Hwngari
Gweriniaeth dirgaeëdig yng nghanolbarth Ewrop yw Gweriniaeth Hwngari neu Hwngari. Mae Slofacia i'r gogledd; yr Wcráin i'r gogledd-ddwyrain; Rwmania i'r dwyrain; Serbia, Croatia a Slofenia i'r de; ac Awstria i'r gorllewin. Mae'r Hwngariaid yn galw eu hunain yn Magyar (Magyarország).
Magyar Köztársaság | |
Arwyddair | Mwy na'r Disgwyl |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad, gwladwriaeth olynol |
Enwyd ar ôl | Onogurs, Hungarians |
Prifddinas | Budapest |
Poblogaeth | 9,599,744 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Isten, áldd meg a magyart |
Pennaeth llywodraeth | Viktor Orbán |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Hwngareg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd, Canolbarth Ewrop |
Arwynebedd | 93,011.4 ±0.01 km² |
Gerllaw | Neusiedl Lake, Afon Donaw, Ipoly, Tisza, Afon Drava, Llyn Balaton, Rába |
Yn ffinio gyda | Slofacia, Wcráin, Rwmania, Serbia, Croatia, Slofenia, Awstria |
Cyfesurynnau | 47°N 19°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Hwngari |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol Hwngari |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Hwngari |
Pennaeth y wladwriaeth | Tamás Sulyok |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Hwngari |
Pennaeth y Llywodraeth | Viktor Orbán |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $181,848 million |
CMC y pen | $37,128 |
Arian | forint |
Canran y diwaith | 8 ±1 canran, 4.2 canran, 4.2 canran |
Cyfartaledd plant | 1.35 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.846 |
Hanes
golygu- Prif: Hanes Hwngari
Llwyth y Magyar a ymsefydlodd Hwngari fel gwlad a chenedl yn y 9g.
Yn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd hi'n rhan o'r Ymerodraeth Awstro-Hwngariaidd ac yn gynghreiriad i'r Almaen. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ymwahanodd Awstria a Hwngari i fod yn wledydd annibynnol. Yn 1919 ffurfiwyd Gweriniaeth Sofietaidd Hwngari, a'i harweinydd oedd Béla Kun. Ond byr fu ei pharhad oherwydd trechodd lluoedd arfog Rwmania y weriniaeth Sofietaidd yn 1919 a newidiwyd y llywodraeth.
Yn yr Ail Ryfel Byd roedd Hwngari yn gynghreiriad i'r Almaen unwaith yn rhagor a'r Natsiaid a reolai'r wlad.
Ar ôl y rhyfel collodd Hwngari y diriogaeth ychwanegol a roddwyd iddi gan yr Almaen. Yn 1949 troes Hwngari yn weriniaeth "ddemocrataidd" gyda llywodraeth gomiwnyddol. Yn 1956, bu gwrthryfel mawr yn erbyn comiwnyddiaeth ond ymyrodd yr Undeb Sofietaidd gyda tanciau. Roedd hi dan gomiwnyddiaeth rhwng 1945–1989. Roedd Hwngari yn aelod o Gytundeb Warsaw o'r 1950au hyd y 1990au.
Gwleidyddiaeth Hwngari heddiw
golyguHeddiw mae hi'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd a phleidleisiodd o blaid Cyfansoddiad Ewrop yn 2005/2006. Yn 2010 etholwyd Viktor Orbán yn brif weinidog.
Ym mis Mehefin 2018, newidiodd Senedd Hwngari gyfansoddiad y wlad i'w gwneud hi'n anoddach i fewnfudwyr fynd i mewn.[1] Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, protestiodd miloedd o bobol yn Budapest yn erbyn polisïau llywodraeth genedlaetholgar Hwngari.[2]
Gwleidyddiaeth
golygu- Prif: Gwleidyddiaeth Hwngari
Arlywydd Hwngari yw arweinydd y wlad a'r Prif Weinidog sy'n arwain Senedd Hwngari ym Mwdapest.
Siroedd Hwngari
golygu
Siroedd Hwngari a'u prifddinasoedd
|
Siroedd Trefol
|
Daearyddiaeth
golyguMae Hwngari yn wastad gan bennaf. Mae'r Afon Donaw yn ffurfio rhan o ffin gogledd-orllewinol Hwngari gyda Slofacia, ac yna'n llifo i'r de drwy Budapest, gan rannu Hwngari yn ddau ranbarth cyffredinol. Ym mis Hydref 2001 cafodd pont olaf y Donaw a ddinistriwyd yn yr Ail Ryfel Byd ei hailagor gan Brif Weinidog Slofacia a Phrif Weinidog Hwngari a'r Comisiynydd Ewropeaidd Günter Verheugen. Cydariannwyd ailgodi'r bont gan raglen Phare yr UE gyda €10 miliwn. Budapest, y ddinas fwyaf yw'r brifddinas a hefyd yn ganolfan ddiwylliannol, economaidd a ddiwydiannol Hwngari. Mae'r wlad yn llawn trefi baroc hardd, adeiladau canoloesol, ffynhonnau thermol a thros fil o lynnoedd. Mae gan Hwngari aeafau oer iawn a hafau cynnes iawn, gyda gwanwyn a hydref mwyn.
Amgylchedd
golyguParc Cenedlaethol Hortobágy yw mecca adara Ewrop a'r lle i ganfod Ceiliog y Waun – un o adar mwyaf y byd.
Demograffeg
golyguProffil ethnig: Hwngariaid (96.6%) – 13 lleiafrif a gydnabyddir ac a gofrestrwyd yn swyddogol: Almaenwyr, Sipsiwn, Croatiaid, Slofaciaid, Rwmaniaid, Bwlgariaid, Groegwyr, Pwyliaid, Armeniaid, Rutheniaid, Serbiaid, Wcrainiaid, Slofeniaid – a ddiogelir yn arbennig yn y Cyfansoddiad – fel cydran o wladwriaeth Hwngari; hawl i gynrychiolaeth yn y Senedd wedi ei goleddu yn y Cyfansoddiad ac yn Neddf Lleiafrifoedd 1993.
Diwylliant
golyguHwngari oedd mamwlad Franz Liszt, Béla Bartók a Zoltán Kodály, a ysbrydolwyd gan y traddodiadau gwerin cenedlaethol cyfoethog. Yn y 19g cynhyrchodd Hwngari ei gyfansoddwr brodorol pwysig cyntaf, Ferenc Erkel, a gyfansoddodd anthem genedlaethol Hwngari a'r opera Hwngaraidd gyntaf. Mae Hwngari yn wlad gerddorol iawn; mae ei chwaraewyr fiolin a phiano yn adnabyddus yn fyd-eang. Mae gan Hwngari mwy na 5000 o lyfrgelloedd cyhoeddus a mwy na 100 o amgueddfeydd cyhoeddus ledled y wlad. Cenedl bron di-Saesneg yw Hwngari o hyd, a di-Almaeneg. Dan y Sofietwyr roedd hi'n fraint i bob plentyn methu ei gwrs Rwsieg yn llwyr.
Bwyd a diod
golyguMae danteithion lleol yn cynnwys halaszle (cawl pysgod), goulash, jokai bableves (cawl ffa) a hideg gyumolcsleves (cawl ceirios oer). Cynhyrchir cwrw da a brandi cryf yn y wlad.
Hwngari hoyw
golyguMae gan Hwngari sin hoyw cynhenid, gellir clywed actiau drag ar lwyfan yn canu a pherfformio yn Hwngareg yn lle y trosleisio caneuon Saesneg a geir yn aml dros Ewrop. Sin hoyw ar gyfer Hwngariaid ydyw, dim fel ym Mhrag lle mae'r diwidiant rhyw yn dominyddu.
Enwogion
golyguDyn o Hwngari oedd László Bíró, dyfeisydd yr ysgrifbin.
Dolenni allanol
golygu- (Hwngareg) Llywodraeth Hwngari
- ↑ "Tynhau rheolau ffoaduriaid yn Hwngari". Golwg360. 20 Mehefin 2018. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2019.
- ↑ "Protestiadau yn erbyn llywodraeth genedlaetholgar Hwngari". Golwg360. 22 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2019.