Agor y brif ddewislen

Casllwchwr

tref ar aber yr Afon Llwchwr, yn sir Abertawe
(Ailgyfeiriad oddi wrth Llwchwr)

Mae Casllwchwr (neu Llwchwr;[1] Saesneg: Loughor) yn dref ar aber yr Afon Llwchwr, yn sir Abertawe. Mae ganddi boblogaeth o 9,080 (2001). Ers 1969 bu yma orsaf bad achub annibynol, gyda chwch blaenllaw iawn (o ran technoleg) sef Ribcraft 5.85 m. Mae yma ddwy ysgol gynradd: Ysgol Gynradd Tre Uchaf ac Ysgol Gynradd Trellwchwr. Mae yma hefyd adran o Brifysgol Abertawe.

Casllwchwr
Loughor.jpg
Math tref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.6626°N 4.0646°W Edit this on Wikidata
Cod OS SS573980 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Rebecca Evans (Llafur)
AS/au Tonia Antoniazzi (Llafur)

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Rebecca Evans (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Tonia Antoniazzi (Llafur).[2][3]

HanesGolygu

Roedd caer Rufeinig yma o'r enw Leucarium. Ar ôl i'r Rhufeiniaid ymadael daeth Casllwchwr yn rhan o deyrnas Gŵyr. Mae'n bosibl mai Casllwchwr oedd canolfan wleidyddol a gweinyddol hen gantref Eginog yn yr Oesoedd Canol Cynnar. Adeiladwyd castell Normanaidd ar safle'r hen gaer Rufeinig yn 1099 a chipiwyd hi gan y Cymry yn 1115, 1136 ac yn 1213.[1]

Ymwelodd Gerallt Gymro â Chasllwchwr yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Ar un adeg roedd porthladd yma ond yn yr 20g y prif ddiwydiant oedd tun a dur.

Rhywle rhwng Casllwchwr ac Abertawe yn Ionawr 1136, ymladdwyd brwydr enfawr gyda thros 500 o'r Normaniaid yn cael eu lladd; tua'r un adeg ymosododd Gwenllian ar Gastell Cydweli yn aflwyddiannus.

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llwchwr (pob oed) (9,134)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llwchwr) (1,455)
  
16.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llwchwr) (7942)
  
86.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llwchwr) (1,418)
  
36.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2007; tudalen 573
  2. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013