Llanpumsaint

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref bychan, chymuned a phlwyf yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanpumsaint. Fe'i lleolir tua 6 milltir i'r gogledd o dref Caerfyrddin ar groesffordd wledig. Llifa Afon Gwili heibio i'r pentref ac mae Nant Cwm Cerwyn yn ymuno â hi yno. Yn ôl cyfrifiad 2001, mae ganddo boblogaeth o tua 595[1].

Llanpumsaint
Maen hir, gyda'r pentref yn y cefn
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth734, 729 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,610.42 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.939°N 4.301°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000538 Edit this on Wikidata
Cod OSSN415295 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map
Gweler hefyd Pumsaint.

Enwir y pentref a'r plwyf ar ôl pum mab Cynyr Farfdrwch o Gynwyl Gaio, un o ddisgynyddion Cunedda Wledig, sef Ceitho, Gwynno, Gwynoro, Celynin a Gwyn.

Mae hefyd yn gartref i'r gymuned Skanda Vale, sef cymuned ysbrydol aml-fydd sydd yn denu nifer fawr o bererinion pob blwyddyn. Cafwyd y gymuned ei sefydlu yn 1973.[2]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[4]

Yn ôl traddodiad bu safle’r eglwys newydd yn safle paganaidd cyn hynny. Ceir pum pwll ar Nant Cwm Cerwyn a enwir ar ôl y saint. Roeddent yn gyrchfa pererindod yn yr Oesoedd Canol, yn arbennig ar Ŵyl Dewi.

Cyfrifiad 2001

golygu

Yn ôl cyfrifiad 2001, mae 50% o'r rheini sy'n byw yng nghymuned Llanpumsaint yn medru siarad, darllen, ac ysgrifennu Cymraeg[5]; mae hyn cryn dipyn yn uwch na'r cyfartaledd o 39% dros Sir Gaerfyrddin a gofnodwyd yn yr un cyfrifiad[6].

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanpumsaint (pob oed) (734)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanpumsaint) (383)
  
53.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanpumsaint) (461)
  
62.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llanpumsaint) (85)
  
29.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Ward Cymuned Llanpumsaint[dolen farw]
  2. Today, Hinduism. "Sri Lanka Guru Establishes Ashram And Hospice in Wales – Hinduism Today" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-15.
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. Sgiliau iaith Gymraeg yn y wardiau cymuned[dolen farw]
  6. Ystadegau’r Iaith Gymraeg[dolen farw]
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Dolenni allanol

golygu