House of Cards (Netflix)
Mae House of Cards yn gyfres we-deledu wleidyddol Americanaidd a ddatblygwyd a chynhyrchir gan Beau Willimon. Mae'n addasiad o'r mini-gyfres BBC a seiliwyd ar y nofel gan Michael Dobbs. Ymddangoswyd y gyfres gyntaf gyfan, sy'n cynnwys 13 pennod, am y tro cyntaf ar y gwasanaeth ffrydio Netflix ar 1 Chwefror, 2013. Ymddangoswyd ail gyfres o 13 pennod am y tro cyntaf ar 14 Chwefror, 2014, ac ymddangoswyd y drydedd gyfres am y tro cyntaf ar 27 Chwefror, 2015. Adnewyddyd House of Cards ar gyfer pedwaredd gyfres, a fe'i hymddangoswyd am y tro cyntaf ar 4 Mawrth, 2016. Ym mis Ionawr 2016, cyhoeddodd Neflix bod y gyfres wedi cael ei hadnewyddu ar gyfer pumed cyfres a ryddhawyd yn 2017. Cyhoeddwyd y byddai Willimon yn gadael ei swydd fel rhedwraig ar y rhaglen ar ddiwedd y bedwaredd gyfres.[1]
House of Cards | |
---|---|
Genre | Drama wleidyddol |
Crëwyd gan | Beau Willimon Seiliwyd ar: House of Cards gan Michael Dobbs Seiliwyd ar: House of Cards gan Andrew Davies |
Serennu | Kevin Spacey Robin Wright Kate Mara Corey Stoll Michael Kelly Sakina Jaffrey Kristien Connolly Sebastian Arcelus Michel Gill Nathan Darrow Rachel Brosnahan Constance Zimmer Mahershala Ali Elizabeth Norment Sandrine Holt Jayne Atkinson Molly Parker Gerald McRaney Jimmi Simpson Elizabeth Marvel Derek Cecil Mozhan Marno Paul Sparks Neve Campbell Joel Kinnaman |
Cyfansoddwr y thema | Jeff Beal |
Gwlad/gwladwriaeth | Yr Unol Daleithiau |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 5 |
Nifer penodau | 65 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 43-59 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | Netflix |
Rhediad cyntaf yn | 1 Chwefror, 2013 - presennol |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Ar 30 Hydref 2017, cyhoeddodd Netflix mai'r gyfres derfynol y byddai'r chweched cyfres, yn dilyn honiadau o gamymddwyn rhywiol yn erbyn Spacey. Ar 3 Tachwedd 2017, cyhoeddodd Netflix bod Spacey wedi cael ei ddiswyddo o'r rhaglen. Ar 4 Rhagyfr 2017, cyhoeddodd Netflix y cynhyrchir chweched cyfres gydag wyth pennod yn gynnar yn 2018 heb Spacey. Rhyddheir y gyfres derfynol yn nes ymlaen yn 2018.
Plot
golyguLleolir yn y presennol yn Washington, D.C., dilyna House of Cards stori Frank Underwood (Kevin Spacey), Democrat o'r 5ed ardal gyngresol De Carolina a Chwip y Blaid Fwyafrifol yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr. Ar ôl iddo gael ei wrthod ar gyfer swydd fel Ysgrifennydd Gwladol, mae'n dechrau cynllwyno i gael swydd well, gyda chymorth ei wraig, Claire Underwood (Robin Wright). Delia'r gyfres gyda'r themâu o bragmatiaeth annhosturiol,[2] defnyddio pobl, a phŵer.[3]
Cast
golyguDengys y lluniau isod rhai aelodau o'r prif gast o gyfresi 1-4.
-
Kevin Spacey
"Frank Underwood" -
Robin Wright
"Claire Underwood" -
Kate Mara
"Zoe Barnes" -
Corey Stoll
"Peter Russo" -
Michael Kelly
"Doug Stamper" -
Michel Gill
"Garrett Walker" -
Gerald McRaney
"Raymond Tusk" -
Joel Kinnaman
"Will Conway" -
Boris McGiver
"Tom Hammerschmidt" -
Jayne Atkinson
"Catherine Durant"
Cymeriadau a phenodau
golyguDengys y tabl isod actorion House of Cards, enwau eu cymeriadau, os ydynt wedi bod yn 'brif' aelod o'r cast neu'n aelod 'gwadd' a'r nifer o benodau y maent wedi ymddangos ynddynt.
House of Cards | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Actor | Cymeriad | 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | 6 | Nifer o benodau | Gwybodaeth bellach |
Kevin Spacey | Francis Underwood | Prif | Prif | Prif | Prif | Prif | 52 | Gŵr i Claire Chwip yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr (cyfres 1) Is-arlywydd yr Unol Daleithiau (cyfres 2) 46ain Arlywydd yr Unol Daleithiau (cyfres 3-4) | |
Robin Wright | Claire Underwood | Prif | Prif | Prif | Prif | style="background-color:#99FF99" | 52 | Gwraig i Francis Pennaeth y 'Fenter Ddŵr Glan' (cyfres 1) Is-Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau (cyfres 2) Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau (cyfres 3-4) | |
Kate Mara | Zoe Barnes | Prif | Gwadd | Gwadd | 13 | Gohebydd The Washington Herald ac wedyn Slugline. | |||
Corey Stoll | Peter Russo | Prif | Gwadd | 12 | Cyngreswr Democrataidd | ||||
Michael Kelly | Doug Stamper | Prif | Prif | Prif | Prif | 51 | Cyfrinachddyn cyffredinol i Francis Pennaeth Staff y Tŷ Gwyn i'r Arlywydd Underwood | ||
Sakina Jaffrey | Linda Vasquez | Prif | Prif | 18 | Pennaeth Staff y Tŷ Gwyn i'r Arlywydd Walker | ||||
Kristen Connolly | Christina Gallagher | Prif | Prif | 17 | Cynorthwy-ydd personol i'r Arlywydd Walker | ||||
Sebastian Arcelus | Lucas Goodwin | Prif | Prif | Gwadd | 17 | Golygydd The Washington Herald | |||
Boris McGiver | Tom Hammerschmidt | Prif | Gwadd | Prif | 14 | Prif olygydd The Washington Herald | |||
Constance Zimmer | Janine Skorsky | Prif | Prif | Gwadd | 13 | Gohebydd The Washington Herald | |||
Mahershala Ali | Remy Danton | Prif | Prif | Prif | Prif | 33 | Cyfreithiwr a lobïwr (cyfres 1-2) Pennaeth Staff y Tŷ Gwyn i'r Arlywydd Underwood (cyfres 3) | ||
Sandrine Holt | Gillian Cole | Prif | Gwadd | 10 | Arweinydd y sefydliad 'World Well' | ||||
Michel Gill | Garrett Walker | Prif | Prif | Gwadd | 24 | Cyn-lywodraethwr Colorado 45ain Arlywydd yr Unol Daleithiau | |||
Gerald McRaney | Raymond Tusk | Prif | Prif | Gwadd | 15 | Biliwnydd a gŵr busnes | |||
Nathan Darrow | Edward Meechum | Prif | Prif | Prif | Gwadd | 35 | Gwarchodwr a gyrrwr i Francis a Claire | ||
Dan Ziskie | Jim Matthews | Prif | 4 | Cyn-lywydd Pennsylvania Is-arlywydd yr Unol Daleithiau | |||||
Ben Daniels | Adam Galloway | Prif | Gwadd | 7 | |||||
Jayne Atkinson | Catherine Durant | Gwadd | Gwadd | Prif | Prif | 23 | Seneddwraig Ddemocrataidd Louisiana | ||
Rachel Brosanhan | Rachel Posner | Gwadd | Prif | Gwadd | Prif | 19 | Putain a ddefnyddiwyd gan Francis a Doug | ||
Reg E. Cathey | Freddy | Gwadd | Gwadd | Gwadd | Gwadd | 15 | Cyfrinachddyn a ffrind go iawn i Francis Perchennog y tŷ bwyta 'Freddy's BBQ' | ||
Molly Parker | Jackie Sharp | Prif | Prif | Prif | 25 | Cyngeswraig Ddemocrataidd Califfornia Dirprwy Chwip y Blaid Fwyafrifol (cyfres 2) Chwip y Blaid Fwyafrifol (cyfres 3) | |||
Jimmi Simpson | Gavin Orsay | Prif | Prif | 17 | Haciwr cyfrifiaduron | ||||
Derek Cecil | Seth Grayson | Gwadd | Prif | Prif | 30 | Ysgrifennydd y Wasg i'r Is-arlywydd Underwood | |||
Mozhan Marnò | Ayla Sayyad | Prif | Gwadd | 11 | Gohebydd Wall Street Telegraph | ||||
Elizabeth Marvel | Heather Dunbar | Gwadd | Prif | Prif | 22 | Cyfreithwraig Gyffredinol yr Unol Daleithiau (cyfres 2) Ceisio am yr enwebiad Democrataidd ar gyfer Arlywydd (cyfres 3-4) | |||
Kate Lyn Sheil | Lisa Williams | Prif | Gwadd | 9 | |||||
Lars Mikkelsen | Viktor Petrov | Prif | Prif | 7 | Arlywydd Rwsia | ||||
Kim Dickens | Kate Baldwin | Prif | Gwadd | 8 | Prif ohebydd gwleidyddol y Wall Street Telegraph | ||||
Paul Sparks | Thomas Yates | Prif | Prif | 15 | Awdur llyfr am y rhaglen swyddi 'America Works' | ||||
Neve Campbell | LeAnn Harvey | Prif | 13 | Ymgynghorydd gwleidyddol | |||||
Joel Kinnaman | Will Conway | Prif | 8 | Gŵr i Hannah Llywydd Efrog Newydd Dewisddyn Gweriniaethol ar gyfer Arlywyddd | |||||
Dominique McElligott | Hannah Conway | Prif | 7 | Gwraig i Will | |||||
Colm Feore | General Brockhart | Prif | 5 | ||||||
Ellen Burstyn | Elizabeth Hale | Prif | 5 |
Gwobrau ac enwebiadau
golyguAr gyfer ei chyfres gyntaf, derbyniodd House of Cards naw enwebiad Gwobr Primetime Emmy, gan gynnwys Cyfres Ddrama Ragorol, Prif Actor Rhagorol i Spacey, Prif Actores Ragorol i Wright, a Cyfarwyddo Rhagorol i David Fincher. Hon yw'r gyfres wreiddiol ar-lein-yn-unig i dderbyn enwebiadau Emmy sylweddol.[4] Mae'r gyfres hefyd wedi derbyn pedwar enwebiad Gwobr Glôb Aur ac enillodd Wright yr Actores Orau - Cyfres Deledu Ddrama, y wobr actio sylweddol gyntaf ar gyfer cyfres we-deledu ar-lein-yn-unig. Ar gyfer ei hail gyfres, derbyniodd 13 enwebiad Gwobr Primetime Emmy, gan gynnwys Prif Actor Rhagorol (Spacey), Prif Actores Orau (Wright), Cyfarwyddo Rhagorol (Carl Franklin), Cyfres Ddrama Ragorol, ac Ysgrifennu Rhagorol (Willimon).[5] Derbyniodd yr ail gyfres dri enwebiad Gwobr Glôb Aur, gyda Spacey yn ennill y Wobr ar gyfer yr Actor Gorau - Cyfres Deledu Ddrama.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Schneider, Michael (February 13, 2014). "House of Cards Creator Beau Willimon on the D.C. Thriller's Second Season". TV Guide. Cyrchwyd October 2, 2015.
- ↑ Graves, Lucia (February 19, 2014). "Frank Underwood and a Brief History of Ruthless Pragmatism". National Journal. Cyrchwyd July 30, 2014.
- ↑ Cronk, Jordan (April 29, 2013). "'Doing bad for the greater good': Kevin Spacey, Beau Willimon and Co. Look Back at 'House of Cards' Season One". Indiewire. Cyrchwyd July 30, 2014.
- ↑ Stelter, Brian (July 18, 2013). "Netflix Does Well in 2013 Primetime Emmy Nominations". The New York Times. Cyrchwyd July 18, 2013.
- ↑ Lowry, Brian (July 10, 2014). "2014 Emmy Awards: 'Game of Thrones,' 'Fargo' Lead Nominations". Variety. Cyrchwyd July 30, 2014.