Lithwania

(Ailgyfeiriad o Lithiwaneg)

Gweriniaeth yng ngogledd-ddwyrain Ewrop yw Lithwania (yn swyddogol: Gweriniaeth Lithwania; ceir y ffurf Llethaw mewn un geiriadur Cymraeg[1]). Saif ar lan y Môr Baltig. Un o'r Gwledydd Baltig yw Lithwania, ynghyd ag Estonia a Latfia. Mae Lithwania yn ffinio â Latfia i'r gogledd, â Belarws i'r de-ddwyrain, ac â Gwlad Pwyl a Kaliningrad Oblast, sy'n ran o Rwsia, i'r de-orllewin. Daeth Lithwania yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Mai 2004.

Lithwania
Lietuvos Respublika
ArwyddairVienybė težydi Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwladwriaeth unedol, gwlad sy'n ffinio gyda'r Môr Baltig, gwlad Edit this on Wikidata
PrifddinasVilnius Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,860,002 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 11 Mawrth 1990 (gwladwriaeth sofran, Deddf Ail-Sefydliad Talaith Lithwania) Edit this on Wikidata
AnthemTautiška giesmė Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethIngrida Šimonytė Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
NawddsantSant Casimir Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Lithwaneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolGwledydd Baltig, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd, Gogledd Ewrop Edit this on Wikidata
Arwynebedd65,300 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Baltig Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBelarws, Latfia, Gwlad Pwyl, Rwsia, Sweden Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau55.2°N 24°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Lithwania Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSeimas Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Llywydd Gweriniaeth Lithwania Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethGitanas Nausėda Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Lithwania Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethIngrida Šimonytė Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$66,415 million, $70,334 million Edit this on Wikidata
ArianEwro Edit this on Wikidata
Canran y diwaith11 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.59 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.875 Edit this on Wikidata

Hanes Lithwania

golygu

Prif-bwyntiau Hanes Lithwania

  • 10 Ganrif – Llywthau Lithwnaiad-Prwsiaid paganaid.
  • 980au – Cristnogaeth yn dod i gymdogion y Lithwaniaid-Prwsiaid.
  • 997 – Merthyrdod St Adalbert ym Mrwsia.
  • 1007 – Son cyntaf am Lithwania mewn dogfen.
  • 1147 – Croesgad cyntaf yn erbyn paganiaid Baltaidd – tranc y Prwsiaid.
  • 1200 – Ail groesgad yn erbyn y Lithwaniaid.
  • 1215 – Esgob cyntaf y Lithwaniaid ond y wlad yn bagan o hyd.
  • 1219 – Mindaugas Brenin cyntaf y Lithwaniaid 1219–63.
  • 1236 – Lithwaniaid yn gorfygu y croesgadwyr ym mrwydr Siaulai.
  • 1315 – Gediminas yn arwain Lithwania 1315–41.
  • 1385 – Jogaila yn cael ei bedyddio, Lithwania yn troi yn Gristnogol a ffurfio Brenhiniaeth Lithwania-Pwyl.
  • 1410 – Lithwania-Pwyl yn trechu'r Almaenwyr ym mrwydr Grunwald. Ffyniant y wlad.
  • 1569 – Lithwania-Pwyl yn ffurfio "Cymanwlad".
  • 16C – Twf Rwsia a Sweden yn raddol dileu tiroedd y Lithwaniaid, mae'r wlad yn cael ei rhannu dro ar ôl tro dros y tair canrif wedyn. Adnabyddir y cyfnod yn well fel "rhaniad triphlyg Pwyl".
  • 19C – Lithwania dan Ymerodraeth Rwsia, mudiad am annibyniaeth yn egino.
  • 1918–1939 – Ar 16/02/1918 mae'r Lithwaniaid yn datgan annibynniaeth, ond y Pwyliaid yn cymryd Vilnius ym 1919. Cawnas yn Brifddinas. Cyfnod annibynnol yn symud at unbennaeth.
  • 1940 – Meddiannu Lithwania gan y Rwsiaid (Sofietaidd).
  • 1940–44 – Meddiannu Lithwania gan y Natsiaid.
  • 1944–89 – Meddiannu Lithwania gan y Rwsiaid (Sofietaidd) fel Gweriniaeth Sofiet gyda Vilnius yn brifddinas.
  • 1990 – Ar 11/03 1990 mae'r Lithwaniaid yn datgan annibynniaeth.
  • 2004 – Ymuno â NATO 2004 a'r Undeb Ewropeaidd.
  • 2007 – Ymuno â Chytundeb Schengen.

Hanes fodern

golygu

Mae hanes fodern Lithiwania ynghlwm wrth hanes y cenhedloedd mawr yn yr 20g. Gyda chwymp ymerodraeth yr Almaen ym 1918 daeth hi, a'i chymdogion Estonia a Latfia, yn rhydd ac yn genhedloedd annibynnol. Daeth hyn i ben dan y gytundeb rhwng Rwsia a'r Almaen ym 1939. Yn ystod y rhyfel meddiannwyd y wlad gan y Natsiaid a bu farw 190,000 o ddinasyddion Iddewig Lithwania. Wedi'r rhyfel aeth y wlad i mewn i'r Undeb Sofietaidd tan 1991. O 1944 tan 1952 roedd byddin cudd gwrth-Sofiet yn y wlad a charcharwyd miloedd o Lithwaniaid yn y Gwlagau.

Ers ei hannibyniaeth symudodd y wlad tuag at Ewrop, ymunodd a'r UE a NATO a bu ffyniant economaidd. Ond gydag agor y drysau i allfudo gadawodd miloedd o bobl ifainc am Brydain a'r Almaen.

Ethnigrwydd

golygu

Mae poblogaeth Lithwania yn amrywio (mae'r ffigyrau swyddogol yn cynnwys pobl sy'n byw tramor) ond honnir bod 3,349,900, 84.0% o'r rhain yn Lithwaniaid ethnig sy'n siarad yr iaith Lithwaneg sef unig iaith swyddogol y wlad. Mae lleiafrifoedd eraill yn cynnwys Pwyliaid (6.1%), Rwsiaid (4.9%) a Belarwsiaid (1.1%), yn ôl "Department of Statistics to the Government of the Republic of Lithwania".[2]

Ffigyrau 2010 yn dangos:

Siroedd weinyddol

golygu

Mae gan Lithwania ddeg siroedd a chwe deg o ddosbarthiadau gweinyddol, er bod ddim gan y deg siroedd lywodraethau leol ers eu dilead yn y flwyddyn 2010, mae'r siroedd yn dal i fodoli gyda'r bwriad o gasglu ystadegau lleol.

Cyfeiriadau

golygu
  1. The Pocket Modern Welsh Dictionary
  2. "Yr etholiadau". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-27. Cyrchwyd 2011-09-11.
  • "The Northern Crusades". Eric Christiansen. Penguin. 1997. (Hanes y Gwledydd Baltaidd)
  • "Pe Bai Cymru'n Rhydd". Gwynfor Evans. Y Lolfa. 1989. Pennod ar y Gwledydd Baltaidd.
  • "Lithwania". Encyclopedia Britannica. darllenwyd 9 Hydref 2010.
  • "Population by ethnicity 2009 year". DB1.stat.gov.lt. Statistics Lithwania. darllenwyd 20 Ionawr 2010.
  • Statistics Lithwania