Joseff II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg-Lorraine oedd Joseff II (13 Mawrth 1741 – 20 Chwefror 1790) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig ac Archddug Awstria o 1765 i 1790 ac yn Frenin Hwngari, Brenin Croatia, a Brenin Bohemia o 1780 i 1790.
Joseff II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig | |
---|---|
Ganwyd | 13 Mawrth 1741, 1741 Hietzing, Fienna |
Bu farw | 20 Chwefror 1790, 1790 Fienna |
Man preswyl | Palas yr Hofburg |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Galwedigaeth | arweinydd milwrol |
Swydd | Ymerawdwr Glân Rhufeinig |
Priod | Y Dywysoges Isabella o Parma, Maria Josepha o Bafaria |
Plant | Yr Archdduges Maria Theresa o Awstria, Archduchess Marie Christine of Austria |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Cnu Aur |
llofnod |
Ganed yn Fienna, Archddugiaeth Awstria, yn fab hynaf i Maria Theresa, Archdduges Awstria a merch yr Ymerawdwr Siarl VI, a'i gŵr Ffransis, Archddug Awstria ac Uchel Ddug Toscana. Etholwyd ei dad yn Ffransis I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, ym 1745, a fu ar yr orsedd am ugain mlynedd. Derbyniodd Joseff addysg lem a thrylwyr cyn i'w fam ei benodi i'r Cyngor Gwladol, a disgleiriai'r llywodraethwr ifanc yn ei swydd. Priododd ag Isabella, Tywysoges Parma, ym 1760, a fu farw o'r frech wen ym 1763.[1]
Priododd Joseff â'i gyfyrderes Maria Josepha, Tywysoges Bafaria a merch yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig, yn Ionawr 1765. Yn sgil marwolaeth Ffransis I yn Awst 1765, datganwyd Joseff yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig a fe'i dyrchafwyd yn gyd-raglyw Awstria gan ei fam Maria Theresa. Er gwaethaf ei feddwl craff a'i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, nid oedd y mab yn dda am benderfynu a bu'r fam yn pennu polisi. Buont yn gyd-benaethiaid ar y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd nes marwolaeth Maria Theresa ym 1780, ac wedyn Joseff oedd yn unig Archddug Awstria am ddeng mlynedd olaf ei oes. Ym 1780 hefyd etifeddodd Joseff goronau Hwngari, Croatia, a Bohemia oddi ar ei fam. Dan ddylanwad Maria Theresa, rhoddwyd diwygiwyd y weinyddiaeth, y gyfraith, y gyfundrefn addysg, a'r eglwys yn Awstria, a sefydlwyd gwasanaeth iechyd cyhoeddus gan ei meddyg personol Gerard van Swieten. Cytunodd Joseff a Ffredrig II, brenin Prwsia, i rannu Gwlad Pwyl ym 1772 rhwng y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd, Teyrnas Prwsia, ac Ymerodraeth Rwsia, ac ychwanegwyd Galisia felly at diroedd Tŷ Hapsbwrg. Cyfeddianwyd Bukovina oddi ar Dywysogaeth Moldafia ym 1775 yn sgil Rhyfel Rwsia a Thwrci (1768–74).[1]
Dan deyrnasiad Joseff, diddymwyd taeogaeth a chyhoeddwyd Gorchmynion Goddefiad i gydnabod hawliau Cristnogion o bob enwad (1780) ac Iddewon (1781) ar draws tiriogaethau'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd. Parhaodd ag ymdrechion Maria Theresa i seciwlareiddio Prifysgol Fienna ac i wahanu galluoedd y farnwriaeth a'r adran weithredol. Diddymwyd rhyw 700 o fynachlogydd ganddo, gan wylltio'r Pab Pïws VI, ac nid oedd Catholigion yn yr Iseldiroedd ac Hwngari yn enwedig yn hoff o ymdrechion Joseff i ddiwygio bywyd crefyddol a chymdeithasol ei ddeiliaid. O ran polisi tramor, methodd Joseff i atal blocâd gan Daleithiau Unedig yr Iseldiroedd yn erbyn llongau'r Iseldiroedd Hapsbwrgaidd, a methiant hefyd a fu ei gynllun i gyfnewid y diriogaeth honno am Etholyddiaeth Bafaria.[1]
Ymgynghreiriodd Joseff â Catrin II, Ymerodres Rwsia, yn erbyn yr Ymerodraeth Otomanaidd, ond ni fedrai sicrhau buddugoliaeth yn Rhyfel Awstria a Thwrci (1788–1791). Yn niwedd ei deyrnasiad, tynnodd Joseff ddig y bonedd yn Hwngari drwy ddyrchafu'r Almaeneg yn iaith y gyfraith, a llwyddodd Chwyldro Brabant (1789–90) i ddymchwel rheolaeth y Hapsbwrgiaid yn yr Iseldiroedd am gyfnod. Bu farw Joseff yn Fienna yn 48 oed, a fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan ei frawd iau, Leopold II.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Joseph II (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Mai 2020.
Rhagflaenydd: Ffransis I |
Ymerawdwr Glân Rhufeinig 1765 – 1790 |
Olynydd: Leopold V |