John Dyfnallt Owen
Gweinidog, llenor a bardd Cymraeg oedd John Dyfnallt Owen, enw barddol Dyfnallt (7 Ebrill 1873 – 28 Rhagfyr 1956).
John Dyfnallt Owen | |
---|---|
Ffugenw | Dyfnallt |
Ganwyd | 7 Ebrill 1873 Llan-giwg |
Bu farw | 28 Rhagfyr 1956 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, gweinidog bugeiliol, Archdderwydd |
Plant | Meirion Dyfnallt Owen, Geraint Dyfnallt Owen |
Ganed Dyfnallt yn Llangiwg, Morgannwg, yn fab i Daniel ac Angharad Owen. Collodd ei fam pan oedd yn flwydd oed a magwyd ef gan rieni ei dad. Addysgwyd ef Nghwmllynfell a bu'n lowr am gyfnod, cyn mynd i Academi Parcyfelfed, Caerfyrddin, ac wedyn i Goleg Bala-Bangor yn 1894. Daeth yn wedinidog i'r Annibynwyr ym mhentref Trawsfynydd o 1898 hyd 1902, a bu'n ddylanwad ar Hedd Wyn. Symundodd wedyn i Deiniolen, lle bu hyd 1905, gan ddod i adnabod T. Gwynn Jones a W. J. Gruffydd. Yn 1904 priododd Annie Hopkin, gan gael dau o blant.
Yn 1905 symudodd i Bontypridd, a thra yno enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1907 am gerdd ar Y greal sanctaidd. Daeth yn aelod o'r Gyngres Geltaidd yn 1908. Yn 1910 symudodd i Gaerfyrddin, lle bu hyd ei ymddeoliad. Daeth yn olygydd Y Tyst yn 1927. Wedi'r Ail Ryfel Byd, rhoddodd loches yn ei gartref i Roparz Hemon, oedd wedi gorfod dianc o Lydaw. Etholwyd ef yn Archdderwydd yn 1954 yn Y Rhyl.
Cyhoeddiadau
golygu- Y greal a cherddi eraill (1946)
- Ar y tŵr (1953)
- O ben tir Llydaw (1934)
- Min yr hwyr (1934)
- Rhamant a rhyddid (1952)