Drama gomedi dair-act Gymreig, ond yn yr iaith Saesneg, yw The Druid's Rest gan y dramodydd a'r llenor, Emlyn Williams. Cyfansoddwyd a llwyfannwyd y ddrama'n wreiddiol yn Theatr y Royal Court, Lerpwl, ym 1943. Y dramodydd ei hun oedd yn cyfarwyddo a Richard Burton yn serenu yn ei brif ran cyntaf ar lwyfan. Cyhoeddwyd y ddrama gan William Heinemann, Llundain ym 1944. Lleolir y ddrama mewn tafarn yng Nghymru o'r enw The Druid's Rest.[1]

The Druid's Rest
AwdurEmlyn Williams
GwladCymru
IaithSaesneg
PwncDramâu Cymreig

Disgrifiad byr

golygu

Mewn tafarn fechan ym mhentref Ton-y-maes, mae'r trigolion yn paratoi i gynnal Eisteddfod, tra bod mab ieuengaf y tafarnwr yn darllen llyfrau am lofruddiaeth a straeon dirgel. Ond daw cyniweiriwr dirgel i ymweld â'r dafarn, gan ffugio bod yn fonheddwr o Sais enigmatig.

Cefndir

golygu

Ym mis Awst 1943, talodd Emlyn Williams am hysbyseb yn y Western Mail yn chwilio am actorion ifanc ar gyfer ei gomedi newydd o'r enw 'The Druid's Rest'. Ei fwriad oedd i lwyfannu'r ddrama yn Llundain yn Hydref 1944. O fewn yr hysbyseb, nododd yn benodol ei fod yn chwilio am fachgen ifanc oedd â'r gallu i siarad Cymraeg, ar gyfer y brif ran:

"Mr. Emlyn Williams is looking for several Welsh actors and actresses for small parts in his new play which will open in the autumn. Types wanted vary from young people to character actors and actresses. A Welsh boy actor is also required. Boy applicants must be fourteen years by December 1st, but are expected to look younger. Those who think they can fill these roles should write within seven days to Mr. Williams at 15 Pelham Crescent, London SW7, giving age, qualifications and enclosing a recent photograph".[2]

Un o'r rhai a welodd yr hysbyseb oedd Philip Burton, a gynigiodd y llanc ifanc oedd dan ei ofal fel gwarcheidwad ('ward') - Richard Jenkins. Wedi trefnu cyfweliad gyda'r dramodydd yng Nghaerdydd, a chael cynnig rhan 'Glan - y mab hynaf', dyna pryd y camodd yr actor Richard Burton ar y llwyfan am y tro cyntaf ar yr 22 Tachwedd 1943. Yn ddeunaw oed, cychwynodd ei 'yrfa yn y theatr, gan deithio'r cynhyrchiad drwy'r wlad. Ar ôl y daith, agorodd y cynhyrchiad yn swyddogol yn Theatr yr Haymarket, Llundain.

Mae'r ddrama wedi'i selio ar blentyndod y dramodydd yn Sir y Fflint ble roedd ei rieni'n cadw tafarn o'r enw The White Lion.

Cymeriadau

golygu
  • Kate Edwards (née Finch) - gwraig Job Edwards
  • Glan - eu mab hynaf
  • Tommos - y mab ieuengaf
  • Sarah Jane Jehovah - nith Job
  • Job Edwards - perchennog The Druid's Rest
  • Issmal Hughes De'r Amerig - crwydryn
  • Zachariah yr heddwas - y cwnstabl lleol
  • Cyniweiriwr dirgel

Cynyrchiadau nodedig

golygu
 
The Druid's Rest 1944

1940au

golygu

Cynhyrchiad cynta'r ddrama yn y Royal Court, Lerpwl ym mis Tachwedd 1943. Emlyn Williams ei hun oedd yn cyfarwyddo. Dyma gynhyrchiad proffesiynol cyntaf Richard Burton.[2]

  • Kate Edwards (née Finch) - Gladys Hensson
  • Glan - Richard Burton
  • Tommos - Brynmor Thomas
  • Sarah Jane Jehovah - Nuna Davey
  • Job Edwards - Roddy Hughes
  • Issmal Hughes De'r Amerig - Neil Porter
  • Zachariah yr heddwas - Lyn Evans
  • Cyniweirwr dirgel - Kynaston Reeves

1990au

golygu
 
Rhaglen The Druid's Rest Cwmni Theatr Gwynedd

Cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd yn Theatr Gwynedd yn unig, dros yr Haf 1992. Cyfarwyddwr Graham Laker; cynllunydd John Jenkins; cynllunydd goleuo Tony Bailey Hughes; cynllunydd sain Siôn Havard Gregory; cynllun y poster Jac Jones; cast:

 
The Druid's Rest - Finborough (2009)

2000au

golygu

Cynhyrchiad Theatr Y Finborough yn 2009.[3] Y cynhyrchiad cyntaf yn Llundain ers 60 mlynedd. Cyfarwyddwr David Cottis; cynllunydd Fiona Parker; goleuo Ben Turnbull; cast:

  • Kate Edwards (née Finch) - Anna Lindup
  • Glan - Alyn Gwyndaf
  • Tommos - Joshua McCord
  • Sarah Jane Jehovah - Rachel Isaac
  • Job Edwards - David Broughton-Davies,
  • Issmal Hughes De'r Amerig - Michael Norledge,
  • Zachariah yr heddwas - Dafydd Wyn Roberts
  • Cyniweirwr dirgel - Bennet Thorpe.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rhaglen Cwmni Theatr Gwynedd o The Druid's Rest. 1992.
  2. 2.0 2.1 "Richard Burton In The Theatre". The Richard Burton Online Museum (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-28.
  3. "The Druid's Rest – Finborough Theatre" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-28.