Hesketh Hesketh-Prichard

Fforiwr, heliwr, milwr, ac awdur o Sais oedd Hesketh Vernon Hesketh-Prichard (17 Tachwedd 187614 Mehefin 1922).

Hesketh Hesketh-Prichard
Hesketh-Prichard ym 1910.
Ganwyd17 Tachwedd 1876 Edit this on Wikidata
Jhansi Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mehefin 1922 Edit this on Wikidata
Swydd Hertford Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr Edit this on Wikidata
TadHesketh Broderick Prichard Edit this on Wikidata
PriodLady Elizabeth Grimston Edit this on Wikidata
PlantMichael Hesketh-Prichard, Diana Hesketh-Prichard, Alfgar Cecil Giles Hesketh-Prichard Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auHampshire County Cricket Club, London County Cricket Club, Marylebone Cricket Club Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganed ef yn Jhansi yn Gwalior, un o Daleithiau Tywysogaidd y Raj Prydeinig, a leolir heddiw yn Uttar Pradesh yng ngogledd India. Roedd yn fab i'r Lefftenant Hesketh Brodrick Prichard (1851–1876) o 25ain Gatrawd Cyffinwyr y Brenin, a fu farw chwech wythnos cyn ei enedigaeth, a Katherine O'Brien, Ryall gynt (1852–1935). Fe'i dygwyd i Brydain yn faban, a mynychodd ysgolion paratoi yn Gorey ar ynys Jersey ac yn Rugby a Nuneaton yn Swydd Warwick. Yn Nuneaton enillodd ysgoloriaeth i Goleg Fettes ar gyrion Caeredin. Ei fwriad oedd i ddilyn olion ei dad ac ymuno â'r Fyddin Brydeinig, ond fe'i rhwystrwyd gan wendid ar ei galon. Er gwaethaf hyn, roedd yn llanc tal (6'4") ac athletaidd, ac ymddisgleiriodd mewn chwaraeon.[1] Wedi'r ysgol, astudiodd y gyfraith yn breifat yn Horsham, Sussex, er na fyddai erioed yn gweithio'n gyfreithiwr. Trodd ei sylw yn hytrach at anturio: fforio, hela, a saethu, ac ysgrifennu am ei deithiau, yn ogystal ag ysgrifennu straeon byrion.

Gyrfa lenyddol

golygu

O 1897 ymlaen cyfrannai Hesketh-Prichard yn rheolaidd i'r Cornhill Magazine, a magodd gyfeillgarwch agos â'r golygydd Reginald Smith. Cyd-ysgrifennai nifer o straeon gyda'i fam Katherine, weithiau dan y llysenwau E. ac H. Heron. Ymhlith eu cydweithiau mae'r gyfres am glecwyr cleddyfau (swashbucklers) a gyhoeddwyd yn y Badminton Magazine o 1898 ac a gesglir yn y gyfrol The Chronicles of Don Q (1904), a 12 o straeon ysbrydion a gyhoeddwyd yn Pearson's Monthly Magazine ac ar ffurf llyfr ym 1899.

Gwasanaethodd Hesketh-Prichard yn gadeirydd Cymdeithas yr Awduron ym 1913.[1]

Teithiau

golygu

Ysgrifennai Hesketh-Prichard ei lenyddiaeth teithio gynnar ar gyfer Arthur Pearson, perchennog y Daily Express. Ymwelodd â Haiti ar gyfer ei gyfrol Where Black Rules White: a Journey Across and About Hayti (1900) a Phatagonia ar gyfer Through the Heart of Patagonia (1902). Teithiodd hefyd yn fynych ar deithiau saethu ac hela anifeiliaid mawr, gan gynnwys i Newfoundland a Labrador i hela caribŵ, i Norwy i hela cawrgarw, ac i Sardinia i hela mwfflon.[1]

Ymgyrchodd Hesketh-Prichard dros ddeddf i warchod morloi llwydion yn Ynysoedd Allanol Heledd drwy wahardd lladd morloi yn ystod y tymor paru, a thros deddfwriaeth i wahardd mewnforio plu a chrwyn adar ar gyfer y diwydiant ffasiwn.[1]

Criced

golygu

Chwaraeodd Hesketh-Prichard fel amatur i Glwb Criced Hampshire o 1900 i 1913. Enillodd enw fel bowliwr chwim, a chafodd ei ddewis am dair mlynedd yn olynol (1903–5) i'r amaturiaid yn yr ornest enwog rhwng y Bonheddwyr a'r Chwaraewyr.[1]

Gyrfa filwrol

golygu

Yn sgil cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914, cafodd Hesketh-Prichard ei dderbyn i'r Fyddin Brydeinig ar gomisiwn arbennig fel is-swyddog y wasg i'r staff milwrol. Ymwelodd â Ffrynt y Gorllewin am y tro cyntaf ym Mawrth 1915, a sylwodd ar oruchafiaeth y saethwyr Almaenig. Plediodd dros wella sgiliau saethu cudd y Fyddin Brydeinig a ffurfio adrannau cêl-saethu. Erbyn canol y rhyfel, llwyddwyd i herio goruchafiaeth y saethwyr Almaenig ar faes y gad.

Gwobrwywyd i Hesketh-Prichard y Groes Filwrol yn Hydref 1916 a'r Urdd Gwasanaeth Nodedig (DSO), a chafodd ei enwi mewn adroddiadau o'r ffrynt ddwywaith. Fe'i dyrchafwyd i reng uwchgapten yn Nhachwedd 1916.[1]

Bywyd personol a diwedd ei oes

golygu

Priododd Hesketh-Prichard ag Elizabeth Grimston (1885–1975), merch James Walter Grimston, 3ydd Iarll Verulam, ar 1 Mehefin 1908. Cawsant un ferch a dau fab.[1]

Er gwaethaf ei afiechyd wedi'r rhyfel, llwyddodd Hesketh-Prichard i ysgrifennu llyfr am ei brofiadau ar Ffrynt y Gorllewin, Sniping in France (1920). Bu farw Hesketh-Prichard o sepsis yn Nhŷ Gorhambury, ger St Albans, Swydd Hertford, yn 45 oed.

Cyfeiriadau

golygu