Pentre Tŷ-gwyn

pentre

Pentref bychan yng ngogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin yw Pentre Tŷ-gwyn (ceir sawl ffurf arall ar yr enw, yn cynnwys Pentre-tŷ-gwyn). Fe'i lleolir yng nghymuned Llanfair-ar-y-bryn tua 4 milltir i'r dwyrain o dref Llanymddyfri ar lôn fynydd sy'n dringo o'r A40 i gyfeiriad Babel.

Pentre Tŷ-gwyn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Mae'r pentref yn adnabyddus yn bennaf fel lleoliad ffermdy Pantycelyn, cartref yr emynydd William Williams (Pantycelyn) (1717-1791). Mae'r ffermdy i'w cael yn y bryniau ger y pentref.

Ceir capel yr Annibynwyr yn y pentref ei hun.[1]

Cyfeiriadau Golygu

  1. Aneirin Talfan Davies, Crwydro Sir Gár (Llyfrau'r Dryw, Llandybie, 1955; ail argraffiad 1977), tud. 207.


  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato