Llychlys Iwerydd
Llychlys Iwerydd Lejeunea mandonii | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Porellales |
Teulu: | Lejeuneaceae |
Genws: | Lejeunea |
Rhywogaeth: | L. mandonii |
Enw deuenwol | |
Lejeunea mandonii |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Llychlys Iwerydd (enw gwyddonol: Lejeunea mandonii; enw Saesneg: Atlantic pouncewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Porellales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru. Fe'i darganfuwyd mewn dim ond llond llaw o safleoedd yng ngwledydd Prydain: yn An Lysardh yng ngorllewin Cernyw ac yng ngorllewin yr Alban, Iwerddon, Madeira, yr Ynysoedd Dedwydd, Portiwgal a gorllewin Sbaen.
Mae'n llysieyn afu bach deiliog sy'n tyfu ar greigiau a rhisgl coed. Mae ei goesau'n fain iawn, fel arfer yn llai na 10mm o hyd ac yn ffurfio clytiau melyn-wyrdd llachar isel neu brostad, yn aml yn tyfu dros fwsoglau isel.
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.