Llenyddiaeth taith

(Ailgyfeiriad o Llenorion taith)

Genre lenyddol yw llenyddiaeth taith[1] sydd yn disgrifio profiadau'r awdur wrth iddynt deithio o amgylch man dieithr, gan gofnodi'r bobl, digwyddiadau, golygfeydd a theimladau. Mae'r pwnc yn debyg i gynnwys teithlyfr cyffredinol y twrist, o ran gwybodaeth am yr ardal dan sylw, ond caiff ei ystyried o'r un gwerth â llenyddiaeth greadigol, gyda naratif personol llawn myfyrdodau a barnau'r awdur, yn ogystal â sylwadau ar y gymdeithas a diwylliant lleol a chyd-destun hanesyddol. Llenyddiaeth ffeithiol ydyw fel rheol, er bod rhai llenorion taith yn euog o orliwio neu hyd yn oed ffugio'u profiadau. Mae'r nofel deithio yn ffurf ffuglennol ar lenyddiaeth taith.

Llenyddiaeth taith
Tudalen flaen How I Found Livingstone (1872), un o lyfrau'r fforiwr Henry Morton Stanley am ei deithiau trwy Affrica.
Enghraifft o'r canlynoldosbarth llenyddol Edit this on Wikidata
Mathnaratif, gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Er mwyn i'r gwaith gael ei ystyried yn llenyddiaeth, rhaid fod ganddo naratif cydlynus, neu fewnweledigaeth a gwerth sydd yn fwy na chofnodi dyddiadau a digwyddiadau'n unig, er enghraifft mewn dyddiadur neu log llongau. Mae llenyddiaeth sy'n olrhain anturiaethau ac archwiliadau yn aml yn cael eu categoreiddio o dan llenyddiaeth taith ond mae iddo hefyd ei genre ei hun o lenyddiaeth awyr agored; yn aml, bydd y mathau yma o lenyddiaeth yn gor-gyffwrdd heb unrhyw ffiniau cadarn.

Gellir olrhain llenyddiaeth am deithiau yn ôl i weithiau hynafol megis hanesion Herodotus a disgrifiad Pausanias o Roeg yr Henfyd. Mae esiamplau nodedig o'r Oesoedd Canol yn cynnwys hunangofiant Marco Polo ac Hanes y Daith Trwy Gymru gan Gerallt Gymro.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Llenyddiaeth taith" yn yr Esboniadur (Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). Adalwyd ar 10 Gorffennaf 2024.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.