Josiah Towyn Jones
Roedd Joshiah Towyn Jones (28 Rhagfyr 1858 - 16 Tachwedd 1925) yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros etholaethau Dwyrain Caerfyrddin a Llanelli[1].
Josiah Towyn Jones | |
---|---|
Parch J Towyn Jones adeg diwygiad 1904-05 | |
Ganwyd | 28 Rhagfyr 1858 Ceinewydd |
Bu farw | 16 Tachwedd 1925 Rhydaman |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Towyn Jones mewn bwthyn o'r enw Towyn Bach, Ceinewydd yn fab i Dafydd Jones, crydd, ac Elizabeth ei wraig. Er bod y teulu yn un dlawd o ran arian roedd yn gyfoethog o ran diwylliant. Ei hen dad-cu oedd yr emynydd a gweinidog Y Parch Thomas Jones, Rhiwson, roedd y Parchedigion Thomas Jones Cilcennin a William Jones Pentre Tŷ Gwyn yn hen ewythrod iddo a'r bardd J R Jones (Ehedydd Emlyn) yn ewyrth iddo[2].
Priododd a Mary Jones Plas Cadwgan ym 1885[3] a bu iddynt dwy ferch.
Gyrfa gynnar
golyguWedi ymadael a'r ysgol yn 11 mlwydd oed aeth Towyn i weithio fel cyw bugail am flwyddyn cyn mynd i'r môr i weithio fel bachgen caban ar y llongau Elizabeth a James & Mary a oedd yn masnachu rhwng porthladdoedd deheudiroedd Cymru a'r Iwerddon. Ym 1874, yn 16 oed cafodd ei ddiswyddo am dorri llestri tsieni ei long.[4]
Wedi colli ei swydd dychwelodd i'r ysgol fel disgybl yn Ysgol Ramadeg Towyn, Ceinewydd am gyfnod, cyn mynd ymlaen i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin lle fu'n efrydydd o 1876 i 1879 yn cael ei hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth.
Gweinidogaeth
golyguOrdeiniwyd Towyn yn weinidog yng Nghapel Annibynwyr y Gwernllwyn, Dowlais lle fu'n gwasanaethu fel gweinidog am bedair blynedd[5]; yn ystod ei gyfnod yn y pwlpid yno llysenwyd yr addoldy yn Capel Crwts, gan fod y gweinidog a'r aelodau mor ifanc.[6]
Wedi priodi symudodd i gapel Bethel Newydd, Cwmaman[7]; gyda chynulleidfa o tua 1,300 o aelodau dyma un o achosion mwyaf Undeb yr Annibynwyr yn y cyfnod. Parhaodd yn weinidog Bethel Newydd hyd 1906 pan aeth i weithio i Genhadaeth Cartref ei enwad am y 6 mlynedd nesaf.[8]
Gwasanaethodd fel Ysgrifennydd a Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymreig.
Gyrfa Wleidyddol
golyguYn ogystal â bod yn weinidog roedd bu Towyn yn chware rhan amlwg ym mywyd gwleidyddol Cymru[9], bu'n Ysgrifennydd Cymdeithas Ryddfrydol Dwyrain Caerfyrddin[10], Ysgrifennydd Cymdeithas Ryddfrydol Dyffryn Aman[11] ac yn aelod o'r Pwyllgor Gwaith Ffederasiwn Rhyddfrydol De Cymru.
Ym 1904 fe'i etholwyd yn aelod o Gyngor Sir Gaerfyrddin[12]. Cyn ac ar ôl ei ethol i'r cyngor roedd datblygu addysg yn achos bwysig iddo. Gwasanaethodd fel Cadeirydd Bwrdd Ysgol Llandeilo, Llywodraethwr Colegau Prifysgol De Cymru ac Aberystwyth ac yn aelod o Bwyllgor Rheoli'r Ysgol Ganolradd yn Llandeilo. Roedd yn un o arweinwyr yr ymgyrch yn ardal De Cymru i wrthsefyll Deddf Addysg Balfour 1902[13] a llwyddodd i annog ysgolion gwirfoddol Sir Gaerfyrddin i wrthododd gweinyddu'r ddeddf.
Roedd Towyn yn dadlau o blaid i'r iaith Gymraeg yn cael ei ddysgu ar yr un telerau â Saesneg mewn ysgolion uwchradd a bu'n pwyso ar y Bwrdd Canol Cymreig i gyflawni hynny.
Roedd yn aelod o Fudiad Cymru Fydd[14] ac yn dadlau o blaid hunain lywodraeth i Gymru. Trwy Gymru Fydd daeth i weithio'n agos a Tom Ellis AS a David Lloyd George AS.
Gwasanaethodd Towyn fel Asiant Etholiadol i Abel Thomas AS, ac ar farwolaeth Thomas ym 1912 dewiswyd Towyn fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol ar gyfer yr isetholiad. Llwyddodd i gadw'r sedd i'r achos Rhyddfrydol.
Diddymwyd etholaeth Dwyrain Caerfyrddin ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1918 a safodd Towyn yn etholaeth newydd Llanelli gan gipio'r sedd i'r Rhyddfrydwyr. Penderfynodd peidio sefyll eto ym 1922 ar sail cyflwr ei iechyd
Ym 1917 fe wnaed yn chwip yr aelodau Cymreig ac yn Arglwydd Iau'r Trysorlys.
Marwolaeth
golyguBu farw Towyn yng nghartref ei ferch yn Rhydaman ar ddydd Llun 16 Tachwedd 1925 a chladdwyd ei weddillion ar y dydd Mercher canlynol ym Mynwent Gellimanwydd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ JONES , JOSIAH (TOWYN) ( 1858 - 1925 ), adalwyd 3 Mehefin 2016
- ↑ "Notitle - Y Darian". W. Pugh and J. L. Rowlands. 1914-05-28. Cyrchwyd 2016-06-03.
- ↑ Y Tyst a'r Dydd Mehefin 5 1885 Genedigaethau, Priodasau, etc adalwyd 3 Mehefin 2016
- ↑ THE REVEREND JOSIAH TOWYN JONES adalwyd 4 Mehefin 2016
- ↑ "DOWLAIS - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1879-12-19. Cyrchwyd 2016-06-04.
- ↑ people of Cwmamman Josiah Towyn Jones adalwyd 4 Mehefin 2016
- ↑ "CYFUNDEB GOGLEDDOL MORGANWG - Y Celt". H. Evans. 1884-10-10. Cyrchwyd 2016-06-04.
- ↑ "TOSUCCEEDTOWYNJONES - The Cambrian". T. Jenkins. 1908-02-28. Cyrchwyd 2016-06-04.
- ↑ "PARCH J TOWYN JONES CWMAMMAN - Papur Pawb". Daniel Rees. 1895-11-02. Cyrchwyd 2016-06-04.
- ↑ "EAST CARMARTHENSHIRE LIBERAL ASSOCIATION - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1899-06-24. Cyrchwyd 2016-06-04.
- ↑ "AMMAN VALLEY LIBERAL ASSOCIATION - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1892-05-14. Cyrchwyd 2016-06-04.
- ↑ "Amman Valley Bye Election - The Carmarthen Weekly Reporter". William Morgan Evans. 1904-04-29. Cyrchwyd 2016-06-04.
- ↑ "Cynadledd Castellnedd - Y Celt". H. Evans. 1896-04-17. Cyrchwyd 2016-06-04.
- ↑ "ICYNGHIRAIRCYMRUFYDD - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1894-08-21. Cyrchwyd 2016-06-04.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Abel Thomas |
Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin 1912 – 1918 |
Olynydd: diddymu'r etholaeth |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol Llanelli 1918 – 1922 |
Olynydd: John Henry Williams |