Kópavogur
Bwrdeistref ail fwyaf Gwlad yr Iâ yn ôl poblogaeth yw Kópavogur (IPA:ˈkʰoːupavɔɣʏr̥). Saif i'r de o'r brifddinas, Reykjavík, ac mae'n rhan o Reykjavík Fawr. Ystyr yr enw yw cilfach llo morlo. Mae arfbais y dref yn cynnwys proffil eglwys Kópavogskirkja a llo morlo oddi tano.
Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 39,810 |
Pennaeth llywodraeth | Ásdís Kristjánsdóttir |
Cylchfa amser | Amser Cymedrig Greenwich |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Kópavogsbær |
Gwlad | Gwlad yr Iâ |
Arwynebedd | 83,720,000 m² |
Uwch y môr | 8 metr |
Yn ffinio gyda | Garðabær, Reykjavík |
Cyfesurynnau | 64.1119°N 21.9°W |
Cod post | 200, 201, 202, 203 |
IS-KOP | |
Pennaeth y Llywodraeth | Ásdís Kristjánsdóttir |
Preswyldref yw Kópavogur gan mwyaf ond mae ganddi ardal fasnachol a diwydiant hefyd. Mae adeilad uchaf Gwlad yr Iâ, Tŵr Smáratorg, wedi ei lleoli yng nghanol Kópavogur.[1]
Hanes
golyguMae'r dref yn bwysig yn hanes y genedl gan mai dyma oedd safle cyfarfod Kópavogur 1662.[2] Dyma oedd y digwyddiad a welodd ymgorffori Gwlad yr Iâ yn llawn i mewn i wladwriaeth Denmarc-Norwy pan wnaeth yr Esgob Brynjólfur Sveinsson a'r cyfreithiwr, Árni Oddsson, arwyddo dogfen ar ran pobl yr Ynys yn cadarnhau rheolaeth monarchiaeth absoliwt Brenhinoedd Denmarc dros y wlad. Roedd hyn yn ystod cyfnod Monopoli Masnach Denmarc 1602 to 1787 a roddodd i Ddenmarc sofraniaeth lwyr dros Wlad yr Iâ.[3]
Hyd at yr 1930au, prin iawn oedd poblogaeth Kópavogur, ond daeth y tir i'w defnyddio ar gyfer tai haf i boblogaeth Reykjavík. Gyda mudo poblo o'r cefn gwlad i Ranbarth y Brifddinas, tyfodd y dref ac ardal pentref wreiddiol Kópavogur.
Mae Kópavogur hefyd yn safle un o chwedloniaeth gyfoes Gwlad yr Iâ am yr huldufólk (corachod);[4] ac mae'n ymddangos yn y ffilm 'Sumarlandið' o'r flwyddyn 2010, lle caiff y garreg Grásteinn ei phortreadu fel tŷ corachod yn Kópavogur.
Chwaraeon
golyguPrif glybiau chwaraeon Kópavogur yw Gerpla,[5] Breiðablik UBK a Handknattleiksfélag Kópavogs (HK). Yn 2010 cipiodd Breiðablik y bencampwriaeth bêl-droed wrth ennill Cynghrair y wlad am y tro cyntaf ac yn 2012 enillodd HK ei pencampwriaeth pêl-law (handball) cyntaf.
Economi
golyguKópavogur yw canolfan siopa fwyaf Gwlad yr Iâ, sef y Smáralind. Mae campws y maelfa yma yn cynnwys adeilad uchef Gwlad yr Iâ, Tŵr Smáratorg, a'r pumed adeilad talaf a'r adeilad talaf yn wlad. Mae Kópavogur hefyd yn bencadlys i nifer o gwmnïau, gan gynnwys Promens.
Poblogaeth Kópavogur | |||
---|---|---|---|
Blwyddyn | Preswylwyr | Fel canran o Boblogaeth Gwlad yr Iâ | |
1940 | 200 | 0,2% | |
1950 | 1.652 | 1,1% | |
1960 | 6.213 | 3,5% | |
1970 | 11.165 | 5,4% | |
1980 | 13.814 | 6,0% | |
1990 | 16.186 | 6,3% | |
2000 | 22.693 | 8,1% | |
2010 | 30.357 | 9,6% | |
2011 | 30.779 | 9,7% | |
Fynhonnell: Hagstofa Íslands (Ystadegau Gwlad yr Iâ)[6] |
Enwogion
golygu- Sverrir Ingi Ingason (geni 1993), pêl-droediwr
Gefailldrefi
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ DK Eyewitness Top 10 Travel Guide: Iceland: Iceland. Dorling Kindersley Limited. 1 June 2010. t. 42. ISBN 978-1-4053-5665-7.
- ↑ Lacy, Terry G. (2000). Ring of Seasons: Iceland--Its Culture and History. University of Michigan Press. t. 210. ISBN 0-472-08661-8.
- ↑ Andrew Evans: Iceland. Bradt 2008, S. 21, S. 183
- ↑ Valdimar Tr. Hafstein, 'The Elves' Point of View: Cultural Identity in Contemporary Icelandic Elf-Tradition', Fabula: Zeitschrift für Erzählsforschung/Journal of Folklore Studies/Revue d'Etudes sur le Conte Populaire, 41 (2000), 87-104 (pp. 91-93).
- ↑ "Vorönn - upplýsingar" (yn Icelandic). Gerpla.is. Cyrchwyd 25 February 2014.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Tölur fengnar af vefsíðu Hagstofu Íslands
- ↑ vgl. Wuhan verður vinabær Kópavogs, Vísir, 29. September 2007 (isländisch); Zugriff: 13. August 2011