Awdures o Ddenmarc oedd y farwnes Karen Christenze von Blixen-Finecke neu fel arfer, Karen Blixen, (17 Ebrill 1885 - 7 Medi 1962) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur a hunangofiannydd. Ysgrifennai yn y Ddaneg a'r Saesneg; defnyddiai'r enw-awdur 'Isak Dinesen' ar lyfrau a gyhoeddwyd yn y gwledydd Almaeneg eu hiaith, ac ar adegau defnyddiai 'Osceola' a 'Pierre Andrézel'.

Karen Blixen
FfugenwTania Blixen, Isak Dinesen, Pierre Andrézel, Osceola Edit this on Wikidata
GanwydKaren Christentze Dinesen Edit this on Wikidata
17 Ebrill 1885 Edit this on Wikidata
Rungstedlund, Rungsted Edit this on Wikidata
Bu farw7 Medi 1962 Edit this on Wikidata
Rungstedlund, Copenhagen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Denmarc Denmarc
Galwedigaethysgrifennwr, hunangofiannydd, awdur storiau byrion, bardd, arlunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amOut of Africa, Babette's Feast Edit this on Wikidata
Arddullrhamantiaeth-newydd, llenyddiaeth Gothig, realaeth hudol Edit this on Wikidata
TadWilhelm Dinesen Edit this on Wikidata
MamIngeborg Dinesen Edit this on Wikidata
PriodBror von Blixen-Finecke Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Beirniaid Daneg ar gyfer Llenyddiaeth, Gwobr Tagea Brandt Rejselegat, Ingenio et Arti, Medal Holberg, De Gyldne Laurbær Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://karenblixen.com Edit this on Wikidata
llofnod

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Out of Africa sy'n fywgraffiad o'r cyfnod pan roedd yn byw yn Cenia, a Babette's Feast; troswyd y ddau lyfr ar gyfer y sgrin mawr. Derbyniodd y ddwy ffilm, hefyd Wobr yr Academi. Yn Denmarc mae'n nodedig am ei chyfrol 'Saith Chwedl Gothig' (Syv Fantastiske Fortællinger; 1934).

Ystyriwyd Blixen sawl tro am Wobr Lenyddol Nobel.

Magwraeth golygu

Ganed Karen Dinesen ym mhlasty Rungstedlund, gogledd Copenhagen ar 17 Ebrill 1885 a bu farw yno hefyd; fe'i claddwyd yn Rungstedlund. Roedd ei thad, Wilhelm Dinesen (1845-1895), yn awdur, swyddog y fyddin o deulu a oedd yn dirfeddiannwyr cefnog yn ardal Jutland a oedd â chysylltiad agos â brenhiniaeth Denmarc, yr eglwys a gwleidyddiaeth geidwadol. Daeth ei mam, Ingeborg Westenholz (1856-1939), o deulu o fasnachwr bourgeois cyfoethog. Karen Dinesen oedd yr ail hynaf mewn teulu o dair chwaer a dau frawd. Tyfodd ei brawd iau, Thomas Dinesen, i ennill Croes Victoria yn y Rhyfel Byd Cyntaf.[1][2][3][4][5][6][7][8][9][10][11]

Dylanwadwyd ar y Dinesen ifanc gan ffordd hamddenol ei thad a'i gariad at yr awyr agored. Ysgrifennodd drwy gydol ei oes a daeth ei hunangofiant, Boganis Jagtbreve (Llythyrau o'r Helfa) yn glasur bach yn llenyddiaeth Daneg. Rhwng Awst 1872 a Rhagfyr 1873, roedd William wedi byw ymhlith Indiaid Chippewa yn Wisconsin, a thadogodd ferch gan un o'r indiaid. Ar ôl iddo ddychwelyd i Ddenmarc, dioddefodd o syffilis a arweiniodd at gyfnodau o iselder ysbryd dwfn. Er hyn, bu iddo dadogi merch gan y forwyn Anna Rasmussen, gan dorri ei addewid i fod yn ffyddlon i'w wraig. Crogodd ei hun ar 28 Mawrth 1895 pan oedd Karen bron yn ddeg oed.

Yn wahanol i'w brodyr, a fynychodd yr ysgol, cafodd ei haddysgu gartref gan ei mam-gu o ochr ei mam, a'i modryb Mary B. Westenholz, a fagodd hi yn nhraddodiad cadarn yr Undodiaid. Dylanwadwyd ar Dinesen gan Fodryb Bess, fel y galwai Westenholz. Roedd eu trafodaethau'n fywiog, eang a thwfn ar hawliau merched a'r berthynas rhwng dynion a merched.

Ym 1898, treuliodd Dinesen a'i dwy chwaer flwyddyn yn y Swistir, lle dysgodd siarad Ffrangeg. Yn 1902, aeth i ysgol gelf Charlotte Sode yn Copenhagen cyn parhau â'i hastudiaethau yn Academi Celfyddydau Cain Brenhinol Denmarc, o dan Viggo Johansen o 1903 i 1906. Yn ei chanol-oed, ymwelodd hefyd â Pharis, Llundain a Rhufain.

Bu'n briod i farwn Bror von Blixen-Finecke. Roedd Aage Westenholz (1859–1935) yn ewyrth i'r ddau ohonynt, ac awgrymodd y gallent sefydlu fferm goffi yn Siam, a buddsoddodd yn y fenter: 150,000 Coron Daneg. Yn gynnar ym 1913, gadawodd Bror Blixen-Finecke i Kenya. Dilynwyd ef gan ei ddyweddi ym mis Rhagfyr.

Bu farw Blixen, o ddiffyg maeth, yn Rungstedlund, yn 77 oed.[12]

Gwaith llenyddol golygu

Mae archif Karen Blixen yn Llyfrgell Frenhinol Denmarc, ac mae'n cynnwys cerddi heb eu cyhoeddi, dramâu a straeon byrion. Yn ei harddegau ac yn ei hugeiniau cynnar, mae'n debyg iddi dreulio llawer o'i hamser hamdden yn ymarfer y grefft o ysgrifennu. Dim ond pan oedd hi'n 22 oed y penderfynodd gyhoeddi rhai straeon byrion mewn cylchgronau llenyddol, gan fabwysiadu'r enw-awdur Osceola, sef enw ci ei thad.

  • Eneboerne (The Hermits), Awst 1907, cyhoeddwyd mewn Daneg yn Tilskueren dan yr enw Osceola)[13]
  • Pløjeren (The Ploughman), Hydref 1907, cyhoeddwyd mewn Daneg yn Gads danske Magasin, dan yr enw Osceola)[14]
  • Familien de Cats (The de Cats Family), Ionawr 1909, cyhoeddwyd mewn Daneg yn Tilskueren dan yr enw Osceola)[14]
  • Sandhedens hævn – En marionetkomedie, Mai 1926, cyhoeddwyd mewn Daneg yn Tilskueren, dan yr enw Karen Blixen-Finecke;[15] cyfieithwyd i'r Saesneg gan Donald Hannah dan y teitlThe Revenge of Truth: A Marionette Comedy a argraffwyd yn Performing Arts Journal yn 1986[16]
  • Seven Gothic Tales (1934 yn yr UDA, 1935 yn Denmark)[17]
  • Out of Africa (1937 yn Denmarc a Lloger, 1938 yn yr UDA)
  • Winter's Tales (1942)[18]
  • The Angelic Avengers (1946)[19]
  • Last Tales (1957)[20]
  • Anecdotes of Destiny (1958) (gan gynnwys Babette's Feast)[21]
  • Shadows on the Grass (1960 yn Lloegr a Denmarc, 1961 yn yr UDA)[22]
  • Ehrengard (1963, UDA)[23]
  • Carnival: Entertainments and Posthumous Tales (1977, UDA)[24]
  • Daguerreotypes and Other Essays (1979, United States)[25]
  • On Modern Marriage and Other Observations (1986, UDA)[26]
  • Letters from Africa, 1914–1931 (1981, UDA)[27]
  • Karen Blixen in Danmark: Breve 1931–1962 (1996, Denmarc)
  • Karen Blixen i Afrika. En brevsamling, 1914–31 i IV bind (2013, Denmark)[28]

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Academi Celfyddydau Cain Bafaria am rai blynyddoedd. [29][30]

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Beirniaid Daneg ar gyfer Llenyddiaeth (1957), Gwobr Tagea Brandt Rejselegat (1939), Ingenio et Arti (1950), Medal Holberg (1949), De Gyldne Laurbær (1952)[31] .

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Jørgensen & Juhl 2016.
  2. Engberg 2003.
  3. Updike 1986, t. 1.
  4. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb118857710. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://libris.kb.se/katalogisering/31fhb5qm0rw0j0j. LIBRIS. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018. dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2018.
  5. Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_43. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
  6. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb118857710. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  7. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb118857710. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Karen Blixen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Isak Dinesen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Karen Blixen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Karen Blixen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Isak Dinesen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Isak Dinesen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Karen Blixen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Karen Blixen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Karen BLIXEN". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Karen (Tania) Blixen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Karen Blixen-Finecke". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Karen Blixen". "Karen Blixen". "Karen Blixen". "Karen Christensen Blixen". "Karen Blixen". "Karen Dinesen". "Isak Dinesen". "Karen Blixen". "Karen Blixen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  8. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb118857710. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Karen Blixen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Isak Dinesen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Karen Blixen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Karen Blixen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Isak Dinesen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Isak Dinesen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Karen Blixen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Karen Blixen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Karen BLIXEN". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Karen Blixen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Karen (Tania) Blixen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Karen Blixen". "Karen Blixen". "Karen Christensen Blixen". "Karen Blixen". "Karen Dinesen". "Isak Dinesen". "Karen Blixen". "Karen Blixen". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  9. Man geni: https://www.gravsted.dk/person.php?navn=karenblixen.
  10. Tad: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  11. Mam: Darryl Roger Lundy (yn en), The Peerage, Wikidata Q21401824, http://thepeerage.com/
  12. Marianne T. Stecher (2014). The Creative Dialectic in Karen Blixen's Essays: On Gender, Nazi Germany, and Colonial Desire (yn Saesneg). University of Chicago Press. t. 107. ISBN 9788763540612.
  13. Karen Blixen Museet 2015.
  14. 14.0 14.1 Wilson 1991, t. 318.
  15. "Marionette Plays" 2016.
  16. Dinesen & Hannah 1986, tt. 107–127.
  17. Fall, John Updike; John Updike's New Novel, Roger's Version, Will Be Published In The (23 Chwefror 1986). "'SEVEN GOTHIC TALES': THE DIVINE SWANK OF ISAK DINESEN". The New York Times. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 15 Ebrill 2017.
  18. Spurling, Hilary. "Book choice: Winter's Tales". Telegraph.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Ebrill 2017.
  19. THE ANGELIC AVENGERS by Isak Dinesen | Kirkus Reviews (yn Saesneg).
  20. LAST TALES by Isak Dinesen | PenguinRandomHouse.com (yn Saesneg).
  21. Curry 2012.
  22. "Shadows on the Grass by Isak Dinesen". www.penguin.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Ebrill 2017.
  23. "Ehrengard | Karen Blixen". Adelphi Edizioni (yn Eidaleg). Cyrchwyd 15 Ebrill 2017.
  24. Carnival.
  25. Daguerreotypes and Other Essays.
  26. Summary/Reviews: On modern marriage, and other observations /. www.buffalolib.org (yn Saesneg). St. Martin's Press. 1986. ISBN 9780312584436. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-31. Cyrchwyd 15 Ebrill 2017.
  27. "The British Empire, Imperialism, Colonialism, Colonies". www.britishempire.co.uk. Cyrchwyd 15 Ebrill 2017.
  28. "Karen Blixen i Afrika : en brevsamling, 1914–31 – Karen Blixen | bibliotek.dk". bibliotek.dk (yn Daneg). Cyrchwyd 15 Ebrill 2017.
  29. Galwedigaeth: https://cs.isabart.org/person/132290. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 132290.
  30. Anrhydeddau: http://blixen.dk/liv-forfatterskab/karen-blixens-vaerker/priser-tildelt-karen-blixen/. http://blixen.dk/liv-forfatterskab/karen-blixens-vaerker/priser-tildelt-karen-blixen/.
  31. http://blixen.dk/liv-forfatterskab/karen-blixens-vaerker/priser-tildelt-karen-blixen/.