Jennie Eirian Davies

awdur Cymraeg

Gwleidydd ymarferol, awdures a chyn-olygydd Y Faner oedd Jennie Eirian Davies (6 Ionawr 19256 Mai 1982). Roedd yn wraig i'r prifardd Eirian Davies ac yn fam i'r bardd a'r dramodydd Siôn Eirian.

Jennie Eirian Davies
GanwydJennie Eirian Howells Edit this on Wikidata
6 Chwefror 1925 Edit this on Wikidata
Llanpumsaint Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mai 1982 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaMerched y Wawr, Y Faner Edit this on Wikidata
PriodEirian Davies Edit this on Wikidata
PlantSiôn Eirian Edit this on Wikidata

Magwraeth ac addysgGolygu

Ganwyd Jennie Eirian (née Howells) yn Llanpumsaint, Sir Gaerfyrddin yn un o chwech o blant ond bu tri ohonynt farw o'r diciâu. Wedi graddio ym Mhrifysgol Aberystwyth hyfforddodd i fod yn athrawes.[1] Addysgwyd hi'n Ysgol Elfennol Llanpumsaint, Ysgol Sir y Merched, Caerfyrddin a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth lle derbyniodd radd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn y Gymraeg. Yn 1978 daeth yn Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr ac fe'i hurddwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yr un flwyddyn.

Priododd hi a'r gweinidog o fardd Bohemaidd Eirian Davies ar 19 Tachwedd 1949 a ganed dau o feibion iddynt, Siôn Eirian a Guto Davies (g. 1958). Ymgartrefodd y teulu yn Hirwaun (1949-54), Brynaman (1954-62) ac yn yr Wyddgrug (1962-82) lle y bu farw'n gynamserol.

GwleidyddiaethGolygu

Jennie oedd y fenyw gyntaf i ymgeisio dros Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin, yn Etholiad Cyffredinol 1955 gan gipio 7.8% o'r bleidlais; ymladdodd eto yn is-etholiad 1957 a chynyddodd ei phleidlais i 11.5%. Blaenarodd y tir ar gyfer buddugoliaeth Gwynfor Evans yn 1966.

Awdur a darlledyddGolygu

Cyhoeddodd Jennie Eirian dri llyfr i blant: Bili Bawd (1961), Guto (1961) a Fflwffen (1963). Bu hefyd yn olygydd cylchgrawn Trysorfa'r Plant gan newid teitl y cylchgrawn i Antur yng Ngorffennaf 1966.

Bu'n golofnydd radio a theledu yn Y Cymro rhwng 1976 a 1978 ac yma tynnodd sylw at ddiffyg oriau darlledu Cymraeg a'i siom mai ailddarllediadau oedd y rhan fwyaf o'r rhaglenni a gaed yn y Gymraeg. Bu'n darlithio yn yr Adran Gymraeg yng Ngholeg Cartrefle, Wrecsam.

CyfeiriadauGolygu