Lancelot Thomas Hogben

sŵolegydd Prydeinig, ystadegydd, awdur gwyddoniaeth (1895-1975)

Sŵolegydd arbrofol ac ystadegydd meddygol o Loegr oedd Lancelot Thomas Hogben (9 Rhagfyr 189522 Awst 1975).

Lancelot Thomas Hogben
Ganwyd9 Rhagfyr 1895 Edit this on Wikidata
Portsmouth Edit this on Wikidata
Bu farw22 Awst 1975 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethmathemategydd, genetegydd, ystadegydd, swolegydd, llenor, ieithydd Edit this on Wikidata
SwyddAthro Regius mewn Hanes Natur Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodEnid Charles Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Croonian Medal and Lecture, Medal Keith Edit this on Wikidata

Bu'n byw yng Nglyn Ceiriog lle priododd ferch leol, a bu farw yn Wrecsam. Yn ôl yr Athro Gareth Ffowc Roberts, "Roedd ganddo ddiddordeb arbennig yn y Gymraeg... aeth ati o ddifrif i geisio'i meistroli." Yn 1957 priododd Jane Roberts, prifathrawes gynradd yn Nyffryn Ceiriog.[1]

Datblygodd y broga crafanc Affricanaidd (enw gwyddonol: Xenopus laevis) fel organeb enghreifftiol ar gyfer ymchwil fiolegol yn gynnar yn ei yrfa, ymosododd ar y mudiad ewgeneg yng nghanol ei yrfa, a phoblogeiddiodd lyfrau ar wyddoniaeth, mathemateg ac iaith ar ddiwedd ei yrfa.[2][3][4][5]

Bywyd cynnar

golygu

Cafodd Hogben ei eni a'i fagu yn Southsea ger Portsmouth yn Hampshire, Lloegr i rieni efengylaidd iawn; bu farw ei dad pan oedd Lancelot yn 11 oed. Yn ddyn ifanc, torrodd yn rhydd o grafangau crefyddol y teulu. Yn 1907, symdodd y teulu i Stoke Newington, Llundain, lle mynychodd Ysgol Sir Tottenham; yn wir, roedd ei fam wedi'i geni a'i magu yn yr ardal.

Academia

golygu

Yn fyfyriwr meddygol, astudiodd ffisioleg yn Ngholeg y Drindod, Caergrawnt,[3] lle graddiodd ym 1916, (gradd Gyffredin). Erbyn hyn roedd yn sosialydd i'r carn: newidiodd enw'r Fabian Society i'r 'Gymdeithas Sosialaid'.[6] Dau ddylanwad mawr arno yn y cyfnod hwn oedd y Marcsydd William Morris a'r Sosialydd Cymreig o'r Drenewydd, Robert Owen.

Wedi graddio, bu'n darlithio yn Llundain, cyn symud i Gaeredin i wneud gradd ymchwil ar anifeiliaid ac yna ymlaen i Brifysgol MacGill yng Nghanada, cynn iddo gael ei benodi'n Athro Swoleg ym Mhrifysgol Tref y Penrhyn (Cape Town), De Affrica lee gweithiodd ar lyffantod a phrofion beichiogrwydd menywod.[7] Gwrthwynebodd bolisi apartheid De Affrica yn ddigyfaddawd a symudoddodd yn 1930 i Ysgol Economeg Llundain fel Athro Bywydeg Cymdeithas lle gwnaeth waith pwysig mewn geneteg.

Cydwybod cymdeithasol

golygu

Roedd yn aelod gweithgar o'r Blaid Lafur Annibynnol, ac yn wrthwynebydd cydwybodol, fel y nodwyd. Yn 1958 ymunodd gyda'r Crynwyr. Ond yn ddiweddarach, roedd yn well ganddo ddisgrifio'i hun fel 'dyneiddiwr gwyddonol' yn hytrach nac fel 'sosialydd'.[8]

Roedd gan Hogben egwyddorion solat, ac un o'r rhai mwyaf cadarn oedd ei sosialaeth: credai y gallai mathemateg fod yn arf yn nwylo'r werin bobol er mwyn iddynt fedru rheoli eu tynged eu hunain.[9] Ar ôl iddo ddod i adnabod Cymru, dyfnahodd ei gydwybod cymdeithasol a'i ymdeimlad o anhegwch o fewn y gymdeithas. Canlyniad hyn oedd y cafwyd "min ac awch", chwedl yr Athro Gareth Ffowc Roberts, ar ei waith.

Y ddau Ryfel Byd

golygu

Y Rhyfel Byd Cyntaf

golygu

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yn heddychwr a gweithiodd am chwe mis gyda'r Groes Goch yn Ffrainc, dan adain Gwasanaeth Rhyddhad Dioddefwyr Rhyfel y Cyfeillion ac yna Uned Ambiwlans y Cyfeillion. Yna dychwelodd i Gaergrawnt, a chafodd ei garcharu yn Wormwood Scrubs fel gwrthwynebydd cydwybodol ym 1916, yn un deg chwech oed. Wedi cyfnod o waeledd, rhyddhawyd ef ym 1917. Roedd ei frawd George hefyd yn wrthwynebydd cydwybodol ac yn gwasanaethu gydag Uned Ambiwlans y Cyfeillion.

Priododd Hogben ym 1918 â'r mathemategydd, ystadegydd, a ffeminist Enid Charles o Ddinbych, a chawsant ddau fab a dwy ferch.[3] Fel y nodwyd, ailbriododd yn 1957 gyda Janes Roberts, prifathrawes gynradd yn Nyffryn Ceiriog.

Yr Ail Ryfel Byd

golygu

Gorfodwyd Hogben i weithio fel ystadegydd ym myddin Lloegr, a gwrthododd wisgo lifrai. Trodd ei heddychiaeth a'i ddaliadau yn ei erbyn, yn academia. Gweithiodd yn Napoli ar gyffuriau gwrtheiotig a sut y gall gorddefnydd o'r cyfuriau beri i facteria esblygu'n superbugs na ellir mo'u difa ee MRSA.

Gadawodd y fyddin yn 1942 ac aeth i weithio fel Athro Swoleg ym Mhrifysgol Birmingham.

Roedd gwaith Lancelot (a oedd bryd hynny yn Birmingham) ac Enid wedi eu cadw ar wahân drwy'r Ail Ryfel Byd a daeth eu perthynas dan straen. I geisio closio, prynnodd dŷ yng Nglyn Ceiriog, ond daeth eu perthynas i ben yn 1953.

Gwaith a gyhoeddwyd

golygu
  • A Short Life of Alfred Russel Wallace (1823-1913), p. 64 (London, Society for Promoting Christian Knowledge, 1918)[10]
  • Exiles of the Snow, and Other Poems (1918)
  • An Introduction to Recent Advances in Comparative Physiology (1924) gyda Frank R. Winton
  • The Pigmentary Effector System. A review of the physiology of colour response (1924)
  • Comparative Physiology (1926)
  • Comparative Physiology of Internal Secretion (1927)
  • The Nature of Living Matter (1930)
  • Genetic Principles in Medical and Social Science (1931)
  • Nature or Nurture - The William Withering Lectures for 1933 (1933)
  • Mathematics for the Million: A Popular Self-Educator (London, George Allen & Unwin, 1936), illustrated by Frank Horrabin, Primers for the Age of Plenty - No. 1. Re-issued in the United States by W. W. Norton & Company, Inc. (1937).[11]
  • The Retreat from Reason (1936) Conway Memorial Lecture 20 Mai 1936, chaired by Julian Huxley.[12]
  • Science for the Citizen: A Self-Educator Based on the Social Background of Scientific Discovery (London, George Allen & Unwin, 1938), illustrated by Frank Horrabin, Primers for the Age of Plenty - No. 2.
  • Political Arithmetic: A Symposium of Population Studies (1938) golygydd
  • Dangerous Thoughts (1939)
  • Author in Transit (1940)
  • Principles of Animal Biology (1940)
  • Interglossa: A Draft of an Auxiliary for a Democratic world order, Being an Attempt to Apply Semantic Principles to Language Design (1943)
  • The Loom of Language: A Guide To Foreign Languages For The Home Student gan Frederick Bodmer (1944), ac a olygwyd gan Hogben, Primers ar gyfer The Age of Plenty - No. 3.
  • An Introduction to Mathematical Genetics (1946)
  • History of the Homeland: The Story of the British Background gan Henry Hamilton (1947), edited by Hogben, Primers for the Age of Plenty - No. 4.
  • The New Authoritarianism (1949) Conway Memorial Lecture 1949[13]
  • From Cave Painting To Comic Strip: A Kaleidoscope of Human Communication (1949)
  • Chance and Choice by Cardpack and Chessboard (1950)
  • Man Must Measure: The Wonderful World of Mathematics (1955)
  • Statistical theory. The relationship of probability, credibility and error. An examination of the contemporary crisis in statistical theory from a behaviorist viewpoint (1957)
  • The Wonderful World Of Energy (1957)[14]
  • The Signs of Civilisation (1959)
  • The Wonderful World of Communication (1959)
  • Mathematics in the Making (1960)
  • Essential World English (1963) gyda Jane Hogben a Maureen Cartwright
  • Science in Authority: Essays (1963)
  • The Mother Tongue (1964)
  • Wales for the Welsh — A Tale of War and Peace with Notes for those who Teach or Preach (1967)
  • Beginnings and Blunders or Before Science Began (1970)
  • The Vocabulary Of Science (1970) gyda Maureen Cartwright
  • Astronomer Priest and Ancient Mariner (1972)
  • Maps, Mirrors and Mechanics (1973)
  • Columbus, the Cannon Ball and the Common Pump (1974)
  • How The World Was Explored, golygydd, gyda Marie Neurath a Joseph Albert Lauwerys
  • Hogben, Anne; Hogben, Lancelot Thomas; Hogben, Adrian. Lancelot Hogben: scientific humanist: an unauthorised autobiography (1998)[15]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cyfri'n Cewri; t. 75. Gwasg Prifysgol Cymru (2020).
  2. Sarkar, S. (1996). "Lancelot Hogben, 1895-1975". Genetics 142 (3): 655–660. PMC 1207007. PMID 8849876. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1207007.
  3. 3.0 3.1 3.2 Bud, Robert (2004). "Lancelot Hogben". The Oxford Dictionary of National Biography (Oxford University Press) 1. doi:10.1093/ref:odnb/31244.
  4. Tabery, J. (2008). "R. A. Fisher, Lancelot Hogben, and the origin(s) of genotype-environment interaction". Journal of the History of Biology 41 (4): 717–761. doi:10.1007/s10739-008-9155-y. PMID 19244846.
  5. Tabery, J. (2007). "Biometric and developmental gene–environment interactions: Looking back, moving forward". Development and Psychopathology 19 (4): 961–976. doi:10.1017/S0954579407000478. PMID 17931428. https://archive.org/details/sim_development-and-psychopathology_fall-2007_19_4/page/961.
  6. Cyfri'n Cewri; t. 78. Gwasg Prifysgol Cymru (2020).
  7. Cyfri'n Cewri; t. 79. Gwasg Prifysgol Cymru (2020).
  8. Kunitz, Stanley J. a Haycraft, Howard Awduron yr Ugeinfed Ganrif, Geiriadur Bywgraffyddol Llenyddiaeth Fodern , (Trydydd Argraffiad). Efrog Newydd, The H.W. Cwmni Wilson, 1950, (tt. 658–59)
  9. Cyfri'n Cewri; t. 84. Gwasg Prifysgol Cymru (2020).
  10. Milo Keynes. "Lancelot Hogben, FRS (1895-1975)". Galton Institute December 2001 Newsletter. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Medi 2015. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2014.Reprinted from Notes and Records of the Royal Society, London, 1999; vol. 53: pp. 361-369, part 2 Archifwyd 24 Medi 2015 yn y Peiriant Wayback
  11. Phillip Gething, "Forum: A whiff of optimism – Whatever happened to self-improvement?", New Scientist, 21 Gorffennaf 1990. Retrieved 6 Ionawr 2019.
  12. "1936 Lancelot Hogben: The Retreat From Reason". Conway Hall Ethical Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2014.
  13. "1949 Lancelot Hogben: The New Authoritarianism". Conway Hall Ethical Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2014.
  14. Gale, Floyd C. (Medi 1958). "Galaxy's 5 Star Shelf". Galaxy Science Fiction. t. 104.
  15. Hogben, Anne; Hogben, Lancelot Thomas; Hogben, Adrian (1998). Lancelot Hogben: scientific humanist: an unauthorised autobiography. London: Merlin. ISBN 978-0-85036-470-5.