John Scandrett Harford

Roedd John Scandrett Harford (8 Hydref, 1785 -16 Ebrill, 1866) yn fancwr, tirfeddiannwr, awdur bywgraffiadau ac yn un amlwg yn sefydlu Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.[1]

John Scandrett Harford
Ganwyd8 Hydref 1785 Edit this on Wikidata
Bryste Edit this on Wikidata
Bu farw16 Ebrill 1866 Edit this on Wikidata
Blaise Castle House Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaetharlunydd, gwleidydd, person busnes Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadJohn Scandrett Harford Edit this on Wikidata
MamMary Gray Edit this on Wikidata
PriodLouisa Davis Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Harford ym Mryste yn blentyn i John Scandrett Harford yr hynaf a Mary merch Abraham Gray. Roedd ei dad yn fancwr ac yn dirfeddiannwr ystâd Blaise Castle, Swydd Gaerloyw.[2] Cafodd ei addysgu mewn ysgol Peterley House, Swydd Buckingham ac yng Ngholeg Crist, Caergrawnt.

Roedd teulu Harford yn Grynwyr [3] amlwg ond fe ymadawodd Harford a'r enwad gan gael ei fedyddio yn aelod o Eglwys Loegr ym 1809.[1] Roedd yn gyfeillgar gyda'r awdures Hannah More a honnir mai ef oedd yr awen am arwr ei nofel Coelebs in Search of a Wife (1809).[4] Roedd hefyd yn gyfaill i William Wilberforce ac yn gefnogwr amlwg o'i ymgyrch i ddiddymu caethwasiaeth er gwaetha'r ffaith bod teulu ei fam wedi ennill rhan o'i ffortiwn trwy'r busnes caethwasiaeth.[5]

Teulu golygu

Ym 1812 priododd Louisa Davies, merch Richard Hart Davies, AS Bryste. Bu iddynt dair ferch.[2] Ychydig wedi ei briodas aeth Harford a'i wraig ar daith estynedig i'r Iwerddon. Cafodd ei Lythyr ar gyflwr yr Iwerddon y cyfeiriwyd Wilberforce ato ei gyhoeddi yn y Christian Observer ym 1813.[1]

Gyrfa golygu

 
Coleg Dewi Sant

Roedd yn gefnogwr cadarn i Gymdeithas Genhadol yr Eglwys a Chymdeithas y Beibl, a chynorthwyodd i ffurfio canghennau Bryste o'r cymdeithasau ym 1813.

Ar farwolaeth ei dad ym 1815 Etifeddodd Harford fanc ac ystadau'r teulu, gan fod ei frawd hynaf Edward, yr etifedd tybiedig, wedi marw ym 1804. Ehangwyd ei ystadau ym 1819, ar farwolaeth ei frawd-yng-nghyfraith, Hart Davies gan brynu ei eiddo, Peterwell, Sir Aberteifi.[1]

Yn fuan ar ôl iddo etifeddu ei ystadau Cymreig cyfarfu â'r Esgob Burgess, sylfaenydd Coleg Dewi Sant, Llanbedr. Cynigiodd Harford roi iddo 'Gae Castell' safle Castell Llanbedr, yr oedd, fel Arglwyddi Maenor Llanbedr yn berchen arno. Adeiladwyd yr hyn sydd bellach yn gampws Llanbedr Prifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant. Mae penddelw o Harford yng nghasgliad y Brifysgol, ac yn cael ei arddangos ym mhrif adeilad llyfrgell y coleg.[6] Mae dwy neuadd breswyl yn y brifysgol, Harford I a Harford II, wedi'u henwi ar ei ôl.

Am bymtheng mlynedd bu’n gweithredu fel llywydd Ysbyty Bryste.[7] Cyfrannodd tuag at adfer eglwysi cadeiriol Llandaf a Dewi Sant, ac yn Llanbedr draeniodd y Gors Ddu, a'i throi yn rhandiroedd gardd bwthyn, tra hefyd yn darparu cyflenwad o ddŵr pur i'r dref.

Roedd yn gasglwr gweithiau arlunio gan brynu llawer o esiamplau ar ei deithiau cyfandirol ym 1815, 1846 a 1852. Roedd hefyd yn arlunydd gweddol lwyddiannus, ac yn aml gellir dod o hyd i'w luniau olew mewn arwerthiannau.

Gyrfa wleidyddol golygu

Ym mis Ionawr 1841 roedd Harford yn bresennol ym mewn trafodaeth rhwng John Brindley a Robert Owen ym Mryste. Yn y cyfarfod mynegodd Harford ei wrthwynebiad cryf i sosialaeth.

Safodd fel yr ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Aberteifi yn etholiad cyffredinol 1841. Yn wreiddiol cyhoeddwyd bod Harford, wedi curo Pryse Pryse, ei wrthwynebydd Rhyddfrydol o 226 bleidlais i 163 cyn canfod bod llyfrau pôl Aberystwyth wedi eu colli neu (yn ôl rai) wedi cael eu dwyn gan gefnogwyr yr ymgeisydd Ceidwadol. Cafodd ei fuddugoliaeth seneddol ei ddiddymu ym 1842. Fel prawf eu bod ill ddau yn derbyn mai amryfusedd oedd yn gyfrifol talodd y ddau ymgeisydd rhyngddynt am bâr o sbectol newydd i faer Aberteifi, i sicrhau ei fod yn gallu gweld lleoliad pob llyfr pôl yn y dyfodol [8]. Safodd yn Aberteifi eto yn etholiad 1849, gan golli o 8 bleidlais i'r Rhyddfrydwr Pryse Loveden.[9]

Anrhydeddau golygu

Fel diolch am ei haelioni am roi tir i Goleg Llanbedr Pont Steffan gafodd gradd Doethur y Cyfreithiau Cyffredin gan Brifysgol Rhydychen ym 1822. Fe'i hurddwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ym 1823.[10] Ym 1824 fe'i gwnaed yn Uchel Siryf Sir Aberteifi [11] bu hefyd yn gwasanaethu fel dirprwy raglaw'r sir a dirpwy raglaw Swydd Gaerloyw.[12]

Marwolaeth golygu

Bu farw yng Nghastell Blaise yn 80 mlwydd oed.[13] Gan nad oedd ganddo fab etifeddwyd ei eiddo gan ei nai John Battersby Harford.

Cyhoeddiadau golygu

  • Some account of the life of Thomas Paine, (1819)
  • Life of Dr. Burgess, Bishop of Salisbury (1840)
  • Life of Michael Angelo (1857)
  • Recollections of W. Wilberforce (1864)

Archifau golygu

Mae gohebiaeth, cyfnodolion a phapurau personol John Scandrett Harford a theulu Harford yn cael eu dal gan Archifau Bryste [14]. Mae gohebiaeth ychwanegol gan gynnwys llythyrau a anfonwyd gan William Wilberforce i Harford yn cael ei dal gan Brifysgol Duke: Llyfrgell William R Perkin [15]. Mae cofnodion hefyd o ystadau Peterwell a Falcondale o deulu Harford yn y Llyfrgell Genedlaethol.[16]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Harford, John Scandrett (1787–1866), biographer | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. Cyrchwyd 2019-11-21.
  2. 2.0 2.1 "Bristol City Council : Museum Collections". museums.bristol.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-24. Cyrchwyd 2019-11-21.
  3. "The history of Blaise Hamlet". National Trust. Cyrchwyd 2019-11-21.
  4. WALSH, WILLIAM SHEPARD. (2015). Heroes and heroines of fiction (classic reprint). FORGOTTEN Books. ISBN 1-330-33114-1. OCLC 978610112.
  5. "Summary of Individual | Legacies of British Slave-ownership". www.ucl.ac.uk. Cyrchwyd 2019-11-21.
  6. "Penddelw o John Scandrett Harford gan Lawrence Macdonald, 1847". Casgliad y Werin Cymru. Cyrchwyd 2019-11-21.
  7. "BRISTOL INFIRMARY - The Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette and Merthyr Guardian". William Mallalieu. 1843-03-04. Cyrchwyd 2019-11-21.
  8. "No title - The Cambrian". T. Jenkins. 1841-11-06. Cyrchwyd 2019-11-20.
  9. "CARDIGANSHIRE BOROUGH ELECTIONI - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1849-02-16. Cyrchwyd 2019-11-21.
  10. "John Scandrett Harford | Artist | Royal Academy of Arts". www.royalacademy.org.uk. Cyrchwyd 2019-11-21.
  11. "NEWSHERIFFS - The Cambrian". T. Jenkins. 1824-02-07. Cyrchwyd 2019-11-21.
  12. "GENERA LNEWSI - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1852-10-01. Cyrchwyd 2019-11-21.
  13. "CARDIGANSHIRE - Haverfordwest and Milford Haven Telegraph and General Weekly Reporter for the Counties of Pembroke Cardigan Carmarthen Glamorgan and the Rest of South Wales". John Rees Davies. 1866-04-25. Cyrchwyd 2019-11-21.
  14. "Bristol Archives online catalogue: Record view". archives.bristol.gov.uk. Cyrchwyd 2019-11-21.
  15. Catalogue description letters from W Wilberforce.
  16. "Peterwell and Falcondale Estate Records - Archifau a Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru". archives.library.wales. Cyrchwyd 2019-11-21.