Llŷr Marini

(Ailgyfeiriad o Llyr Marini)

Cymeriad Cymreig cynnar yw Llŷr Marini ac y cyfeirir ato yn yr achresau Cymreig ac yn Nhrioedd Ynys Prydain.

Yn ôl Achresau Harley, roedd yn fab i Einion Yrth fab Cunedda, ac yn ôl Bonedd y Saint ef oedd tad yr arwr Caradog Freichfras. Ategir hyn gan y chwedl fwrlesg Breuddwyd Rhonabwy, sy'n enwi 'Caradog Freichfras ap Llyr Marini'.[1] Mae hyn yn ei osod yn llinach Cunedda, un o Wŷr y Gogledd a ddaeth o'r Hen Ogledd i ogledd Cymru yn y 5g ac a sefydlodd Deyrnas Gwynedd. Cyfeirir ato fel tad Caradog Freichras mewn amrywiad ar un o'r Trioedd hefyd. Mewn triawd arall a geir yn Llyfr Gwyn Rhydderch disgrifir 'Tri Tharw Ellyll Ynys Brydain', sy'n cynnwys 'Ellyll Llyr Marini'. Mae'n bosibl mai rhyfelwyr gorphwyll, fel berserks y Llychlynwyr, a olygir gan y term 'tarw ellyll'.[2]

Mae union ystyr yr enw Marini yn ansicr. Gallasai ddeillio o'r gair Hen Gymraeg merin ('môr'), ond ceir sawl enghraifft o Marini fel epithet Lladin cynnar hefyd, yng Nghymru ac Iwerddon. Mae'r ffaith fod merin yn golygu 'môr' a'r posibilrwydd fod Marini yn Lladiniad o'r gair Cymraeg Canol llŷr ('môr') yn ategu'r posiblrwydd fod Llŷr Marini yn rhith ar y duw Llŷr (Llŷr Llediaith), tad sawl cymeriad chwedlonol yn y Mabinogi, ond does dim chwedlau am Llŷr Marini ac mae ganddo le taclus yn yr achrestrau hanesyddol cynnar.[3]

Cyfeirir ato sawl gwaith yng ngwaith y beirdd, e.e. gan Lewys Glyn Cothi a Huw Cae Llwyd yn y 15g, ond heb ychwanegu at ein gwybodaeth amdano.

Cyfeiriadau golygu

  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1991), tud.430.
  2. Trioedd Ynys Prydein, Triawd 63.
  3. Trioedd Ynys Prydein, tud. 430.