Hissène Habré
Gwleidydd a chadlywydd o Tsiad oedd Hissène Habré (13 Medi 1942 – 24 Awst 2021) a oedd yn Arlywydd Tsiad o 1982 i 1990.
Hissène Habré | |
---|---|
Ganwyd | 13 Awst 1942 Faya-Largeau |
Bu farw | 24 Awst 2021 o COVID-19 Dakar |
Dinasyddiaeth | Tsiad |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
Swydd | Prif Weinidog Tsiad, Arlywydd Tsiad |
Plaid Wleidyddol | FROLINAT, National Union for Independence and Revolution, Armed Forces of the North |
Gwobr/au | National Order of Chad |
Bywyd cynnar (1942–70au)
golyguGaned Hissène Habré ar 13 Awst 1942 i deulu o fugeiliaid o'r bobl Toubou yn Faya-Largeau, yng ngogledd Tiriogaeth Tsiad, a oedd ar y pryd yn rhan o ffederasiwn ymerodrol Ffrainc yn Affrica'r Cyhydedd. Yn ystod ei arddegau cafodd ei gefnogi gan swyddog milwrol Ffrengig i dderbyn ysgoloriaeth i astudio gwyddor gwleidyddiaeth yn Sciences Po ym Mharis. Dychwelodd Habré i Tsiad, a oedd bellach yn weriniaeth annibynnol, ym 1971 a gweithiodd yn y gwasanaeth sifil.
Gwrthryfela (1970au–82)
golyguAeth Habré i Tripoli, prifddinas Libia, i drafod ag arweinwyr Front de Liberation Nationale du Tchad (Frolinat), y gwrthryfelwyr o ogledd Tsiad a oedd yn gwrthwynebu gwŷr y de a oedd yn rheoli'r llywodraeth yn N'Djamena. Ymunodd Habré â'r gwrthryfel, a chafodd ei ddyrchafu'n gadlywydd yn Frolinat. Cafodd estheteg Habré ei hysbrydoli gan chwyldroadwyr Ciwba, a fe wisgai gap sgwâr milwr a sbectol haul Ray-Ban wrth iddo frwydro yn y rhyfel cartref. Ym 1974 tynnodd Habre sylw'r byd am herwgipio Almaenwr a dau Ffrancwr mewn cyrch ar dref ym Mynyddoedd Tibesti. Cafodd un ohonynt, yr ethnolegydd ac archaeolegydd Ffrengig Françoise Claustre, ei charcharu mewn ogofâu yn yr anial am 33 mis, a chipiwyd hefyd ei gŵr, Pierre, wedi iddo geisio canfod ei wraig. Gwrthododd llywodraeth Ffrainc dalu pridwerth amdanynt, ac o'r diwedd rhyddhawyd y Claustres o ganlyniad i ymyrraeth Muammar al-Gaddafi, arweinydd Libia, ym 1977. Bu rhwyg rhwng Habré ac arweinwyr eraill Frolinat oherwydd yr helynt, ac felly sefydlodd Habre fyddin o wrthryfelwyr ei hun, Forces Armées du Nord (FAN), ym 1976.
Yn sgil trafodaethau i ddod â'r rhyfel cartref i ben, penodwyd Habré yn brif weinidog ac yn is-arlywydd y wlad ym 1978, mewn cytundeb i rannu grym â'r Arlywydd Félix Malloum, ond chwalodd y llywodraeth o fewn ychydig o fisoedd. Penodwyd Habré yn weinidog amddiffyn mewn llywodraeth undod newydd ym 1977, ond cafodd ei alltudio i Swdan wrth i'r rhyfel cartref ailgynnau.
Arlywyddiaeth (1982–90)
golyguLlwyddodd Habré i gipio N'Djamena ym 1982, gyda chymorth o Unol Daleithiau America a oedd yn gobeithio am wrthsefyll grym Gaddafi yng Ngogledd Affrica. Trodd Habré a Gaddafi yn elynion, a danfonodd Ffrainc filwyr, cerbydau arfogedig, ac awyrennau ymladd i gynorthwyo'r Tsiadiaid wrth wrthsefyll goresgyniadau gan Libia hyd at 1987. Y flwyddyn honno, cafodd ei wahodd i'r Tŷ Gwyn gan yr Arlywydd Ronald Reagan yn sgil buddugoliaeth Tsiad yn y Rhyfel Toyota yn erbyn Libia.
Derbyniodd Habré hefyd arian parod oddi ar y Ffrancod ar gyfer ymgyrchoedd yn erbyn gwrthryfelwyr yn ei wlad. Oddi ar yr Americanwyr derbyniodd Habré arfau milwrol, hyfforddwyr ar gyfer ei heddlu cudd, y Direction de la Documentation et de la Sécurité (DDS), ac arian am asiantaeth cudd-wybodaeth i erlid ei elynion. Yn ystod arlywyddiaeth Habré, mae'n bosib i 40,000 o bobl gael eu lladd gan y lluoedd diogelwch, yn bennaf y DDS. Bu artaith, gan gynnwys dŵr-fyrddio a thrais rhywiol, yn gyffredin iawn mewn dalfeydd y DDS. Gorfodwyd i sawl carcharor roi ei geg o amgylch y bibell fwg ar gefn car. Bu'r Arlywydd Habré yn aml yn rhoi cyfarwyddiadau i'r arteithwyr ar ei set radio symud-a-siarad, ac weithiau yn arteithio carcharorion gyda dwylo'i hunan. Lansiodd sawl cyrch yn erbyn grwpiau ethnig eraill, gan gynnwys y Sara ym 1984, y Hadjerai ym 1987, a'r Zaghawa ym 1989–90.[1]
Alltudiaeth (1990–2013)
golyguCafodd Habré ei ddymchwel ym 1990 gan wrthryfelwyr dan arweiniad Idriss Déby. Aeth yn alltud i Senegal, wedi ysgrifennu siec am yr holl arian yn y trysorlys. Credir iddo gefnogi sawl gwrthryfel yn erbyn llywodraeth Déby tra'r oedd yn alltud.
Cafodd ei lochesu gan lywodraeth Senegal nes i lys yng Ngwlad Belg cyhoeddi gwarant i'w arestio yn 2005. Dyfarnodd Llys Cyfiawnder Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig fod yn rhai i Senegal naill ai rhoi Habré ar brawf neu ei estraddodi i Wlad Belg. O'r diwedd, cytunodd Senegal a'r Undeb Affricanaidd i sefydlu llys arbennig yn Dakar, y Siambrau Affricanaidd Arbennig, i erlyn troseddau rhyngwladol yn Tsiad o gyfnod arlywyddiaeth Habré. Cafodd Habré ei arestio am droseddau yn erbyn dynoliaeth yn 2013.[2]
Achosion llys (2013–16)
golyguAchos llys Habré oedd y tro cyntaf i gyn-arweinydd yn Affrica gael ei roi ar brawf gan lys mewn gwlad Affricanaidd arall.[1] Ym Mai 2016 fe'i cafwyd yn euog o droseddau yn erbyn dynoliaeth, dienyddiadau diannod, artaith, a threisio, a'i dedfrydu i garchar am oes.
Diwedd ei oes (2016–21)
golyguBu farw Hissène Habré yn y carchar yn Dakar, ar 24 Awst 2021, o haint COVID-19.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) "Hissène Habré, brutal former President of Chad found guilty of crimes against humanity – obituary", The Daily Telegraph (24 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 25 Awst 2021.
- ↑ (Saesneg) Strange, Hannah (30 Mehefin 2013). Chad ex-dictator Hissène Habré arrested for crimes against humanity after 23-year campaign. The Daily Telegraph. Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2013.