Huw Cae Llwyd

bardd

Un o Feirdd yr Uchelwyr yn ail hanner y 15g oedd Huw Cae Llwyd (ganed tua 1431 - bu farw ar ôl 1505). Fe'i cofir yn bennaf fel bardd mawl a ganodd i rai o wŷr enwocaf y cyfnod. Roedd ei fab, Ieuan ap Huw Cae Llwyd, yn fardd hefyd, ac mae'n debygol y bu Huw yn athro barddol iddo.[1]

Huw Cae Llwyd
Ganwydc. 1431 Edit this on Wikidata
Llandderfel Edit this on Wikidata
Bu farw1500s Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Blodeuodd1431 Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ychydig iawn a wyddom am fywyd y bardd ar wahân i'r dystiolaeth a geir yn ei gerddi. Mae bron yn sicr iddo gael ei eni yn Llandderfel, Sir Feirionnydd, tua'r flwyddyn 1431. Yn ddyn ifanc, gadawodd Gogledd Cymru i ymsefydlu ym Mrycheiniog (1456), gan alw yn Llinwent, Maesyfed, ar ei ffordd i'r De. Yn 1475 aeth gyda'i fab Ieuan ar bererindod i Rufain.[1]

Canodd i rai o arglwyddi Cymreig pwysicaf y dydd ym Mrycheiniog, Gwent a Morgannwg. Roedd ei noddwyr yn cynnwys disgynyddion Dafydd Gam, Syr Rosier o'r Tretŵr, Syr Rhys ap Thomas, a sawl aelod o deulu'r Herbertiaid yn cynnwys Syr Walter Herbert.[1]

Yn ôl un traddodiad cafodd ei gladdu ym mynwent eglwys Llanuwchllyn, ond does dim prawf o hynny.[1]

Cerddi

golygu

Canu mawl traddodiadol yw swmp gwaith y bardd. Canodd sawl cywydd mawl a marwnad i arweinwyr Cymreig y Deheudir (gweler uchod). Roedd hyn yng nghyfnod Rhyfeloedd y Rhosynnau ac ymgyrch Harri Tudur, ond ni cheir cerdd ganddo i'r gwron hwnnw. Canodd gywyddau a cherddi crefyddol hefyd, yn cynnwys un a gyfansoddodd yn Rhufain, cerddi i Grist a'r Seintiau, ac un i Grog Aberhonddu. Dim ond un gerdd serch sydd ganddo.[1]

Dyma ddarn o'i gywydd i Greiriau Rhufain fel enghraifft o'i waith:

A rifai greiriau Rufain,
A rifai'r môr, ef, a'r main,
Gwyrthiau heb ei gywerthydd
Gan un o'r rhain a'm gwnâi'n rhydd.[2]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Leslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac eraill (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953). Y golygiad safonol o waith y bardd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Leslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac eraill (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953). Rhagymadrodd.
  2. Leslie Harries (gol.), Gwaith Huw Cae Llwyd ac eraill (Gwasg Prifysgol Cymru, 1953).