew Tegid yn “Journal of the Welsh Folk Song Society” (Cyfrol I, rhan 3, 1911, pp. 99–113). Cofnodwyd cerddoriaeth un o'r caneuon ('Y Driw Bâch,') gan Maurice Edwards, heb eiriau, a chedwir y llawysgrif ym Mhrifysgol Bangor,[7] ond ceir fersiynnau eraill gytda geiriau. Ceir hefyd sawl dawns draddodiadol ynglŷn â'r ddefod. Daw sawl fersiwn o Sir Benfro, gan gynnwys 'Cân y Dryw Bach' a gofnodwyd yn 1896 a cheir nodiadau diddorol gyda'r geiriau yn disgrifio'r ddefod / prosesiwn ac a ailgyhoeddwyd gan Phyllis Kinney.
  • Llydaweg: 'Maro al Laouenan' (Marw'r un Lawen'): ceir yma lawer o ormodiaith wrth ddisgrifio'r helfa fawr a chludo'r dryw e.e. Pevar c’har hac hi houarnet / Zo êt d’gass he blun d’ann Naonet; ('llawnwyd 4 cerbyd ffordd gyda'i blu a'u cludo i Nantes'), yn eitha tebyg i'r gân werin Gymraeg 'Y Lleuen'. Cyfieithwyd nifer o'r caneuon hyn i'r Ffrangeg a'r Saesneg, gyda rhai yn boblogaidd yn yr Unol daleithiau ("Billy Barlow", a ddaeth yn boblogaidd yn 1916.). Cofnodwyd y rhain yn 1913 gan Maurice Duhamel.[8]

Y traddodiad yn parhau

golygu

Mae'r gân Aeleg An Dreoilín yn amrywiad diddorol, sy'n ddisgrifiad o farwolaeth dryw a leddir gan gath; yn hytrach nag yn ymweneud â hela'r brenin dryw. Atgofir rhywun o Leu yn lladd y dryw bach yn y Mabinogi. Cân fodern yw hi, a ysgrifennwyd yn y 2010au gan Sean Monaghan.

Cyfeiriadau

golygu
  1. www.piereligion.org (gwefan 'Proto-Indo-European Religion '); Archifwyd 2014-12-29 yn y Peiriant Wayback adalwyd 01 Rhagfyr 2015
  2. Chwedlau Gwerin Cymru gan Robin Gwyndaf; Amgueddfa Werin Cymru 1995.
  3. Irish Gaelic Translator.com Archifwyd 2015-01-05 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 1 Ionawr 2015
  4. www.dingle-peninsula.ie; Archifwyd 2007-05-03 yn y Peiriant Wayback adalwyd 01 Ionawr 2014
  5. manxscenes.com; adalwyd 01 Ionawr 2014
  6. www.castlearcana.com; adalwyd 01 Ionawr 2014
  7. Alawon Bangor; Prifysgol Bangor; adalwyd 01 Ionawr 2015
  8. Gweler Musiques bretonnes gan Maurice Duhamel; cyhoeddwyd 1913 (pp. 113-115, rhif. 221-224)

Gweler hefyd

golygu