Laura Trott
Seiclwraig trac o Loegr ydy Laura Rebecca Trott, neu Laura Kenny (ganwyd 24 Ebrill 1992), sy'n arbenigo yn y Ras ymlid tîm a'r omnium. Trott yw'r ferch Brydeinig sydd â'r nifer fwyaf o fedalau aur Olympaidd ar ôl iddi ennill medal aur yn y ddau ddisgyblaeth yng Ngemau Olympaidd 2012 a 2016[1]. Enillodd Laura a Katie Archibald medal aur yn y Madison yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020.[2] O ganlyniad i'w pherfformiadau yn 2021, hi yw'r athletwr Olympaidd benywaidd Prydeinig mwyaf llwyddiannus.[3]
Laura Trott | |
---|---|
Ganwyd | Laura Rebecca Trott 24 Ebrill 1992 Harlow |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | seiclwr trac, seiclwr cystadleuol |
Taldra | 163 centimetr |
Pwysau | 52 cilogram |
Priod | Jason Kenny |
Gwobr/au | OBE, CBE, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig |
Gwefan | https://www.laurakenny.org/ |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Wiggle High5 Pro Cycling, Matrix Fitness |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Bywyd cynnar
golyguGaned Trott yn Harlow, Essex ond roedd fis yn gynnar ac roedd cymhlethdod gan iddi ddioddef ysgyfaint wedi cwympo[4]. Cafwyd ei bod ag asthma yn ddiweddarach gyda'r meddygon yn crybwyll y dulai gymryd rhan mewn chwaraeon fel ffordd i reoli ei hanadlu[5][6].
Mae ei chwaer hŷn Emma Trott yn gyn feicwraig proffesiynol gyda thîm Boels-Dolmans yn yr Iseldiroedd[7] ac roedd yn ddwy yn aelodau o garfan beicio Lloegr yng Ngemau'r Gymanwlad 2010 yn Delhi Newydd, India[8].
Dechreuodd y ddwy chwaer seiclo gyda'u mam oedd am golli pwysau[9].
Mae Trott yn wraig i'r seiclwr Jason Kenny.
Gyrfa seiclo
golyguCafodd Trott lwyddiant cynnar gan ennill yr omnium dan14 ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain cyn dod yn aelod o garfan datblygu British Cycling.
Mae Trott wedi ennill Pencampwriaeth y Byd a Phencampwriaeth Ewrop ar bedair achlysur fel aelod o dîm Ras ymlid tîm Prydainac hefyd yn gyn Bencampwr Byd yng nghystadleuaeth yr omnium[10][11].
Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012 enillodd Trott fedal aur yn y Ras ymlid tîm ynghyd â Dani King a Joanna Rowsell[12] gan greu record byd o 3:14.051 yn y rownd derfynol yn erbyn Unol Daleithiau America[13], record oedd y tîm wedi llwyddo i'w dorri ar chwe achlysur yn olynol[12]. Dau ddiwrnod yn ddiweddarach casglodd Trott fedal aur yn yr omnium[14][15]
Yng Ngemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro, Brasil, llwyddodd Trott i efelychu ei champau yn llundain gan ennill medal aur fel aelod o dîm Ras ymlid tîm Prydain Fawr gyda Joanna Rowsell, Elinor Barker a Katie Archibald, gyda'r pedwarawd yn llwyddo i dorri y record byd yn y rownd derfynol[16] a chasglodd ei phedwaredd medal aur, gan ddod y ferch Prydeinig sydd â'r nifer fwyaf o fedalau aur Olympaidd[1].
Canlyniadau
golygu- 2008
- 3ydd Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Iau
- 2009
- 2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Cylchffordd Prydain
- 1af Ras ymlid, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Iau
- 1af Ras bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Iau
- 2il Treial amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Iau
- 3ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Madison Prydain (gyda Hannah Mayho)
- 2010
- 1af Ras ymlid tîm, Pencampwriaethau Trac Ewrop 2010
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Derny Prydain
- 3ydd Ras ymlid, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Ras ymlid, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Iau
- 1af Treial amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Iau
- 2il Ras bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Iau
- 2il Ras scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Iau
- 2011
- 1af Ras ymlid tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 1af Omnium, Pencampwriaethau Trac Ewrop 2011
- 1af Ras ymlid tîm, Pencampwriaethau Trac Ewrop 2011
- 1af Ras ymlid tîm, Cwpan y Byd Trac, UCI, Cali
- 1af Ras ymlid, Pencampwriaethau Trac Ewrop 2011, Dan 23
- 1af Ras scratch, Pencampwriaethau Trac Ewrop 2011, Dan 23
- 1af Ras ymlid tîm, Pencampwriaethau Trac Ewrop 2011, Dan 23
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain, Dan 23
- 2il Ras ymlid, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2il Ras bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2il Ras scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 3ydd Omnium, Cwpan y Byd Trac, UCI, Cali
- 3ydd Treial amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2012
- 1af Omnium, Gemau Olympaidd yr Haf 2012
- 1af Ras ymlid tîm, Gemau Olympaidd yr Haf 2012
- 1af Omnium, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 1af Ras ymlid tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 1af Ras ymlid tîm, Cwpan y Byd Trac, UCI, Llundain
- 3ydd Omnium, Cwpan y Byd Trac, UCI, Llundain
- 2013
- Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2013
- 1af Ras ymlid tîm
- 2il Omnium
- Pencampwriaethau Trac Ewrop 2013
- UEC Pencampwriaethau Trac Ewrop U23
- 1af Road Race, National U23 Road Championships
- Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain 2013
- Cwpan y Byd Trac, UCI
- 1af Ras ymlid tîm – Manceinion
- 1af Omnium – Manceinion
- 2il Omnium – Aguascalientes
- 3ydd Ras scratch, Chwyldro – Round 1, Manceinion
- 2014
- Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2014
- 1af Ras ymlid tîm
- 2il Omnium
- Pencampwriaethau Trac Ewrop 2014
- 1af Ras bwyntiau, Gemau'r Gymanwlad 2014
- National Track Championships
- Cwpan y Byd Trac, UCI 2014-15
- 1af Ras ymlid tîm – Guadalajara
- 1af Ras ymlid tîm – Llundain
- 1af Omnium – Llundain
- Chwyldro
- 1af Omnium – Rownd 1, Llundain
- 1af Ras bwyntiau – Rownd 4, Manceinion
- 1af Ras scratch – Rownd 4, Manceinion
- 1af Omnium – Rownd 5, Llundain
- 1af Ras bwyntiau – Rownd 2, Manceinion
- 3ydd Ras scratch – Rownd 2, Manceinion
- 1af Omnium, Fenioux Piste Rhyngwladol
- 2015
- Pencampwriaethau Trac Ewrop 2015
- Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- Chwyldro
- 1af Omnium – Rownd 1, Derby
- 1af Ras bwyntiau – Rownd 2, Manceinion
- 1af Ras bwyntiau – Rownd 4, Glasgow
- 1af Ras bwyntiau – Rownd 5, Llundain
- 1af Ras scratch – Rownd 4, Glasgow
- 1af Ras scratch – Rownd 5, Llundain
- 2il Ras scratch – Rownd 1, Derby
- 3ydd Ras ymlid tîm unigol – Round 1, Derby
- 3ydd Ras scratch – Rownd 6, Manceinion
- Grand Prix Gwlad Pwyl
- Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2015
- 2il Ras ymlid tîm
- 2il Omnium
- 2il Omnium, Cyfarfod Radsport Rhyngwladol
- 2016
- Gemau Olympaidd yr Haf 2016
- Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2016
- 1af Pencampwriaethau Genedlaethol Prydeinig Madison
- Chwyldro
- 1af Ras bwyntiau - Rownd 5, Manceinion
- 1af Ras bwyntiau - Rownd 6, Manceinion
- 1af Ras scratch - Rownd 6, Manceinion
- 2il Ras scratch - Rownd 5, Manceinion
- 1af Omnium, Grand Prix Gwlad Pwyl
- 1af Omnium, Fenioux Piste Rhyngwladol
- Cynghrair y Pencampwyr Chwyldro
- 2il Omnium - Rownd 2, Llundain
- 2il Ras scratch - Rownd 2, Llundain
- 3ydd Ras bwyntiau - Rownd 2, Llundain
- 2021
- 2il Ras ymlid tîm, Gemau Olympaidd yr Haf 2020
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Laura Trott makes British Olympic history with fourth gold medal in Omnium". theGuardian. 2016-08-17.
- ↑ "Laura Kenny and Katie Archibald win gold for Team GB in madison cycling". Evening Standard. Cyrchwyd 6 Awst 2021.
- ↑ "Tokyo Olympics: Laura Kenny and Katie Archibald win madison gold before Jack Carlin wins sprint bronze". BBC Sport. Cyrchwyd 6 Awst 2021.
- ↑ Donald McRae. "Laura Trott sick to the stomach in pursuit of London 2012 glory", 6 Chwefror 2012.
- ↑ Laura Trott: About Me.
- ↑ Sam Marsden. "Laura Trott battled back from collapsed lung to Olympic gold", 7 Awst 2012.
- ↑ "Emma Trott announces her retirement after home stage of Women's Tour". cyclingweekly. 2014-05-10.
- ↑ Mark Hemmings (21 Hydref 2010). Trott sisters look back on Commonwealth Games experience. Welwyn Hatfield Times. Adalwyd ar 25 Rhagfyr 2011.
- ↑ Vernon Kay (14 Awst 2012). interview on bbc radio. Adalwyd ar 14 Awst 2012.
- ↑ Nick Bull (22 Chwefror 2011). Laura Trott Rider Profile. Cycling Weekly.
- ↑ Ollie Williams (7 Ebrill 2012). Track Worlds: Laura Trott wins omnium as Kenny beats Hoy. BBC.
- ↑ 12.0 12.1 Olympics cycling: British women win team pursuit track gold. BBC (4 Awst 2012).
- ↑ Douglas Morton (4 Awst 2012). Team GB win gold medal in women's team pursuit with world record time - Cycling - Olympics. The Independent. Adalwyd ar 9 Awst 2012.
- ↑ Matt Slater (4 Awst 2012). BBC Sport - Olympics cycling: Laura Trott wins omnium gold medal. BBC. Adalwyd ar 9 Awst 2012.
- ↑ "Laura Trott wins omnium gold for Team GB".
- ↑ "Wales' Elinor Barker wins gold medal in team pursuit". BBC Sport. 2018-08-14.
- ↑ https://www.britishcycling.org.uk/zuvvi/media/bc_files/track/GP_Poland_womens_omnium_race.pdf
- ↑ https://www.britishcycling.org.uk/zuvvi/media/bc_files/track/GP_Poland_womens_scratch_race.pdf
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol
- Proffil Laura Trott ar Cycling Archives
- Biography at British Cycling
- Profile Archifwyd 2012-04-19 yn y Peiriant Wayback at Team Ibis Cycles