John Kelt Edwards
Cartwnydd o Gymru oedd John Kelt Edwards (4 Mawrth 1875 - 11 Hydref 1934).[1]
John Kelt Edwards | |
---|---|
Hunanbortread 1906 | |
Ffugenw | Pwyntil Meirion |
Ganwyd | 4 Mawrth 1875 Blaenau Ffestiniog |
Bu farw | 11 Hydref 1934 Talsarnau |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cartwnydd, arlunydd |
Tad | J. N. Edwards |
Mam | Margaret Edwards |
Cefndir
golyguCafodd John Edwards ei eni ym Mlaenau Ffestiniog ym 1875, yn fab i John Edwards, haearnwerthwr a Margaret ei wraig. Cafodd ei addysgu yn ysgol elfennol Blaenau Ffestiniog ac yng Ngholeg Llanymddyfri. O Lanymddyfri aeth am gyfnod i Wolverhampton i ddysgu ysgythru ac yno i Beaumont Academy, ar ynys Jersey. Dychwelodd adref i'r Blaenau gan aros yn ddibynnol ar gynhaliaeth ei dad.
Ym 1900 enillodd Edwards dystysgrif am 12 darlun ar thema Y Bardd Cwsg yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl. Parhaodd ei addysg yn Ecole des Beaux Arts, Paris.[2] Ym 1902 aeth i astudio yn Academi Brydeinig y Celfyddydau yn Rhufain. Tra ar y cyfandir y mabwysiadodd yr enw Kelt, yn ôl Ted Breeze Jones ar gyngor Augusta Hall, Llanofer, gan fod enw cyffredin fel John yn annhebygol o sefyll allan i artist addawol. (nid yw Ted Breeze Jones yn eglur os mae Gwenynen Gwent, neu Augusta ei merch oedd yn gyfrifol am awgrymu'r enw).[3]
Gyrfa
golyguYn ystod ei gyfnod ym Mharis arddangosodd ei waith yn y Salon Paris. Ym 1902 cafodd ei gomisiwn Cymreig pwysig cyntaf, sef peintio 12 o ddarluniau ar gyfer cyfieithiad Daniel Rees o Divina Commedia Dante (Dwyfol Gân 1902), gan arddangos dau o'r lluniau gwreiddiol yn Yr Academi Frenhinol Gymreig. Bu wedyn yn paratoi darluniau ar gyfer nifer o lyfrau a chylchgronau Cymreig megis clawr Cofiant a Barddoniaeth Ben Bowen, gan David Bowen (Myfyr Hefin), clawr Y Traethodydd, Cymru'r Plant a'r Winllan. Darluniodd nifer o luniau wedi selio ar chwedlau'r Mabinogi ar gyfer Cylchgrawn Cymru O. M Edwards. Cynhwyswyd rhai o'i luniau yng Nghyfrol Syr John Morris Jones "Gwlad fy Nhadau".[4]
Ar ôl ei gyfnod ar y cyfandir agorodd stiwdio yn Llundain, lle fyddai'n peintio portreadau o Gymru Llundain ac yn gwneud arddangosfeydd o'i dirluniau.[5] Ymysg y Cymry enwog gwnaeth portreadu ohonynt oedd Lloyd George, Megan ei ferch, Syr O. M Edwards, Syr Walter Morgan, Arglwydd Maer, Llundain, Syr Francis Edwards, Syr Samuel Thomas Evans, Syr Vincent Evans, John Hinds, Edward Thomas John a Timothy Davies.
Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf symudodd nifer o'r bobl bwysig oedd yn gallu fforddio talu am bortreadau allan o Lundain a bu'n rhaid i Edwards cau ei stiwdio. Symudodd i fyw i Gei Newydd, Talsarnau, bwthyn haf ar lan Afon Dwyryd oedd yn eiddo i'w deulu. Derbyniodd "pensiwn" o 3 swllt yr wythnos gan ei deulu at ei gadw. Bu'n ychwanegu at ei incwm trwy gynhyrchu printiau a chardiau i'w gwerthu trwy'r post. Yr enwocaf o rain oedd cerdyn marwnad i Hedd Wyn a gyhoeddwyd gan wasg y Brython ym 1918.[6]
Marwolaeth
golyguBu farw yng Nghei Newydd, Talsarnau o gancr yn 59 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Capel Bethesda, Blaenau Ffestiniog.
Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol Cymru casgliad archifau am John Kelt Edwards.
Oriel
golygu-
Syr Walter Morgan, Arglwydd Maer, Llundain (1905-06)
-
Cerdyn Post propaganda Rhyfel Byd 1af
-
John Edwards (Tad Kelt)
-
Margaret Edwards (Mam Kelt)
-
Cei Newydd, Talsarnau (cartref Kelt)
-
Llan Ffestiniog
-
cerdyn marwnad am Hedd Wyn
-
Banner Coffa ar gyfer Eisteddfod 1918
-
Felin Isaf, Cynwyd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "EDWARDS, JOHN KELT (1875 - 1934), arlunydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-01.
- ↑ "DANTE IN WELSH - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1902-10-25. Cyrchwyd 2020-10-01.
- ↑ Jones, E. V. Breeze (Edward V. Breeze), 1929-1997. (1994). Goleuo'r sêr : golwg ar Kelt Edwards a'i waith. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch. t. 14. ISBN 0-86381-302-X. OCLC 31292090.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ Y Ford Gron Cyfrol 1, Rhif 10, Awst 1931
- ↑ "AWELSHARTISTINLONDON - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1904-12-24. Cyrchwyd 2020-10-01.
- ↑ Llwyd, Alan; Gwae Fi Fy Myw, Cofiant Hedd Wyn; Cyhoeddiadau Barddas 1991 tud 264-267